1 Brenhinoedd 5 BCN

Solomon yn Paratoi i Adeiladu'r Deml

1 Pan glywodd Hiram brenin Tyrus mai Solomon oedd wedi ei eneinio yn frenin yn lle ei dad, anfonodd ei weision ato, oherwydd bu Dafydd yn hoff gan Hiram erioed.

2 Anfonodd Solomon yn ôl at Hiram a dweud,

3 “Gwyddost am fy nhad Dafydd, na allodd adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD ei Dduw o achos y rhyfeloedd o'i amgylch, nes i'r ARGLWYDD roi ei elynion dan wadnau ei draed.

4 Bellach, parodd yr ARGLWYDD fy Nuw imi gael llonydd oddi amgylch, heb na gwrthwynebydd na digwyddiad croes.

5 Y mae yn fy mwriad adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD fy Nuw fel yr addawodd yr ARGLWYDD wrth fy nhad Dafydd, gan ddweud, ‘Dy fab, y byddaf yn ei roi ar dy orsedd yn dy le, a adeilada'r tŷ i'm henw.’

6 Felly rho orchymyn i dorri i mi gedrwydd o Lebanon; fe gaiff fy ngweision i fod gyda'th rai di, ac mi dalaf iti gyflog dy weision yn ôl yr hyn a ofynni; gwyddost nad oes gennym ni neb mor hyddysg â'r Sidoniaid mewn cymynu coed.”

7 Llawenychodd Hiram yn fawr pan glywodd eiriau Solomon, a dywedodd, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD heddiw am iddo roi i Ddafydd fab doeth dros y bobl niferus hyn.”

8 Anfonodd at Solomon, a dweud, “Rwy'n cydsynio â'r cais a wnaethost; gwnaf bopeth a ddymuni ynglŷn â'r cedrwydd a'r ffynidwydd.

9 Caiff fy ngweision eu dwyn i lawr o Lebanon at y môr, a byddaf fi'n eu gyrru'n rafftiau dros y môr i'r man a benni imi; byddaf yn eu datod yno, i ti eu cymryd. Cei dithau gyflawni fy nymuniad innau a rhoi ymborth ar gyfer fy mhalas.”

10 Felly yr oedd Hiram yn rhoi i Solomon gymaint ag a fynnai o gedrwydd a ffynidwydd,

11 a Solomon yn rhoi i Hiram ugain mil o gorusau o wenith ac ugain corus o olew coeth yn gynhaliaeth i'w balas. Dyna beth yr oedd Solomon yn ei roi i Hiram yn flynyddol.

12 A rhoes yr ARGLWYDD ddoethineb i Solomon, yn ôl ei addewid iddo; felly bu heddwch rhwng Hiram a Solomon, a gwnaethant gyfamod â'i gilydd.

13 Cododd y Brenin Solomon dreth llafur ar holl Israel, sef deng mil ar hugain o ddynion.

14 Byddai'n eu hanfon i Lebanon fesul deng mil o wŷr am fis ar y tro; byddent am fis yn Lebanon, a deufis gartref. Adoniram oedd pennaeth y dreth llafur gorfod.

15 Yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain o wŷr hefyd yn gludwyr, a phedwar ugain mil yn chwarelwyr yn y mynydd;

16 heblaw y rhain yr oedd ganddo dair mil a thri chant o oruchwylwyr gwaith yn arolygu'r gweithwyr.

17 Ar orchymyn y brenin yr oeddent yn cloddio meini enfawr a drud i wneud sylfaen o feini nadd i'r tŷ.

18 Yr oedd gwŷr Gebal ac adeiladwyr Solomon a Hiram yn naddu ac yn paratoi'r coed a'r meini i adeiladu'r tŷ.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22