Diarhebion 3 BCN

Cyngor i'r Ifanc

1 Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd;cadw fy ngorchmynion yn dy gof.

2 Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiaua rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant.

3 Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb;rhwym hwy am dy wddf,ysgrifenna hwy ar lech dy galon;

4 a byddi'n ennill ffafr ac enw dayng ngolwg Duw a dynion.

5 Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD,a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.

6 Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd,bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.

7 Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun;ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.

8 Bydd hyn yn iechyd i'th gorff,ac yn faeth i'th esgyrn.

9 Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth,ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch.

10 Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn,a'th gafnau'n gorlifo gan win.

11 Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD,a phaid â digio wrth ei gerydd;

12 oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD,fel tad sy'n hoff o'i blentyn.

13 Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,a'r un sy'n berchen deall.

14 Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,a'i chynnyrch yn well nag aur.

15 Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau,ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.

16 Yn ei llaw dde y mae hir oes,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.

17 Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.

18 Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi,a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi.

19 Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear,ac â deall y sicrhaodd y nefoedd;

20 trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau,ac y defnynna'r cymylau wlith.

21 Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll;paid â'u gollwng o'th olwg;

22 byddant yn iechyd i'th enaid,ac yn addurn am dy wddf.

23 Yna cei gerdded ymlaen heb bryder,ac ni fagla dy droed.

24 Pan eisteddi, ni fyddi'n ofni,a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys.

25 Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth,na dinistr y drygionus pan ddaw;

26 oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti,ac yn cadw dy droed rhag y fagl.

27 Paid â gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu,os yw yn dy allu i'w gwneud.

28 Paid â dweud wrth dy gymydog, “Tyrd yn d'ôl eto,ac fe'i rhoddaf iti yfory”,er ei fod gennyt yn awr.

29 Paid â chynllunio drwg yn erbyn dy gymydog,ac yntau'n ymddiried ynot.

30 Paid â chweryla'n ddiachos ag unrhyw un,ac yntau heb wneud cam â thi.

31 Paid â chenfigennu wrth ormeswr,na dewis yr un o'i ffyrdd.

32 Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ffieiddio'r cyfeiliornus,ond yn rhannu ei gyfrinach â'r uniawn.

33 Y mae melltith yr ARGLWYDD ar dŷ'r drygionus,ond y mae'n bendithio trigfa'r cyfiawn.

34 Er iddo ddirmygu'r dirmygwyr,eto fe rydd ffafr i'r gostyngedig.

35 Etifedda'r doeth anrhydedd,ond y ffyliaid bentwr o warth.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31