Caniad Solomon 5 BCN

1 Yr wyf wedi dod i'm gardd, fy chwaer a'm priodferch;cesglais fy myrr a'm perlysiau,a bwyta fy niliau a'm mêl,ac yfed fy ngwin a'm llaeth.Gyfeillion, bwytewch ac yfwch,nes meddwi ar gariad.

Y Pedwerydd Caniad

2 Yr oeddwn yn cysgu, ond â'm calon yn effro.Ust! Y mae fy nghariad yn curo:“Agor imi, fy chwaer, f'anwylyd,fy ngholomen, yr un berffaith yn fy ngolwg,oherwydd y mae fy ngwallt yn diferu o wlith,a'm barf o ddefnynnau'r nos.”

3 Ond yr wyf wedi diosg fy mantell;a oes raid imi ei gwisgo eto?Yr wyf wedi golchi fy nhraed;a oes raid imi eu maeddu eto?

4 Pan roes fy nghariad ei law ar y glicied,yr oeddwn wedi fy nghynhyrfu trwof.

5 Codais i agor i'm cariad,ac yr oedd fy nwylo'n diferu o fyrr,a'r myrr o'm bysedd yn llifo ar ddolennau'r clo.

6 Pan agorais i'm cariad,yr oedd wedi cilio a mynd ymaith,ac yr oeddwn yn drist am ei fod wedi mynd;chwiliais amdano, ond heb ei gael;gelwais arno, ond nid oedd yn ateb.

7 Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod,wrth iddynt fynd o amgylch y dref,a rhoesant gurfa imi a'm niweidio;bu i'r rhai oedd yn gwylio'r murddwyn fy mantell oddi arnaf.

8 Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch.Os dewch o hyd i'm cariad,dywedwch wrtho fy mod yn glaf o gariad.

9 A yw dy gariad di yn well nag eraill,O ti, y decaf o ferched?A yw dy gariad di yn well nag eraill,i beri iti ymbil fel hyn arnom?

10 Y mae fy nghariad yn deg a gwridog,yn sefyll allan ymysg deng mil.

11 Y mae ei ben fel aur coeth,a'i wallt yn gyrliog,yn ddu fel y frân.

12 Y mae ei lygaid fel colomennodwrth ffrydiau dŵr,wedi eu golchi â llaeth,a'u gosod yn briodol yn eu lle.

13 Y mae ei ruddiau fel gwely perlysiauyn gwasgaru persawr;y mae ei wefusau fel lilïauyn diferu o fyrr rhedegog.

14 Y mae ei ddwylo fel dysglau auryn llawn gemau;y mae ei gorff fel gwaith iforiwedi ei orchuddio â saffir.

15 Y mae ei goesau fel colofnau o farmor,wedi eu gosod ar sylfaen o aur,a'i ymddangosiad fel Lebanon,mor urddasol â'r cedrwydd.

16 Y mae ei wefusau yn felys;y mae popeth ynddo'n ddymunol.Un fel hyn yw fy nghariad,un fel hyn yw fy nghyfaill,O ferched Jerwsalem.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8