2 Cronicl 7 BCN

Cysegru'r Deml

1 Wedi i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o'r nefoedd ac ysu'r poethoffrwm a'r aberthau, a llanwyd y tŷ â gogoniant yr ARGLWYDD.

2 Ni allai'r offeiriaid fynd i mewn i dŷ'r ARGLWYDD am fod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tŷ.

3 Pan welodd yr holl Israeliaid y tân a gogoniant yr ARGLWYDD yn dod i lawr ar y tŷ, ymgrymasant yn isel â'u hwynebau i'r llawr, ac addoli a moliannu'r ARGLWYDD a dweud, “Da yw, oherwydd y mae ei gariad hyd byth.”

4 Yna bu'r brenin a'r holl bobl yn aberthu gerbron yr ARGLWYDD.

5 Aberthodd y Brenin Solomon ddwy fil ar hugain o wartheg a chwe ugain mil o ddefaid. Felly y cysegrodd y brenin a'r holl bobl dŷ'r ARGLWYDD.

6 Yr oedd yr offeiriaid yn sefyll ar ddyletswydd, a'r Lefiaid hefyd, gyda'r offerynnau cerdd a wnaeth y Brenin Dafydd i foliannu'r ARGLWYDD pan fyddai'n canu mawl a dweud, “Oherwydd y mae ei gariad hyd byth.” Gyferbyn â hwy yr oedd yr offeiriaid yn canu utgyrn, a'r holl Israeliaid yn sefyll.

7 Cysegrodd Solomon ganol y cwrt oedd o flaen tŷ'r ARGLWYDD, gan mai yno'r oedd yn offrymu'r poethoffrymau a braster yr heddoffrwm, am na allai'r allor bres a wnaeth dderbyn y poethoffrwm a'r bwydoffrwm a'r braster.

8 A'r pryd hwnnw cadwodd Solomon, a holl Israel gydag ef, ŵyl am wythnos, yn gynulliad mawr o Lebo-hamath hyd nant yr Aifft.

9 Ar yr wythfed dydd bu'r cynulliad terfynol, wedi iddynt gadw gŵyl cysegru'r allor a'r brif ŵyl am wythnos.

10 Ar y trydydd dydd ar hugain o'r seithfed mis anfonodd Solomon y bobl adref yn llawen ac yn falch o galon am y daioni a wnaeth yr ARGLWYDD i Ddafydd ac i Solomon ac i'w bobl Israel.

Duw'n Ymddangos yr Eildro i Solomon

11 Wedi i Solomon orffen tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a llwyddo i wneud iddynt y cwbl a fwriadai,

12 ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo liw nos a dweud wrtho, “Clywais dy weddi, ac yr wyf wedi dewis i mi y lle hwn fel man i aberthu.

13 Os byddaf wedi cau'r nefoedd fel na fydd glaw, neu orchymyn i'r locustiaid ddifa'r ddaear, neu anfon pla ar fy mhobl,

14 ac yna bod fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddïo, yn fy ngheisio ac yn dychwelyd o'u ffyrdd drygionus, yna fe wrandawaf o'r nef, a maddau eu pechod ac adfer eu gwlad.

15 Bydd fy llygaid yn sylwi a'm clustiau yn gwrando ar y weddi a offrymir yn y lle hwn.

16 Yr wyf wedi dewis a sancteiddio'r tŷ hwn, i'm henw fod yno am byth; yno hefyd y bydd fy llygaid a'm calon hyd byth.

17 Os byddi di'n rhodio ger fy mron fel y rhodiodd dy dad Dafydd, a gwneud popeth a orchmynnaf iti, a chadw fy neddfau a'm cyfreithiau,

18 yna sicrhaf dy orsedd frenhinol fel yr addewais i'th dad Dafydd gan ddweud, ‘Ni fyddi heb ŵr i lywodraethu Israel.’

19 Ond os byddwch chwi'n gwrthgilio ac yn gwrthod fy ordinhadau a'm gorchmynion, a osodais o'ch blaen, ac os byddwch yn mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli,

20 yna fe ddiwreiddiaf Israel o'm gwlad, a roddais iddynt, a bwriaf o'm golwg y tŷ a gysegrais i'm henw, a'i wneud yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.

21 Bydd y tŷ hwn yn adfail, a phob un sy'n mynd heibio iddo yn synnu ac yn dweud, ‘Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i'r wlad hon ac i'r tŷ hwn?’

22 A dywedir, ‘Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a ddaeth â hwy o wlad yr Aifft, a glynu wrth dduwiau estron a'u haddoli a'u gwasanaethu; dyna pam y dygodd ef yr holl ddrwg yma arnynt.’ ”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36