2 Samuel 1 BCN

Dafydd yn Clywed am Farwolaeth Saul

1 Ar ôl marwolaeth Saul dychwelodd Dafydd o daro'r Amaleciaid, ac aros ddeuddydd yn Siclag.

2 Ar y trydydd dydd cyrhaeddodd dyn o wersyll Saul a'i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben. Daeth at Ddafydd, syrthiodd o'i flaen a moesymgrymu.

3 Gofynnodd Dafydd iddo, “O ble y daethost?” Atebodd yntau, “Wedi dianc o wersyll Israel yr wyf.”

4 Dywedodd Dafydd wrtho, “Dywed wrthyf sut y bu pethau.” Adroddodd yntau fel y bu i'r bobl ffoi o'r frwydr, a bod llawer ohonynt wedi syrthio a marw, a bod Saul a'i fab Jonathan hefyd wedi marw.

5 Gofynnodd Dafydd i'r llanc oedd yn adrodd yr hanes wrtho, “Sut y gwyddost ti fod Saul a'i fab Jonathan wedi marw?”

6 Ac meddai'r llanc oedd yn dweud yr hanes wrtho, “Yr oeddwn yn digwydd bod ar Fynydd Gilboa, a dyna lle'r oedd Saul yn pwyso ar ei waywffon, a'r cerbydau a'r marchogion yn cau amdano.

7 Wrth iddo droi fe'm gwelodd i, a galw arnaf. ‘Dyma fi,’ meddwn innau.

8 Gofynnodd i mi, ‘Pwy wyt ti?’ Atebais innau, ‘Amaleciad.’

9 Yna dywedodd wrthyf, ‘Tyrd yma a lladd fi, oherwydd y mae gwendid wedi cydio ynof, er bod bywyd yn dal ynof.’

10 Felly euthum ato a'i ladd, oherwydd gwyddwn na fyddai fyw wedi iddo gwympo. Cymerais y goron oedd ar ei ben a'r freichled oedd am ei fraich, a deuthum â hwy yma at f'arglwydd.”

11 Gafaelodd Dafydd yn ei wisg a'i rhwygo, a gwnaeth yr holl ddynion oedd gydag ef yr un modd;

12 a buont yn galaru, yn wylo ac yn ymprydio hyd yr hwyr dros Saul a'i fab Jonathan, a hefyd dros bobl yr ARGLWYDD a thŷ Israel, am eu bod wedi syrthio drwy'r cleddyf.

13 Holodd Dafydd y llanc a ddaeth â'r newydd, “Un o ble wyt ti?” Atebodd yntau, “Mab i Amaleciad a ddaeth yma i fyw wyf fi.”

14 Ac meddai Dafydd wrtho, “Sut na fyddai arnat ofn estyn dy law i ddistrywio eneiniog yr ARGLWYDD?”

15 Yna galwodd Dafydd ar un o'r llanciau a dweud, “Tyrd, rho ergyd iddo!” Trawodd yntau ef, a bu farw.

16 Yr oedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Bydded dy waed ar dy ben di dy hun; tystiodd dy enau dy hun yn dy erbyn pan ddywedaist, ‘Myfi a laddodd eneiniog yr ARGLWYDD’.”

Galarnad Dafydd am Saul a Jonathan

17 Canodd Dafydd yr alarnad hon am Saul a'i fab Jonathan,

18 a gorchymyn ei dysgu i'r Jwdeaid. Y mae wedi ei hysgrifennu yn Llyfr Jasar:

19 “O ardderchowgrwydd Israel, a drywanwyd ar dy uchelfannau!O fel y cwympodd y cedyrn!

20 “Peidiwch â'i adrodd yn Gath,na'i gyhoeddi ar strydoedd Ascalon,rhag i ferched y Philistiaid lawenhau,rhag i ferched y dienwaededig orfoleddu.

21 “O fynyddoedd Gilboa,na foed gwlith na glaw arnoch,chwi feysydd marwolaeth.Canys yno yr halogwyd tarian y cedyrn,tarian Saul heb ei hiro ag olew.

22 “Oddi wrth waed lladdedigion,oddi wrth fraster rhai cedyrn,ni throdd bwa Jonathan erioed yn ôl;a chleddyf Saul ni ddychwelai'n wag.

23 “Saul a Jonathan, yr anwylaf a'r hyfrytaf o wŷr,yn eu bywyd ac yn eu hangau ni wahanwyd hwy;cyflymach nag eryrod oeddent, a chryfach na llewod.

24 “O ferched Israel, wylwch am Saul,a fyddai'n eich gwisgo'n foethus mewn ysgarlad,ac yn rhoi gemau aur ar eich gwisg.

25 “O fel y cwympodd y cedyrn yng nghanol y frwydr!lladdwyd Jonathan ar dy uchelfannau.

26 “Gofidus wyf amdanat, fy mrawd Jonathan;buost yn annwyl iawn gennyf;yr oedd dy gariad tuag ataf yn rhyfeddol,y tu hwnt i gariad gwragedd.

27 “O fel y cwympodd y cedyrn,ac y difethwyd arfau rhyfel!”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24