2 Brenhinoedd 18 BCN

Heseceia Brenin Jwda

1 Yn y drydedd flwyddyn i Hosea fab Ela brenin Israel, daeth Heseceia fab Ahas brenin Jwda i'r orsedd.

2 Yr oedd yn bump ar hugain oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Abi merch Sechareia oedd enw ei fam.

3 Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Dafydd.

4 Tynnodd ymaith yr uchelfeydd a dryllio'r colofnau a thorri'r pyst Asera, a malu'r sarff bres a wnaeth Moses; oherwydd hyd y dyddiau hynny bu'r Israeliaid yn arogldarthu iddi ac yn ei galw'n Nehustan.

5 Ymddiriedai Heseceia yn yr ARGLWYDD, Duw Israel, ac ni fu neb tebyg iddo ymhlith holl frenhinoedd Jwda, ar ei ôl nac o'i flaen.

6 Glynodd yn ddiwyro wrth yr ARGLWYDD, a chadw'r gorchmynion a roddodd ef i Moses.

7 Yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef, a llwyddai ym mhopeth a wnâi; gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthod ei wasanaethu.

8 Trawodd y Philistiaid, yn dŵr gwylwyr ac yn ddinas gaerog, hyd at Gasa a'i therfynau.

9 Yn y bedwaredd flwyddyn i'r Brenin Heseceia (y seithfed flwyddyn i Hosea fab Ela brenin Israel) ymosododd Salmaneser brenin Asyria ar Samaria a gwarchae arni.

10 Wedi tair blynedd enillodd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, sef y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria.

11 Caethgludodd brenin Asyria yr Israeliaid i Asyria, a'u rhoi yn Hala ac ar lannau afon Habor yn Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.

12 Bu hyn am nad oeddent wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD eu Duw, ond troseddu yn erbyn ei gyfamod a'r cwbl a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD; nid oeddent yn gwrando nac yn gwneud.

Senacherib yn Bygwth Jerwsalem

13 Yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i'r Brenin Heseceia, ymosododd Senacherib brenin Asyria ar holl ddinasoedd caerog Jwda a'u goresgyn.

14 Yna anfonodd Heseceia brenin Jwda at frenin Asyria i Lachis a dweud, “Rwyf ar fai. Dychwel oddi wrthyf, a thalaf iti beth bynnag a godi arnaf.” Rhoddodd brenin Asyria ddirwy o dri chan talent o arian a deg talent ar hugain o aur ar Heseceia brenin Jwda.

15 Talodd Heseceia yr holl arian oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD ac yng nghoffrau'r palas;

16 a'r un pryd tynnodd yr aur oddi ar ddrysau a cholofnau teml yr ARGLWYDD, y rhai yr oedd ef ei hun wedi eu goreuro, ac fe'i rhoddodd i frenin Asyria.

17 Anfonodd brenin Asyria y cadlywydd, y cadfridog a'r prif swyddog gyda byddin gref o Lachis i Jerwsalem at y Brenin Heseceia. Wedi iddynt ddringo i fyny i Jerwsalem, safasant wrth bistyll y llyn uchaf sydd gerllaw priffordd Maes y Pannwr, a galw am y brenin.

18 Daeth Eliacim fab Hilceia arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa fab Asaff y cofiadur, allan atynt;

19 a dywedodd y prif swyddog wrthynt, “Dywedwch wrth Heseceia mai dyma neges yr ymerawdwr, brenin Asyria; ‘Beth yw sail yr hyder hwn sydd gennyt?

20 A wyt ti'n meddwl bod geiriau yn gwneud y tro ar gyfer rhyfel, yn lle cynllun a nerth? Ar bwy, ynteu, yr wyt yn dibynnu wrth godi gwrthryfel yn f'erbyn?

21 Ai yr Aifft—ffon o gorsen wedi ei hysigo, sy'n rhwygo ac yn agor llaw dyn os pwysa arni? Un felly yw Pharo brenin yr Aifft i bwy bynnag sy'n dibynnu arno.

22 Neu os dywedi wrthyf, “Yr ydym yn dibynnu ar yr ARGLWYDD ein Duw”, onid ef yw'r un y tynnodd Heseceia ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, “O flaen yr allor hon yn Jerwsalem yr addolwch?” ’

23 Yn awr, ynteu, beth am daro bargen â'm meistr, brenin Asyria? Rhoddaf ddwy fil o feirch iti, os gelli di gael marchogion iddynt.

24 Sut, ynteu, y gelli wrthsefyll un capten o blith gweision lleiaf fy meistr, a dibynnu ar yr Aifft am gerbydau a marchogion?

25 Heblaw hyn, ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, ‘Dos i fyny yn erbyn y wlad hon a dinistria hi.’ ”

26 Atebwyd y prif swyddog gan Eliacim fab Hilceia a Sebna a Joa, “Gwell gennym iti siarad â ni yn Aramaeg, oherwydd yr ydym yn ei deall, a pheidio â siarad yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y mur.”

27 Ond dywedodd y prif swyddog wrthynt, “Ai at eich meistr a chwi yma yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl? Onid hefyd at y dynion sydd ar y mur, ac a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu dŵr eu hunain?”

28 Yna fe safodd y prif swyddog a gweiddi'n uchel mewn Hebraeg, “Clywch eiriau'r ymerawdwr, brenin Asyria.

29 Dyma y mae'n ei ddweud, ‘Peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo; ni all ef eich gwaredu o'm llaw.

30 Peidiwch â chymryd eich perswadio ganddo i ddibynnu ar yr ARGLWYDD pan yw'n dweud, Bydd yr ARGLWYDD yn siŵr o'n gwaredu ni, ac ni roir y ddinas hon i afael brenin Asyria.’

31 Peidiwch â gwrando ar Heseceia. Dyma eiriau brenin Asyria: ‘Gwnewch delerau heddwch â mi, dewch allan ataf, ac yna caiff pob un fwyta o'i winwydden ac o'i ffigysbren, ac yfed o ddŵr ei ffynnon ei hun,

32 nes imi ddyfod i'ch dwyn i wlad debyg i'ch gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olewydd, olew a mêl; a chewch fyw ac nid marw.’ Peidiwch â gwrando ar Heseceia yn eich hudo trwy ddweud, ‘Bydd yr ARGLWYDD yn ein gwaredu.’

33 A yw duw unrhyw un o'r cenhedloedd wedi gwaredu ei wlad o afael brenin Asyria?

34 Ple mae duwiau Hamath ac Arpad? Ple mae duwiau Seffarfaim, Hena ac Ifa? A wnaethant hwy waredu Samaria o'm gafael?

35 Prun o holl dduwiau'r gwledydd hyn sydd wedi gwaredu ei wlad o'm gafael? Sut felly y bydd i'r ARGLWYDD waredu Jerwsalem o'm gafael?”

36 Cadw'n ddistaw a wnaeth y bobl, heb ateb gair, oherwydd yr oedd y brenin wedi rhoi gorchymyn nad oeddent i'w ateb.

37 Yna daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa fab Asaff, y cofiadur, at Heseceia, a'u dillad wedi eu rhwygo, ac adrodd wrtho eiriau'r prif swyddog.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25