1 O na fyddit yn frawd i mi,wedi dy fagu ar fronnau fy mam!Yna pan welwn di yn y stryd byddwn yn dy gusanu,ac ni fyddai neb yn fy nirmygu.
2 Byddwn yn dy arwaina'th ddwyn i dŷ fy mam a'm hyfforddodd,a rhoi gwin llysiau yn ddiod iti,sudd fy mhomgranadau.
3 Yna byddai ei fraich chwith o dan fy mhen,a'i fraich dde yn fy nghofleidio.
4 Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch.Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariadnes y bydd yn barod.
5 Pwy yw hon sy'n dod i fyny o'r anialwch,yn pwyso ar ei chariad?Deffroais di dan y pren afalau,lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi,lle bu'r un a esgorodd arnat mewn gwewyr.
6 Gosod fi fel sêl ar dy galon,fel sêl ar dy fraich;oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth,a nwyd mor greulon â'r bedd;y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd,fel fflam angerddol.
7 Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad,ac ni all afonydd ei foddi.Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei dŷ am gariad,byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr.
8 Y mae gennym chwaer fachsydd heb fagu bronnau.Beth a wnawn i'n chwaerpan ofynnir amdani?
9 Os mur yw hi,byddwn yn adeiladu caer arian arno;os drws,byddwn yn ei gau ag astell gedrwydd.
10 Mur wyf fi,a'm bronnau fel tyrau;yn ei olwg ef yr wyffel un yn rhoi boddhad.
11 Yr oedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon;pan osododd ei winllan yng ngofal gwylwyr,yr oedd pob un i roi mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.
12 Ond y mae fy ngwinllan i yn eiddo i mi fy hun;fe gei di, Solomon, y mil o ddarnau arian,a chaiff y rhai sy'n gwylio'i ffrwyth ddau gant.
13 Ti sy'n eistedd yn yr ardd,a chyfeillion yn gwrando ar dy lais,gad i mi dy glywed.
14 Brysia allan, fy nghariad,a bydd yn debyg i afrewig,neu'r hydd ifancar fynyddoedd y perlysiau.