2 Cronicl 22 BCN

Ahaseia Brenin Jwda

1 Gwnaeth trigolion Jerwsalem ei fab ieuengaf Ahaseia yn frenin yn lle Jehoram, oherwydd yr oedd yr ymosodwyr a ddaeth i'r gwersyll gyda'r Arabiaid wedi lladd pob un o'r meibion hynaf. Dyna sut y daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i'r orsedd.

2 Dwy a deugain oed oedd Ahaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am flwyddyn.

3 Athaleia oedd enw ei fam, wyres Omri. Dilynodd yntau hefyd yr un llwybr â thŷ Ahab, oherwydd yr oedd ei fam yn ei arwain i wneud drwg.

4 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth tŷ Ahab; oherwydd ar ôl marw ei dad hwy oedd yn ei gynghori, er mawr niwed iddo.

5 Fe gymerodd eu cyngor hwy, ac aeth gyda Joram fab Ahab, brenin Israel, i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria yn Ramoth-gilead.

6 Ond anafodd y Syriaid Joram a chiliodd yntau i Jesreel i geisio gwellhad o'r clwyfau a gafodd yn Rama yn y frwydr yn erbyn Hasael brenin Syria. A daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i edrych am Joram fab Ahab yn Jesreel am ei fod yn glaf.

7 Penderfynodd Duw ddinistrio Ahaseia wrth iddo ymweld â Jehoram. Pan gyrhaeddodd Ahaseia, aeth allan gyda Jehoram yn erbyn Jehu fab Nimsi, a eneiniwyd gan yr ARGLWYDD i ddifodi tŷ Ahab.

8 Fel yr oedd Jehu yn cosbi tŷ Ahab, daeth o hyd i dywysogion Jwda a meibion brodyr Ahaseia, a fu'n gwasanaethu Ahaseia, ac fe'u lladdodd.

9 Yna aeth i chwilio am Ahaseia. Daliwyd Ahaseia yn cuddio yn Samaria, a chafodd ei ddwyn at Jehu a'i roi i farwolaeth. Claddwyd ef mewn bedd, oherwydd dywedasant, “Yr oedd yn ŵyr i Jehosaffat, a geisiodd yr ARGLWYDD â'i holl galon.” Felly nid oedd neb o dŷ Ahaseia yn ddigon grymus i deyrnasu.

Athaleia Brenhines Jwda

10 Pan welodd Athaleia, mam Ahaseia, fod ei mab wedi marw, aeth ati i ddifodi holl linach frenhinol tŷ Jwda.

11 Ond cymerwyd Jehoas fab Ahaseia gan Jehoseba, merch y brenin, a'i ddwyn yn ddirgel o blith plant y brenin, a oedd i'w lladd, a'i roi ef a'i famaeth mewn ystafell wely. Felly y cuddiwyd ef rhag Athaleia, fel na allai ei ladd, gan Jehoseba, merch y Brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, oherwydd yr oedd hi'n chwaer i Ahaseia.

12 A bu ynghadw gyda hwy yn nhŷ Dduw am chwe blynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36