2 Samuel 14 BCN

Joab yn Trefnu i Absalom Ddychwelyd

1 Yr oedd Joab fab Serfia yn gwybod fod calon Dafydd yn troi at Absalom.

2 Felly anfonodd Joab i Tecoa a chymryd oddi yno wraig ddoeth, a dywedodd wrthi, “Cymer arnat alaru a gwisg ddillad galar, a phaid â'th eneinio dy hun; bydd fel gwraig sydd ers amser maith yn galaru am y marw.

3 A dos at y brenin, a dywed fel hyn wrtho”—a gosododd Joab y geiriau yn ei genau.

4 Aeth y wraig o Tecoa at y brenin, a syrthiodd ar ei hwyneb i'r llawr a moesymgrymu; yna dywedodd, “Rho help, O frenin.”

5 Gofynnodd y brenin iddi, “Beth sy'n dy boeni?” Dywedodd hithau, “Gwraig weddw wyf fi a'm gŵr wedi marw.

6 Yr oedd gan dy lawforwyn ddau fab, ond cwerylodd y ddau allan yn y wlad, heb neb i'w gwahanu; a thrawodd un ohonynt y llall, a'i ladd.

7 Ac yn awr y mae'r holl dylwyth wedi codi yn erbyn dy lawforwyn, a dweud, ‘Rho inni'r hwn a laddodd ei frawd, er mwyn inni ei ladd am fywyd y brawd a lofruddiodd; a difethwn yr etifedd hefyd.’ Felly byddant yn diffodd y marworyn sydd ar ôl gennyf, fel na adewir i'm gŵr nac enw nac epil ar wyneb daear.”

8 Dywedodd y brenin wrth y wraig, “Dos di adref, ac fe roddaf orchymyn yn dy gylch.”

9 Atebodd hithau, “Bydded yr euogrwydd arnaf fi, f'arglwydd frenin, ac ar fy nheulu i; a bydded y brenin a'i orsedd yn ddieuog.”

10 Dywedodd y brenin, “Pwy bynnag fydd yn yngan gair wrthyt, tyrd ag ef ataf fi, ac ni fydd yn dy boeni di byth mwy.”

11 Atebodd hithau, “Bydded i'r brenin ddwyn hyn i sylw'r ARGLWYDD dy Dduw, rhag i'r dialwr gwaed ddistrywio eto, a rhag iddynt ddifetha fy mab.” A dywedodd y brenin, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt pen dy fab syrthio i'r llawr.”

12 Yna dywedodd y wraig, “Gad i'th lawforwyn ddweud un gair eto wrth f'arglwydd frenin.” Dywedodd yntau, “Dywed.”

13 Ac meddai'r wraig, “Pam yr wyt wedi cynllunio fel hyn yn erbyn pobl Dduw? Wrth wneud y dyfarniad hwn y mae'r brenin fel un sy'n euog ei hun, am nad yw'n galw'n ôl yr un a alltudiodd.

14 Rhaid inni oll farw; yr ydym fel dŵr a dywelltir ar lawr ac ni ellir ei gasglu eto. Nid yw Duw yn adfer bywyd, ond y mae'n cynllunio ffordd rhag i'r alltud barhau'n alltud.

15 Yn awr, y rheswm y deuthum i ddweud y neges hon wrth f'arglwydd frenin oedd fod y bobl wedi codi ofn arnaf; a phenderfynodd dy lawforwyn, ‘Fe siaradaf â'r brenin; efallai y bydd yn gwneud dymuniad ei forwyn.

16 Y mae'n siŵr y gwrendy'r brenin, ac y bydd yn achub ei lawforwyn o law'r sawl sydd am fy nistrywio i a'm mab hefyd o etifeddiaeth Dduw.’

17 Meddyliodd dy lawforwyn hefyd y byddai gair f'arglwydd frenin yn gysur, oherwydd y mae f'arglwydd frenin fel angel Duw, yn medru dirnad rhwng da a drwg. Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw gyda thi.”

18 Dywedodd y brenin wrth y wraig, “Paid â chelu oddi wrthyf un peth yr wyf am ei ofyn iti.” Atebodd hithau, “Gofyn di, f'arglwydd frenin.”

19 Yna gofynnodd y brenin, “A yw llaw Joab gyda thi yn hyn i gyd?” Atebodd y wraig, “Cyn wired â bod f'arglwydd frenin yn fyw, nid oes modd osgoi yr hyn a ddywedodd f'arglwydd frenin, ie, dy was Joab a roddodd orchymyn imi, ac ef a osododd y geiriau hyn i gyd yng ngenau dy lawforwyn.

20 Er mwyn rhoi agwedd wahanol ar y peth y gwnaeth dy was Joab hyn, ond y mae f'arglwydd cyn galled ag angel Duw i ddeall popeth ar wyneb daear.”

Cymodi Dafydd ac Absalom

21 Dywedodd y brenin wrth Joab, “Edrych, yr wyf am wneud hyn; felly, dos a thyrd â'r llanc Absalom yn ôl.”

22 Syrthiodd Joab ar ei wyneb i'r llawr, a moesymgrymodd a bendithio'r brenin, a dweud, “Fe ŵyr dy was heddiw imi ennill ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin, am iti wneud dymuniad dy was.”

23 Aeth Joab ar unwaith i Gesur, a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem.

24 Ond dywedodd y brenin, “Aed i'w dŷ ei hun; ni chaiff weld fy wyneb i.” Felly aeth Absalom i'w dŷ ac ni welodd wyneb y brenin.

25 Trwy Israel gyfan nid oedd neb y gellid ei ganmol am ei harddwch fel Absalom; nid oedd mefl arno o wadn ei droed hyd ei gorun.

26 Byddai'n eillio'i ben ar ddiwedd pob blwyddyn am fod ei wallt mor drwm, a phan bwysai'r gwallt oedd wedi ei eillio oddi ar ei ben, pwysai ddau can sicl yn ôl safon y brenin.

27 Ganwyd i Absalom dri mab, ac un ferch, o'r enw Tamar; yr oedd honno'n ferch brydferth.

28 Arhosodd Absalom yn Jerwsalem am ddwy flynedd gyfan heb weld wyneb y brenin.

29 Yna anfonodd am Joab, er mwyn iddo'i anfon at y brenin, ond nid oedd yn fodlon dod. Anfonodd eilwaith, ond yr oedd yn gwrthod dod.

30 Yna dywedodd wrth ei weision, “Edrychwch, y mae llain Joab yn ffinio ar f'un i, ac y mae haidd ganddo yno; ewch a rhowch hi ar dân.” A dyna weision Absalom yn rhoi'r llain ar dân.

31 Aeth Joab ar unwaith at Absalom i'w dŷ, a gofyn iddo, “Pam y mae dy weision wedi rhoi fy llain i ar dân?”

32 Ac meddai Absalom wrth Joab, “Edrych, fe anfonais atat a dweud, ‘Tyrd yma imi dy anfon di at y brenin i ofyn pam y deuthum yn ôl o Gesur; byddai'n well arnaf pe bawn wedi aros yno.’ Yn awr yr wyf am weld wyneb y brenin, ac os oes camwedd ynof, lladded fi.”

33 Yna daeth Joab at y brenin ac adrodd yr hanes wrtho, a galwodd yntau Absalom ato; ac wedi iddo ddod at y brenin, moesymgrymodd iddo â'i wyneb i'r llawr o flaen y brenin, a rhoddodd y brenin gusan i Absalom.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24