2 Samuel 21 BCN

Rhoi Disgynyddion Saul i Farwolaeth

1 Bu newyn yn nyddiau Dafydd am dair blynedd yn olynol. Ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD, ac atebodd yr ARGLWYDD fod Saul a'i dylwyth yn euog o waed am iddo ladd trigolion Gibeon.

2 Galwodd y brenin drigolion Gibeon a'u holi. Nid Israeliaid oedd y Gibeoniaid, ond gweddill o'r Amoriaid, ac yr oedd yr Israeliaid wedi gwneud cytundeb heddwch â hwy; eto yr oedd Saul wedi ceisio'u difa yn ei sêl dros yr Israeliaid a'r Jwdeaid.

3 Gofynnodd Dafydd i'r Gibeoniaid, “Beth a gaf ei wneud ichwi? Sut y gwnaf iawn, er mwyn ichwi fendithio etifeddiaeth yr ARGLWYDD?”

4 Dywedodd trigolion Gibeon wrtho, “Nid mater o arian ac aur yw hi rhyngom ni a Saul a'i deulu, ac nid mater i ni yw lladd neb yn Israel.” Dywedodd y brenin, “Beth bynnag a ofynnwch, fe'i gwnaf i chwi.”

5 Dywedasant hwythau, “Am y dyn a'n difaodd ni ac a fwriadodd ein diddymu rhag cael lle o gwbl o fewn terfynau Israel,

6 rhodder inni saith dyn o'i ddisgynyddion, fel y gallwn eu crogi o flaen yr ARGLWYDD yn Gibea Saul ym mynydd yr ARGLWYDD.” Cytunodd y brenin i'w rhoi.

7 Ond fe arbedodd Meffiboseth fab Jonathan, fab Saul oherwydd y llw yn enw'r ARGLWYDD a oedd rhyngddynt, sef rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul.

8 Cymerodd y brenin y ddau fab yr oedd Rispa ferch Aia wedi eu geni i Saul, sef Armoni a Meffiboseth, hefyd y pum mab yr oedd Merab ferch Saul wedi eu geni i Adriel fab Barsilai o Mehola.

9 Trosglwyddodd hwy i'r Gibeoniaid, a chrogasant hwythau hwy yn y mynydd o flaen yr ARGLWYDD; syrthiodd y saith ohonynt gyda'i gilydd. Lladdwyd hwy yn nyddiau cyntaf y cynhaeaf, ar ddechrau'r cynhaeaf haidd.

10 Cymerodd Rispa ferch Aia sachliain a'i daenu ar y graig iddi ei hun o ddechrau'r cynhaeaf hyd oni lawiodd diferion o'r awyr ar y cyrff. Ni adawodd i'r un aderyn rheibus ddisgyn arnynt liw dydd, nac anifail gwyllt liw nos.

11 Pan hysbyswyd i Ddafydd yr hyn a wnaeth Rispa ferch Aia, gordderchwraig Saul,

12 fe aeth a chymryd esgyrn Saul a'i fab Jonathan oddi wrth reolwyr Jabes-gilead. Yr oeddent hwy wedi eu lladrata o'r maes yn Beth-sean lle'r oedd y Philistiaid wedi eu crogi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa.

13 Cymerodd esgyrn Saul a'i fab Jonathan oddi yno, a chasglwyd ynghyd esgyrn y rhai a grogwyd,

14 a'u claddu gydag esgyrn Saul a'i fab Jonathan yn Sela yn nhir Benjamin, ym medd ei dad Cis. Gwnaed y cwbl a orchmynnodd y brenin, ac wedi hyn derbyniodd Duw ymbil ar ran y wlad.

Brwydrau yn erbyn Cewri'r Philistiaid

15 Unwaith eto yr oedd rhyfel rhwng y Philistiaid ac Israel. Aeth Dafydd a'i weision i lawr, a rhyfela yn erbyn y Philistiaid nes bod Dafydd yn lluddedig.

16 Yr oedd Isbi-benob, un o dylwyth y Reffaim yno; ac yr oedd ei waywffon yn pwyso tri chan sicl o bres. Yr oedd ef wedi ei wregysu â chleddyf newydd, ac yn meddwl lladd Dafydd.

17 Ond fe ddaeth Abisai fab Serfia i'w helpu, a tharo'r Philistiad a'i ladd. Wedi hynny tyngodd milwyr Dafydd wrtho, “Ni chei fynd allan eto gyda ni i ryfel rhag diffodd lamp Israel.”

18 Ar ôl hynny bu rhyfel arall yn erbyn y Philistiaid yn Gob. Y tro hwnnw lladdwyd Saff, un arall o dylwyth y Reffaim, gan Sibbechai yr Husathiad.

19 Bu rhyfel eilwaith yn Gob yn erbyn y Philistiaid, a lladdwyd Goliath o Gath gan Elhanan fab Jaare-oregim o Fethlehem; yr oedd coes gwaywffon Goliath fel carfan gwehydd.

20 Pan fu rhyfel eto yn Gath yr oedd yno gawr o ddyn â chwech o fysedd ar bob llaw a throed, pedwar ar hugain i gyd; ac yr oedd yntau yn hanu o'r Reffaim.

21 Bwriodd sen ar Israel, ond lladdwyd ef gan Jonathan mab Simei brawd Dafydd.

22 Yr oedd y pedwar hyn yn hanu o'r Reffaim yn Gath, a chwympasant trwy law Dafydd a'i weision.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24