Diarhebion 13 BCN

1 Y mae mab doeth yn derbyn disgyblaeth tad,ond ni wrendy gwatwarwr ar gerydd.

2 Trwy ffrwyth ei enau y digonir pob un â daioni,ond awchu am drais y mae twyllwyr.

3 Y mae'r un sy'n gwylio'i eiriau yn diogelu ei fywyd,ond ei ddinistrio'i hun y mae'r un sy'n siarad gormod.

4 Y mae'r diogyn yn awchu, ac eto heb gael dim,ond y mae'r diwyd yn ffynnu.

5 Y mae'r cyfiawn yn casáu twyll,ond y mae'r drygionus yn gweithredu'n ffiaidd a gwarthus.

6 Y mae cyfiawnder yn amddiffyn ffordd y cywir,ond drygioni yn dymchwel y pechadur.

7 Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo;ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn.

8 Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth,ond ni chlyw'r tlawd fygythion.

9 Disgleiria goleuni'r cyfiawn,ond diffydd lamp y drygionus.

10 Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio,ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.

11 Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech,ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.

12 Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon,ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.

13 Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor,ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.

14 Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywioli arbed rhag maglau marwolaeth.

15 Y mae deall da yn ennill ffafr,ond garw yw ffordd y twyllwyr.

16 Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus,ond y mae'r ffôl yn amlygu ffolineb.

17 Y mae negesydd drwg yn achosi dinistr,ond cennad cywir yn dwyn lles.

18 Tlodi a gwarth sydd i'r un sy'n anwybyddu disgyblaeth,ond anrhydeddir y sawl sy'n derbyn cerydd.

19 Y mae dymuniad a gyflawnir yn felys ei flas,ond cas gan ffyliaid droi oddi wrth ddrwg.

20 Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb,ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid.

21 Y mae dinistr yn dilyn pechaduriaid,ond daioni yw gwobr y cyfiawn.

22 Gedy'r daionus etifeddiaeth i'w blant,ond rhoddir cyfoeth pechadur i'r cyfiawn.

23 Ceir digon o fwyd ym mraenar y tlodion,ond heb gyfiawnder fe ddiflanna.

24 Casáu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen,ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson.

25 Y mae'r cyfiawn yn bwyta hyd ddigon,ond gwag fydd bol y drygionus.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31