Eseciel 27 BCN

Galarnad am Tyrus

1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2 “Fab dyn, cod alarnad am Tyrus.

3 Dywed wrth Tyrus sydd wrth fynedfa'r môr, marsiandwr y bobloedd ar lawer o ynysoedd, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr wyt ti, O Tyrus, yn dweud,“Yr wyf fi'n berffaith mewn prydferthwch.”

4 Y mae dy derfynau yng nghanol y moroedd;gwnaeth dy adeiladwyr dy brydferthwch yn berffaith.

5 Gwnaethant dy holl waith coed o binwydd Senir,a chymryd cedrwydd Lebanon i wneud hwylbren iti.

6 Gwnaethant dy rwyfau o dderw Basan,a'th fwrdd o binwydd goror Chittim,wedi ei addurno ag ifori.

7 Lliain wedi ei frodio o'r Aifft oedd dy hwyliau,ac yn gwneud baner iti;yr oedd dy gysgodlenni yn las a phorfforo ororau Elisa.

8 Gwŷr Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr,ac yr oedd ynot ti, O Tyrus, wŷr medrusâ'u llaw ar y llyw.

9 Yr oedd gwŷr profiadol a medrus o Gebalar dy fwrdd i gyweirio'r agennau;yr oedd holl longau'r môr a'u dynionyn dod atat i farchnata dy nwyddau.

10 Yr oedd gwŷr Persia, Lydia a Phutyn filwyr yn dy fyddin,yn crogi eu tarianau a'u helmedau ynot;ac yr oeddent yn dy wneud yn hardd.

11 Yr oedd gwŷr Arfad a Helech ar dy furiau o amgylch,a gwŷr Gammad yn dy dyrau;yr oeddent yn crogi eu tarianau ar dy furiau,ac yn gwneud dy brydferthwch yn berffaith.

12 “ ‘Yr oedd Tarsis yn marchnata gyda thi oherwydd dy holl gyfoeth, ac yn rhoi iti arian, haearn, alcam a phlwm yn gyfnewid am dy nwyddau.

13 Jafan, Tubal a Mesech oedd dy farsiandïwyr, ac yn cyfnewid caethweision a llestri pres yn dy farchnad.

14 Yr oedd rhai o Beth-togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch a mulod am dy nwyddau.

15 Yr oedd gwŷr Rhodos yn farsiandïwyr i ti, ac ynysoedd lawer yn marchnata gyda thi, ac yn rhoi'n dâl iti gyrn ifori ac eboni.

16 Yr oedd Aram yn marchnata gyda thi am fod gennyt ddigon o nwyddau, ac yn rhoi glasfeini, porffor, brodwaith, lliain, cwrel a gemau yn gyfnewid am dy nwyddau.

17 Yr oedd Jwda a gwlad Israel hefyd ymhlith dy farsiandïwyr, ac yn cyfnewid gwenith o Minnith, ŷd, mêl, olew a balm yn dy farchnad.

18 Am fod gennyt ddigon o nwyddau a chyfoeth, yr oedd Damascus yn marchnata gyda thi win o Helbon a gwlân o Sahar.

19 Yr oedd Dan a Jafan o Usal yn rhoi haearn gyr, casia a chalamus yn gyfnewid am nwyddau yn dy farchnad.

20 Yr oedd Dedan yn marchnata brethynnau ar gyfer dy gyfrwyau.

21 Yr oedd Arabia a holl dywysogion Cedar yn bargeinio â thi ac yn cyfnewid ŵyn, hyrddod a geifr.

22 Yr oedd marsiandïwyr Sheba a Rama ymhlith dy farsiandïwyr, ac yn rhoi iti'n nwyddau y gorau o berlysiau a meini gwerthfawr ac aur.

23 Yr oedd Haran, Canne, Eden a marsiandïwyr Sheba, Asyria a Chilmad yn marchnata gyda thi.

24 Yn dy farchnadoedd yr oeddent yn marchnata gwisgoedd heirdd, brethynnau gleision, brodwaith, a charpedi amryliw mewn rheffynnau wedi eu troi a'u clymu.

25 Llongau Tarsis oedd yn cludo dy nwyddau.Llanwyd di â llwyth trwmyng nghanol y moroedd.

26 Aeth dy rwyfwyr â thi allani'r moroedd mawr,ond y mae gwynt y dwyrain wedi dy ddryllioyng nghanol y moroedd.

27 “ ‘Bydd dy gyfoeth, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy longwyr, dy seiri llongau, dy farchnatawyr, dy holl filwyr, a phawb arall sydd ar dy fwrdd yn suddo yng nghanol y môr y diwrnod y dryllir di.

28 “ ‘Pan glywir cri dy longwyr,bydd yr arfordir yn crynu.

29 Bydd yr holl rwyfwyr yn gadael eu llongau,a'r morwyr a'r llongwyr yn sefyll ar y lan,

30 yn gweiddi'n uchel ac yn wylo'n chwerw amdanat,yn rhoi llwch ar eu pennau ac yn ymdrybaeddu mewn lludw.

31 Eilliant eu pennau o'th achos, a gwisgo sachliain;wylant yn chwerw amdanat mewn galar trist.

32 Yn eu cwynfan a'u galar codant alarnad amdanat:“Pwy erioed a dawelwyd fel Tyrus yn nghanol y môr?

33 Pan âi dy nwyddau allan ar y moroedd,yr oeddit yn diwallu llawer o genhedloedd;trwy dy gyfoeth mawr a'th nwyddaugwnaethost frenhinoedd y ddaear yn gyfoethog.

34 Ond yn awr yr wyt wedi dy ddryllio gan y môryn nyfnder y dyfroedd;aeth dy nwyddau a'th holl fintaii lawr i'th ganlyn.

35 Brawychwyd holl drigolion yr ynysoedd o'th achos;y mae eu brenhinoedd yn crynu gan ofn,a phryder ar eu hwynebau.

36 Y mae marsiandïwyr y cenhedloedd wedi eu syfrdanu o'th blegid;aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.” ’ ”