1 Samuel 26 BCN

Dafydd yn Arbed Bywyd Saul Eto

1 Daeth y Siffiaid at Saul i Gibea a dweud, “Onid yw Dafydd yn llechu ym mryn Hachila gyferbyn â Jesimon?”

2 Aeth Saul ar unwaith i lawr i ddiffeithwch Siff, a thair mil o wŷr dewisol Israel gydag ef, i chwilio am Ddafydd yno.

3 Gwersyllodd Saul ar y briffordd ym mryn Hachila gyferbyn â Jesimon, tra oedd Dafydd yn aros yn yr anialwch.

4 Pan welodd Dafydd fod Saul yn dod i'r anialwch ar ei ôl, anfonodd ysbiwyr a chael sicrwydd fod Saul wedi dod.

5 Aeth Dafydd ar unwaith i'r man lle'r oedd Saul yn gwersyllu, a gweld lle'r oedd ef a'i gadfridog Abner fab Ner yn cysgu. Yr oedd Saul yn cysgu yng nghanol y gwersyll, a'r milwyr yn gwersyllu o'i gwmpas.

6 Troes Dafydd a gofyn i Ahimelech yr Hethiad ac Abisai fab Serfia, brawd Joab, “Pwy a ddaw i lawr gyda mi i'r gwersyll at Saul?” Atebodd Abisai, “Fe ddof fi gyda thi.”

7 Aeth Dafydd ac Abisai i blith y milwyr liw nos, a dyna lle'r oedd Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y canol, a'i waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear yn ymyl ei ben, ac Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i amgylch.

8 Dywedodd Abisai wrth Ddafydd, “Y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi dy elyn heddiw yn dy law; gad imi ei drywanu i'r ddaear â'r waywffon ag un ergyd; ni fydd angen ail.”

9 Ond dywedodd Dafydd wrth Abisai, “Paid â'i ladd. Pwy a fedr estyn llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD a bod yn ddieuog?”

10 Ac ychwanegodd Dafydd, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, bydd yr ARGLWYDD yn sicr o'i daro; un ai fe ddaw ei amser, a bydd farw, neu ynteu fe â i frwydr a cholli ei fywyd.

11 Yr ARGLWYDD a'm gwaredo rhag i mi estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD. Cymer di y waywffon sydd wrth ei ben, a'i gostrel ddŵr, ac fe awn.”

12 Cymerodd Dafydd y waywffon a'r gostrel ddŵr oedd yn ymyl pen Saul, ac ymaith â hwy heb i neb weld na gwybod na deffro. Yr oedd pawb yn cysgu, am i'r ARGLWYDD anfon trymgwsg arnynt.

13 Dringodd Dafydd trwy'r bwlch a sefyll draw ar gopa'r mynydd, â chryn bellter rhyngddo a hwy.

14 Yna gwaeddodd Dafydd ar y milwyr, ac ar Abner fab Ner, a dweud, “Pam nad wyt ti'n ateb, Abner fab Ner?” Atebodd Abner, “Pwy wyt ti, sy'n gweiddi ar y brenin?”

15 Ac meddai Dafydd wrth Abner, “Onid wyt ti'n ddyn? Pwy sydd debyg i ti yn Israel? Pam ynteu na fyddit wedi gwarchod dy feistr, y brenin, pan ddaeth rhywun i'w ladd?

16 Nid da yw'r peth hwn a wnaethost; cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr ydych yn wir yn haeddu marw am beidio â gwarchod eich meistr, eneiniog yr ARGLWYDD. Edrych yn awr; ple mae gwaywffon y brenin, a'r gostrel ddŵr oedd wrth ei ben?”

17 Adnabu Saul lais Dafydd, a dywedodd, “Ai dy lais di ydyw, fy mab Dafydd?” Atebodd Dafydd, “Ie, f'arglwydd frenin.”

18 Ychwanegodd, “Pam y mae f'arglwydd yn erlid ei was? Beth a wneuthum, a pha ddrwg sydd ynof?

19 Gwrandawed f'arglwydd frenin yn awr ar eiriau ei was. Os yr ARGLWYDD sydd wedi dy annog i'm herbyn, derbynied offrwm; ond os bodau meidrol, bydded iddynt fod dan felltith gerbron yr ARGLWYDD, am iddynt fy ngyrru allan heddiw rhag cael fy rhan yn etifeddiaeth yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Dos, addola dduwiau eraill.’

20 Paid â gadael i'm gwaed ddisgyn i'r ddaear allan o bresenoldeb yr ARGLWYDD; oherwydd fe ddaeth brenin Israel allan i geisio chwannen, fel un yn hela petrisen mynydd.”

21 Ac meddai Saul, “Yr wyf ar fai; tyrd yn ôl, fy mab Dafydd, oherwydd ni wnaf niwed iti eto, am i'm bywyd fod yn werthfawr yn dy olwg heddiw. Bûm yn ynfyd, a chyfeiliornais yn enbyd.”

22 Yna atebodd Dafydd, “Dyma'r waywffon, O frenin; gad i un o'r llanciau ddod drosodd i'w chymryd.

23 Y mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl i bob un am ei gyfiawnder a'i ffyddlondeb; oherwydd fe roddodd yr ARGLWYDD di yn fy llaw heddiw, ond nid oeddwn am estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD.

24 Fel y bu dy einioes di yn werthfawr yn fy ngolwg i heddiw, bydded f'einioes innau yn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'm hachub o bob cyni.”

25 Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Bendith arnat, fy mab Dafydd; fe wnei di orchestion a llwyddo.” Wedi hynny aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Saul adref.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31