2 Cronicl 20 BCN

Rhyfel yn erbyn Edom

1 Wedi hyn, dechreuodd y Moabiaid a'r Ammoniaid, gyda rhai o'r Meuniaid ryfela yn erbyn Jehosaffat.

2 Daeth rhywrai at Jehosaffat a dweud wrtho, “Y mae mintai fawr yn dod yn dy erbyn o Edom, o'r ochr draw i'r môr, ac y mae hi eisoes yn Hasason-tamar” (hynny yw, En-gedi).

3 Yn ei ddychryn penderfynodd Jehosaffat geisio'r ARGLWYDD, a chyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda.

4 Yna ymgasglodd pobl Jwda i ofyn am gymorth gan yr ARGLWYDD; daethant o bob un o'u dinasoedd i'w geisio ef.

5 Yn y cynulliad hwn o bobl Jwda a Jerwsalem yn nhŷ yr ARGLWYDD, fe safodd Jehosaffat o flaen y cyntedd newydd,

6 a dweud, “O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, onid ti sy'n Dduw yn y nefoedd? Ti sy'n llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel na ddichon neb dy wrthsefyll.

7 Onid ti, ein Duw, a yrraist drigolion y wlad hon allan o flaen dy bobl Israel, a'i rhoi hi am byth i had Abraham, dy gyfaill?

8 Y maent hwy wedi byw ynddi ac wedi adeiladu cysegr i'th enw di, a dweud,

9 ‘Os daw unrhyw niwed i ni trwy gleddyf, llifeiriant, haint neu newyn, yna fe safwn o'th flaen di ac o flaen y tŷ hwn, oherwydd y mae dy enw arno. Gwaeddwn arnat yn ein trybini, ac fe wrandewi di arnom a'n gwaredu.’

10 Yn awr, dyma'r Ammoniaid, y Moabiaid a gwŷr Mynydd Seir, pobl na adewaist i Israel ymosod arnynt wrth ddod allan o'r Aifft, pobl y troes Israel i ffwrdd oddi wrthynt a pheidio â'u difetha;

11 gwêl sut y mae'r rhain yn talu'n ôl i ni trwy ddod i'n gyrru allan o'th etifeddiaeth, a roddaist i ni.

12 O ein Duw, oni wnei di gyhoeddi barn arnynt? Oherwydd nid ydym ni'n ddigon cryf i wrthsefyll y fintai fawr hon sy'n dod yn ein herbyn. Ni wyddom ni beth i'w wneud, ond dibynnwn arnat ti.”

13 Yr oedd holl wŷr Jwda, gyda'u rhai bach, eu gwragedd a'u plant, yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD.

14 Yr oedd Jehasiel fab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mattaneia, Lefiad o dylwyth Asaff, yng nghanol y cynulliad; daeth ysbryd yr ARGLWYDD arno,

15 a dywedodd, “Gwrandewch, holl Jwda a thrigolion Jerwsalem ynghyd â'r brenin Jehosaffat. Y mae'r ARGLWYDD yn dweud wrthych am beidio ag ofni na digalonni o achos y fintai fawr yma, oherwydd brwydr Duw yw hon, nid eich brwydr chwi.

16 Ewch i lawr yn eu herbyn yfory, pan fyddant yn dringo rhiw Sis, ac fe'u cewch ym mhen draw'r dyffryn, yn ymyl anialwch Jerual.

17 Ni fydd raid i chwi ymladd yn y frwydr hon; safwch yn llonydd yn eich lle, ac fe welwch y fuddugoliaeth a rydd yr ARGLWYDD ichwi, O Jwda a Jerwsalem. Peidiwch ag ofni na digalonni; ewch allan yn eu herbyn yfory, a bydd yr ARGLWYDD gyda chwi.”

18 Yna fe ymgrymodd Jehosaffat i'r llawr, a syrthiodd holl Jwda a thrigolion Jerwsalem o flaen yr ARGLWYDD a'i addoli.

19 Yna safodd y Lefiaid oedd yn perthyn i'r Cohathiaid a'r Corahiaid i foliannu'r ARGLWYDD, Duw Israel, â bloedd uchel.

20 Felly, codasant yn fore a mynd i anialwch Tecoa. Fel yr oeddent yn cychwyn, safodd Jehosaffat a dweud, “Gwrandewch arnaf fi, Jwda a thrigolion Jerwsalem. Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe fyddwch yn ddiogel; credwch yn ei broffwydi, ac fe lwyddwch.”

21 Wedi ymgynghori â'r bobl, penododd gantorion i foli'r ARGLWYDD, ac i ganu mawl i brydferthwch ei sancteiddrwydd, wrth fynd allan ar flaen y fyddin. Dywedasant,“Diolchwch i'r ARGLWYDD,oherwydd y mae ei gariad hyd byth.”

22 Fel yr oeddent yn dechrau canu a moli, gosododd yr ARGLWYDD gynllwyn yn erbyn yr Ammoniaid a'r Moabiaid a gwŷr Mynydd Seir, a oedd yn ymosod ar Jwda, a chawsant eu gorchfygu.

23 Trodd yr Ammoniaid a'r Moabiaid i ymosod ar drigolion Mynydd Seir, a'u difa'n llwyr; ac wedi iddynt eu difodi hwy aethant ymlaen i ddifetha'i gilydd.

24 Pan gyrhaeddodd Jwda wylfa ger yr anialwch, a throi i edrych ar y fintai, gwelsant gyrff y meirw ar y llawr ym mhobman; nid oedd neb wedi dianc.

25 Daeth Jehosaffat a'i filwyr i'w hysbeilio, a chawsant arnynt lawer o olud a gwisgoedd, ac eiddo gwerthfawr. Yr oedd ganddynt fwy o ysbail nag y gallent ei gario, ac am fod cymaint ohono buont am dridiau yn ei gludo.

26 Ar y pedwerydd dydd daethant ynghyd i ddyffryn Beracha; am iddynt fendithio'r ARGLWYDD yno, gelwir y lle yn ddyffryn Beracha hyd heddiw.

27 Yna dychwelodd holl filwyr Jwda a Jerwsalem dan arweiniad Jehosaffat i Jerwsalem mewn llawenydd, am i'r ARGLWYDD roi buddugoliaeth iddynt dros eu gelynion;

28 daethant i dŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem gyda nablau, telynau a thrwmpedau.

29 Daeth ofn Duw ar holl deyrnasoedd y gwledydd pan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel.

30 Felly cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch, a rhoddodd ei Dduw lonydd iddo oddi wrth bawb o'i amgylch.

Diwedd Teyrnasiad Jehosaffat

31 Teyrnasodd Jehosaffat ar Jwda. Pymtheg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am bum mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Asuba ferch Silhi oedd enw ei fam.

32 Dilynodd lwybr ei dad Asa yn hollol ddiwyro, a gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.

33 Er hynny, ni symudwyd yr uchelfeydd, ac nid oedd y bobl eto wedi gosod eu bryd ar Dduw eu hynafiaid.

34 Y mae gweddill hanes Jehosaffat, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yng nghronicl Jehu fab Hanani, sydd wedi ei gynnwys yn Llyfr Brenhinoedd Israel.

35 Wedi hyn gwnaeth Jehosaffat brenin Jwda gynghrair â'r drwgweithredwr, Ahaseia brenin Israel.

36 Cydweithiodd ag ef i wneud llongau i fynd i Tarsis, a'u hadeiladu yn Esion-geber.

37 Ond proffwydodd Elieser fab Dodafa o Maresa yn erbyn Jehosaffat, a dweud, “Am i ti wneud cynghrair ag Ahaseia, fe ddryllia yr ARGLWYDD dy waith.” Felly dinistriwyd y llongau, ac ni allent hwylio i Tarsis.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36