Eseciel 26 BCN

Proffwydo yn erbyn Tyrus

1 Ar ddydd cyntaf y mis cyntaf yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2 “Fab dyn, oherwydd i Tyrus ddweud am Jerwsalem, ‘Aha! Fe ddrylliwyd porth y cenhedloedd, ac fe'i gwnaed yn agored i mi; fe lwyddaf fi am ei bod hi'n anrheithiedig’,

3 am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf yn dy erbyn, O Tyrus, ac fe ddygaf lawer o genhedloedd yn dy erbyn, fel môr yn dygyfor.

4 Fe fyddant yn dinistrio muriau Tyrus ac yn bwrw i lawr ei thyrau; crafaf y pridd ohoni a'i gwneud yn graig noeth.

5 Bydd yn lle i daenu rhwydau allan yng nghanol y môr, oherwydd myfi a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW. ‘Bydd yn anrhaith i'r cenhedloedd,

6 ac fe ddinistrir ei maestrefi trwy'r cleddyf; yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’

7 “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Fe ddof â Nebuchadnesar brenin Babilon, brenin y brenhinoedd, yn erbyn Tyrus o'r gogledd gyda meirch a cherbydau, gyda marchogion a mintai fawr yn fyddin.

8 Bydd yn dinistrio dy faestrefi trwy'r cleddyf, yn gosod gwarchae arnat, yn codi esgynfa tuag atat, ac yn gosod tarianau yn dy erbyn.

9 Fe dry ei beiriannau hyrddio yn erbyn dy furiau, a dymchwel dy dyrau â'i arfau.

10 Bydd ei feirch mor niferus nes dy orchuddio â llwch; bydd dy furiau'n crynu gan sŵn y meirch, y wageni a'r cerbydau, wrth iddo ddod i mewn trwy'r pyrth fel un yn dod i ddinas wedi ei bylchu.

11 Bydd carnau ei feirch yn sathru dy strydoedd i gyd; fe leddir dy bobl â'r cleddyf, ac fe syrth dy golofnau cedyrn i'r llawr.

12 Anrheithiant dy gyfoeth a chymryd dy nwyddau'n ysbail; dymchwelant dy furiau a chwalu dy dai dymunol, a lluchio'r meini, y coed a'r pridd i ganol y môr.

13 Rhof ddiwedd ar sŵn dy ganiadau, ac ni chlywir sain dy delynau mwyach.

14 Gwnaf di'n graig noeth, ac fe ddoi'n lle i daenu rhwydau; nid ailadeiledir di mwyach, oherwydd myfi'r ARGLWYDD a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW.

15 “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth Tyrus: ‘Oni fydd yr ynysoedd yn crynu gan sŵn dy gwymp, pan fydd yr archolledig yn cwynfan a phan fydd rhai yn lladd o'th fewn?

16 Yna bydd holl dywysogion y môr yn disgyn oddi ar eu gorseddau, yn tynnu eu mentyll ac yn diosg eu gwisgoedd o frodwaith. Byddant wedi eu gwisgo â dychryn, yn eistedd ar lawr ac yn crynu bob eiliad, ac wedi eu brawychu o'th achos.

17 Yna, fe godant alarnad a dweud amdanat,“O, fel y dinistriwyd di, y ddinas enwoga fu'n gartref i forwyr!Buost yn rymus ar y moroedd,ti a'th drigolion,a gosodaist dy arswydar dy holl drigolion.

18 Yn awr y mae'r ynysoedd yn crynuar ddydd dy gwymp;y mae'r ynysoedd yn y môr yn arswydowrth i ti syrthio.” ’

19 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Pan wnaf di'n ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd sydd heb drigolion, a phan ddygaf y dyfnfor drosot, a'r dyfroedd mawrion yn dy orchuddio,

20 yna fe'th fwriaf i lawr gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll at bobl o'r oesoedd gynt. Gwnaf iti fyw yn y tir isod, fel mewn hen adfeilion, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; ac ni ddychweli i gymryd dy le yn nhir y rhai byw.

21 Rhof iti ddiwedd ofnadwy, ac ni fyddi mwyach; fe'th geisir, ond ni cheir mohonot byth mwy,’ medd yr Arglwydd DDUW.”