1 Samuel 29 BCN

Y Philistiaid yn Gwrthod Dafydd

1 Casglodd y Philistiaid eu holl fyddin i Affec, ac yr oedd Israel yn gwersyllu ger ffynnon yn Jesreel.

2 Yr oedd tywysogion y Philistiaid yn gorymdeithio fesul cannoedd a miloedd, a Dafydd a'i filwyr yn gorymdeithio yn olaf, gydag Achis.

3 Ac meddai capteiniaid y Philistiaid, “Pwy yw'r Hebreaid hyn?” Atebodd Achis hwy: “Dafydd, wrth gwrs, gwas Saul brenin Israel; y mae wedi bod gyda mi am flwyddyn, os nad dwy, ac nid wyf wedi cael dim o'i le ynddo o'r diwrnod y cyrhaeddodd hyd heddiw.”

4 Ond aeth capteiniaid y Philistiaid yn ddig wrtho a dweud, “Anfon y dyn i ffwrdd; aed yn ôl i'r lle a ddarperaist iddo. Ni chaiff ddod i lawr gyda ni i'r frwydr, rhag iddo droi'n wrthwynebydd i ni yn ystod y frwydr. Sut y gallai hwn ennill ffafr ei arglwydd yn well nag â phennau'r milwyr hyn?

5 Onid hwn yw Dafydd, yr oeddent yn canu amdano yn y dawnsfeydd:“ ‘Lladdodd Saul ei filoedd,a Dafydd ei fyrddiynau’?”

6 Galwodd Achis ar Ddafydd a dweud, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr wyt yn ddyn cywir ac wedi ymddwyn yn foddhaol yn fy ngolwg tra buost gyda mi yn y gwersyll; nid wyf wedi cael dim o'i le ynot ti o'r dydd y daethost ataf hyd heddiw; ond nid wyt yn dderbyniol yng ngolwg tywysogion y Philistiaid.

7 Felly'n awr, dychwel, a dos mewn heddwch, rhag iti dramgwyddo tywysogion y Philistiaid.”

8 Dywedodd Dafydd wrth Achis, “Ond beth a wneuthum? Pa fai a gefaist ti yn dy was, o'r dydd y deuthum atat hyd heddiw, fel na chaf ddod i ryfela yn erbyn gelynion f'arglwydd frenin?”

9 Atebodd Achis a dweud wrth Ddafydd, “Gwn dy fod cystal ag angel yn fy ngolwg i, ond y mae tywysogion y Philistiaid wedi dweud na chei di ddod gyda ni i'r frwydr.

10 Felly, yn gynnar bore yfory, bydd di, a gweision eraill dy arglwydd a ddaeth gyda thi, yn barod; byddwch yn barod i gychwyn cyn gynted ag y bydd yn olau.”

11 Cododd Dafydd a'i filwyr yn gynnar drannoeth i fynd yn ôl i Philistia, ac aeth y Philistiaid ymlaen i Jesreel.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31