2 Samuel 8 BCN

Buddugoliaethau Milwrol Dafydd

1 Wedi hyn gorchfygodd Dafydd y Philistiaid a'u darostwng, a chipiodd Metheg-amma oddi arnynt.

2 Yna gorchfygodd y Moabiaid, ac wedi gwneud iddynt orwedd ar lawr, fe'u mesurodd â llinyn; mesurodd ddau hyd llinyn i'w lladd, ac un hyd llinyn i'w cadw'n fyw. Felly daeth y Moabiaid yn ddeiliaid i Ddafydd a thalu treth iddo.

3 Gorchfygodd Dafydd hefyd Hadadeser fab Rehob, brenin Soba, pan oedd hwnnw ar ei ffordd i ailsefydlu ei awdurdod ar lan afon Ewffrates.

4 Cipiodd Dafydd oddi arno fil a saith gant o farchogion ac ugain mil o wŷr traed. Cadwodd Dafydd gant o feirch cerbyd, ond torrodd linynnau gar y lleill i gyd.

5 Pan ddaeth Syriaid Damascus i helpu Hadadeser brenin Soba, trawodd Dafydd ddwy fil ar hugain ohonynt.

6 Yna gosododd Dafydd garsiynau ymhlith Syriaid Damascus, a daeth y Syriaid yn weision i Ddafydd a thalu treth iddo. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr âi.

7 Cymerodd Dafydd y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, a dygodd hwy i Jerwsalem.

8 Hefyd cymerodd y Brenin Dafydd lawer iawn o bres o Beta a Berothai, trefi Hadadeser.

9 Pan glywodd Toi brenin Hamath fod Dafydd wedi gorchfygu holl fyddin Hadadeser,

10 fe anfonodd ei fab Joram i ddymuno'n dda i'r Brenin Dafydd a'i longyfarch am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser a'i orchfygu; oherwydd bu Hadadeser yn rhyfela'n gyson yn erbyn Toi. Dygodd Joram gydag ef lestri o arian ac o aur ac o bres,

11 a chysegrodd y Brenin Dafydd hwy i'r ARGLWYDD, yn ogystal â'r arian a'r aur oddi wrth yr holl genhedloedd yr oedd wedi eu goresgyn—

12 Syria, Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid a'r Amaleciaid—a hefyd ysbail Hadadeser fab Rehob, brenin Soba.

13 Enillodd Dafydd fri pan ddychwelodd ar ôl gorchfygu deunaw mil o Edomiaid yn Nyffryn yr Halen.

14 Gosododd garsiynau yn Edom, a daeth holl Edom yn ddeiliaid i Ddafydd. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr âi.

15 Yr oedd Dafydd yn teyrnasu dros Israel gyfan, ac yn gweinyddu barn a chyfiawnder i'w holl bobl.

16 Joab fab Serfia oedd dros y fyddin, a Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur.

17 Sadoc fab Ahitub, ac Ahimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid, a Seraia yn ysgrifennydd.

18 Benaia fab Jehoiada oedd dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid, ac yr oedd meibion Dafydd yn offeiriaid.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24