2 Brenhinoedd 4 BCN

Eliseus yn Cynorthwyo Gweddw Dlawd

1 Apeliodd gwraig un o'r proffwydi at Eliseus a dweud, “Bu farw dy was, fy ngŵr, ac yr oedd yn ddyn duwiol, fel y gwyddost; ac y mae'r echwynnwr wedi dod i gymryd fy nau blentyn yn gaethion iddo.”

2 Dywedodd Eliseus wrthi, “Beth a gaf ei wneud i ti? Dywed wrthyf beth sydd gennyt yn dy dŷ.” Atebodd hithau, “Nid oes gan dy lawforwyn ddim yn y tŷ ond ystenaid o olew.”

3 Dywedodd Eliseus, “Dos a benthyg llestri gan dy holl gymdogion yn y stryd; paid â bod yn brin o lestri gweigion.

4 Yna dos i mewn a chau'r drws arnat ti a'th feibion, a thywallt yr olew i'r holl lestri hynny, a gosod pob un llawn o'r neilltu.”

5 Aeth oddi wrtho a chau'r drws arni hi a'i dau fab; ac fel yr oedd hi'n tywallt, yr oeddent hwythau'n dod â'r llestri ati.

6 Pan oedd wedi llenwi'r llestri, meddai hi wrth ei mab, “Tyrd â llestr arall imi,” a dywedodd yntau, “Nid oes yr un llestr arall.” Yna peidiodd yr olew.

7 Pan ddaeth a dweud yr hanes wrth ŵr Duw, dywedodd ef, “Dos, gwerth yr olew a thâl dy ddyled, a chei di a'th feibion fyw ar y gweddill.”

Eliseus a'r Wraig Fonheddig o Sunem

8 Rhyw ddiwrnod aeth Eliseus heibio i Sunem, lle'r oedd gwraig fonheddig; a bu hi'n daer arno i gymryd bwyd yno. Felly bob tro y byddai'n dod heibio, byddai'n troi i mewn yno i fwyta.

9 Dywedodd y wraig wrth ei gŵr, “Rwy'n gwybod mai gŵr sanctaidd Duw yw hwn sy'n dod heibio i ni o hyd.

10 Rwyf am inni wneud llofft fechan ar y mur, a gosod yno wely a bwrdd a chadair a chanhwyllbren, iddo gael troi i mewn yno pan ddaw atom.”

11 Un diwrnod pan ddaeth yno a mynd i mewn i'r llofft i orwedd,

12 dywedodd wrth ei was Gehasi, “Galw'r Sunamees.” Wedi iddo'i galw ac iddi hithau ddod ato,

13 dywedodd Eliseus wrtho, “Dywed wrthi, ‘Dyma ti wedi mynd i'r holl drafferth yma er ein mwyn; beth sydd i'w wneud drosot ti? A oes eisiau dweud gair drosot wrth y brenin neu wrth bennaeth y fyddin?’ ” Ond dywedodd hi: “Ymysg fy nhylwyth yr wyf fi'n byw.”

14 Pan ofynnodd Eliseus, “Beth sydd i'w wneud drosti?” atebodd Gehasi, “Wel, nid oes ganddi fab, ac y mae ei gŵr yn hen.”

15 Dywedodd, “Galw hi.” Wedi iddo ei galw, a hithau'n sefyll yn y drws,

16 dywedodd wrthi, “Yr adeg hon yn nhymor y gwanwyn byddi'n cofleidio mab.” Atebodd hithau, “Na, syr, paid â dweud celwydd wrth dy lawforwyn a thithau'n ŵr Duw.”

17 Ond beichiogodd y wraig ac ymddŵyn mab yr adeg honno yn nhymor y gwanwyn, fel y dywedodd Eliseus wrthi.

18 Wedi i'r bachgen dyfu, aeth allan ryw ddiwrnod at ei dad i blith y medelwyr,

19 a gwaeddodd ar ei dad, “Fy mhen, fy mhen!” Dywedodd yntau wrth y gwas, “Dos ag ef at ei fam.”

20 Cododd hwnnw ef a mynd ag ef at ei fam; bu'n eistedd ar ei glin hyd hanner dydd, ac yna bu farw.

21 Cymerodd ef i fyny, a'i roi i orwedd ar wely gŵr Duw; yna aeth allan, a chau'r drws.

22 Wedyn galwodd ei gŵr a dweud, “Anfon un o'r gweision ac un o'r asennod ataf, fel y gallaf frysio at ŵr Duw ac yn ôl.”

23 Dywedodd ef, “Pam yr ei di ato heddiw? Nid yw'n newydd-loer nac yn saboth.” “Mae popeth yn iawn,” meddai hithau.

24 Cyfrwyodd yr asen a dywedodd wrth ei gwas, “Gyr ymlaen, paid ag arafu er fy mwyn i, os na ddywedaf wrthyt.”

25 Aeth ar ei thaith, a dod at ŵr Duw ym Mynydd Carmel; a phan welodd gŵr Duw hi'n dod, dywedodd wrth ei was Gehasi, “Dacw'r Sunamees fan draw;

26 rhed yn awr i'w chyfarfod a gofyn iddi, ‘A yw popeth yn iawn gyda thi, gyda'th ŵr, gyda'th blentyn?’ ” Dywedodd hi, “Ydyw, yn iawn.”

27 Ond pan ddaeth at ŵr Duw i'r mynydd, ymaflodd yn ei draed, a phan ddaeth Gehasi i'w gwthio draw, dywedodd gŵr Duw, “Gad iddi, oherwydd y mae mewn loes mawr, ac y mae'r ARGLWYDD wedi ei gelu oddi wrthyf a heb ei fynegi imi.”

28 A dywedodd hi, “A ofynnais i am fab oddi wrth f'arglwydd? Oni ddywedais, ‘Paid â'm twyllo’?”

29 Yna dywedodd Eliseus wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer fy ffon, a dos; os gweli rywun, paid â'i gyfarch, ac os bydd rhywun yn dy gyfarch di, paid ag aros i ateb. Rho fy ffon ar wyneb y bachgen.”

30 Ond dywedodd mam y bachgen, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, nid wyf fi am d'adael.” Cododd yntau a mynd yn ôl gyda hi.

31 Yr oedd Gehasi wedi mynd o'u blaen, a rhoi'r ffon ar wyneb y bachgen, ond ni ddaeth na sŵn na chyffro. Felly aeth yn ôl i gyfarfod Eliseus a dweud wrtho, “Ni ddeffrôdd y bachgen.”

32 Aeth Eliseus i mewn i'r tŷ, a dyna lle'r oedd y bachgen yn farw, ac wedi ei roi i orwedd ar ei wely ef.

33 Caeodd Eliseus y drws arnynt ill dau, a gweddïo ar yr ARGLWYDD.

34 Yna aeth at y plentyn a gorwedd drosto, a rhoi ei geg ar ei geg, a'i lygaid ar ei lygaid, a'i ddwylo ar ei ddwylo, ac ymestyn drosto nes i gnawd y plentyn gynhesu.

35 Yna cododd a cherdded unwaith yn ôl ac ymlaen yn y tŷ, cyn mynd yn ôl ac ymestyn arno. Tisiodd y bachgen seithwaith, ac agor ei lygaid.

36 Yna galwodd Eliseus ar Gehasi a dweud, “Galw'r Sunamees.”

37 Wedi iddo'i galw, ac iddi hithau ddod, dywedodd, “Cymer dy fab.” Syrthiodd hi wrth ei draed a moesymgrymu i'r llawr cyn cymryd ei mab a mynd allan.

Dwy Wyrth Arall

38 Dychwelodd Eliseus i Gilgal pan oedd newyn yn y wlad. Yr oedd nifer o broffwydi dan ei ofal, a dywedodd wrth ei was, “Gosod y crochan mawr ar y tân a berwa gawl i'r proffwydi.”

39 Yr oedd un ohonynt wedi mynd allan i'r maes i gasglu llysiau, a chafodd winwydden wyllt, a chasglodd goflaid llawn o rawn gwylltion oddi arni, heb wybod beth oeddent, a dod a'u bwrw i'r crochan cawl.

40 Tywalltwyd y cawl i'r proffwydi ei fwyta, a chyn gynted ag iddynt brofi o'r cawl, yr oeddent yn gweiddi ac yn dweud, “O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan.” Ac ni allent ei fwyta.

41 Dywedodd yntau, “Dewch â blawd.” Ac wedi iddo'i daflu i'r crochan, dywedodd, “Rhannwch i'r dynion, iddynt fwyta.” Ac nid oedd dim niweidiol yn y crochan.

42 Daeth gŵr o Baal-salisa â bara blaenffrwyth i ŵr Duw, yn cynnwys ugain torth haidd a thywysennau o ŷd newydd.

43 Dywedodd, “Rhowch hwy i'r dynion i'w bwyta.” Ond dywedodd ei wasanaethwr, “Sut y gallaf rannu hyn rhwng cant o ddynion?” Ond atebodd, “Rho hwy i'r dynion i'w bwyta, oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Bydd bwyta a gadael gweddill.”

44 A gosododd y torthau o'u blaen, a chawsant fwyta a gadael gweddill, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25