2 Brenhinoedd 10 BCN

Lladd Meibion Ahab a Brodyr Ahaseia

1 Yr oedd gan Ahab ddeg a thrigain o feibion yn Samaria. Ysgrifennodd Jehu lythyrau a'u hanfon i Samaria at swyddogion y ddinas, yr henuriaid a'r rhai oedd yn gofalu am blant Ahab, gan ddweud,

2 “Cyn gynted ag y cewch y llythyr hwn, gan fod meibion eich arglwydd gyda chwi, a bod gennych gerbydau a meirch a dinas gaerog ac arfau,

3 dewiswch y gorau a'r cymhwysaf o feibion eich arglwydd a'i osod ar orsedd ei dad, ac ymladdwch dros dylwyth eich arglwydd.”

4 Ond cawsant ofn mawr a dweud, “Gwelwch, methodd dau frenin ei wrthsefyll; sut y safwn ni?”

5 Yna anfonodd goruchwyliwr y palas a llywodraethwr y ddinas a'r henuriaid a'r gwarcheidwaid at Jehu a dweud, “Dy weision di ydym, a gwnawn bopeth a ddywedi wrthym; nid ydym am ddewis neb yn frenin; gwna di'r hyn sydd orau gennyt.”

6 Ysgrifennodd ail lythyr atynt, gan ddweud, “Os ydych o'm plaid ac am ufuddhau imi, cymerwch bennau holl feibion eich arglwydd, a dewch ataf i Jesreel tua'r amser hwn yfory.” Yr oedd meibion y brenin, deg a thrigain ohonynt, yn cael eu magu gydag uchelwyr y ddinas.

7 Ar ôl iddynt dderbyn y llythyr, cymerasant feibion y brenin, a lladd y deg a thrigain a rhoi eu pennau mewn cewyll a'u hanfon ato i Jesreel.

8 Pan ddaeth y cennad a'i hysbysu eu bod wedi dod â phennau meibion y brenin, dywedodd, “Gosodwch hwy yn ddau bentwr o flaen y porth hyd y bore.”

9 Aeth yntau allan yn y bore a sefyll yno a dweud wrth yr holl bobl, “Yr ydych chwi'n bobl deg. Edrychwch, gwneuthum i gynllwyn yn erbyn f'arglwydd a'i ladd, ond pwy a laddodd y rhain i gyd?

10 Gwelwch felly nad yw'r un gair o'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD yn erbyn teulu Ahab wedi methu; y mae'r ARGLWYDD wedi gwneud yr hyn a addawodd drwy ei was Elias.”

11 Lladdodd Jehu bawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Jesreel, a'i holl uchelwyr a'i gyfeillion a'i offeiriaid, heb adael neb.

12 Yna ymadawodd Jehu i fynd i Samaria; ac yn ymyl Beth-eced y Bugeiliaid

13 cyfarfu â brodyr Ahaseia brenin Jwda, a gofyn, “Pwy ydych chwi?” Atebasant, “Brodyr Ahaseia, ac yr ydym yn mynd i gyfarch plant y brenin a phlant y fam frenhines.”

14 Ar hynny dywedodd, “Daliwch hwy'n fyw.” Ac wedi iddynt eu dal, lladdasant hwy wrth bydew Beth-eced, dau a deugain ohonynt, heb arbed yr un.

Lladd Gweddill Teulu Ahab

15 Wedi iddo ymadael oddi yno, gwelodd Jehonadab fab Rechab yn dod i'w gyfarfod. Cyfarchodd ef a gofyn, “A wyt ti mor ddiffuant gyda mi ag yr wyf fi gyda thi?” Atebodd Jehonadab, “Ydwyf.” Yna dywedodd Jehu, “Os wyt, estyn dy law.” Estynnodd ei law, a chymerodd yntau ef ato i'r cerbyd,

16 a dweud wrtho, “Tyrd gyda mi, a gwêl fy sêl dros yr ARGLWYDD.”

17 Aeth ag ef yn ei gerbyd, a phan ddaeth i Samaria, lladdodd bawb oedd yn weddill o deulu Ahab yn Samaria, a'u difa, yn ôl y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Elias.

Lladd Addolwyr Baal

18 Casglodd Jehu yr holl bobl a dweud wrthynt, “Yr oedd Ahab yn addoli Baal ychydig; bydd Jehu yn ei addoli lawer.

19 Felly galwch ataf holl broffwydi Baal, ei holl addolwyr a'i holl offeiriaid, heb adael yr un ar ôl, oherwydd rwyf am gynnal aberth mawr i Baal, ac ni chaiff neb fydd yn absennol fyw.” Ond gweithredu'n gyfrwys yr oedd Jehu, er mwyn difa addolwyr Baal.

20 Gorchmynnodd Jehu, “Cyhoeddwch gynulliad sanctaidd i Baal.” Gwnaethant hynny,

21 ac anfonodd Jehu drwy holl Israel, a daeth holl addolwyr Baal yno, heb adael neb ar ôl, a daethant i deml Baal a'i llenwi i'r ymylon.

22 Yna dywedodd wrth yr un oedd yn gofalu am y gwisgoedd, “Dwg allan wisg i bob un o addolwyr Baal.” A dygodd yntau'r gwisgoedd iddynt.

23 Yna daeth Jehu a Jehonadab fab Rechab at deml Baal, a dweud wrth addolwyr Baal, “Chwiliwch yn fanwl rhag bod neb o addolwyr yr ARGLWYDD yna gyda chwi, dim ond addolwyr Baal yn unig.”

24 A phan aethant i offrymu aberthau a phoethoffrymau, gosododd Jehu bedwar ugain o'i ddynion y tu allan a dweud, “Os bydd un o'r bobl a roddais yn eich llaw yn dianc, cymeraf fywyd un ohonoch chwi yn ei le.”

25 Ar ôl gorffen poethoffrymu, dywedodd Jehu wrth y gwarchodlu a'r swyddogion, “Dewch, lladdwch hwy heb adael i neb ddianc,” a lladdasant hwy â'r cleddyf. Yna rhuthrodd y gwarchodlu a'r swyddogion at dŵr teml Baal,

26 a dwyn allan y golofn o deml Baal a'i llosgi,

27 ac yna distrywio colofn Baal a difrodi teml Baal a'i throi'n geudy, fel y mae hyd heddiw.

28 Er i Jehu ddileu Baal o Israel,

29 ni throdd oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a wnaeth i Israel bechu, sef oddi wrth y lloi aur oedd ym Methel a Dan.

30 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jehu, “Gan dy fod wedi rhagori mewn gwneud yr hyn sy'n iawn yn fy ngolwg, a gwneud y cyfan oedd yn fy mwriad yn erbyn teulu Ahab, bydd plant i ti hyd y bedwaredd genhedlaeth yn eistedd ar orsedd Israel.”

31 Ond ni ofalodd Jehu am rodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD, Duw Israel, â'i holl galon; ni throdd oddi wrth bechodau Jeroboam, a barodd i Israel bechu.

Marwolaeth Jehu

32 Yr adeg honno y dechreuodd yr ARGLWYDD gyfyngu terfynau Israel, a bu Hasael yn ymosod ar holl oror Israel

33 i'r tu dwyrain o'r Iorddonen, gwlad Gilead i gyd, tir Gad, Reuben a Manasse, i fyny o Aroer sydd wrth nant Arnon, sef Gilead a Basan.

34 Am weddill hanes Jehu, a'i holl wrhydri a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

35 Bu farw Jehu, a chladdwyd ef yn Samaria, a daeth ei fab Jehoahas yn frenin yn ei le.

36 Wyth mlynedd ar hugain y bu Jehu yn frenin ar Israel yn Samaria.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25