Eseciel 4 BCN

Darlunio'r Gwarchae ar Jerwsalem

1 “Tithau, fab dyn, cymer briddlech a'i gosod o'th flaen, a darlunia arni ddinas Jerwsalem.

2 Gosod warchae arni, adeilada warchglawdd o'i hamgylch, cod esgynfa tuag ati, rho wersylloedd yn ei herbyn a gosod beiriannau hyrddio o'i chwmpas.

3 Yna cymer badell haearn a'i rhoi fel mur o haearn rhyngot ti a'r ddinas, a thro dy wyneb tuag ati; a bydd dan warchae, a thithau'n ymosod arni. Arwydd fydd hyn i dŷ Israel.

4 “Yna gorwedd ar dy ochr chwith, a gosod ddrygioni tŷ Israel arni; byddi'n cario eu drygioni am nifer y dyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.

5 Yr wyf wedi pennu ar dy gyfer yr un nifer o ddyddiau ag o flynyddoedd eu drygioni, sef tri chant naw deg o ddyddiau, iti gario drygioni tŷ Israel.

6 Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia ddrygioni tŷ Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn.

7 Tro dy wyneb tuag at warchae Jerwsalem, ac â'th fraich yn noeth proffwyda yn ei herbyn.

8 Rhoddaf rwymau amdanat fel na elli droi o'r naill ochr i'r llall nes iti orffen dyddiau dy warchae.

9 “Cymer iti wenith a haidd, ffa a phys, miled a cheirch, a'u rhoi mewn un llestr, a gwna fara ohonynt; byddi'n ei fwyta yn ystod y tri chant naw deg o ddyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.

10 Byddi'n bwyta dy fwyd wrth bwysau, ugain sicl y dydd, ac yn ei fwyta yr un amser bob dydd.

11 A byddi'n yfed dŵr wrth fesur, chweched ran o hin, ac yn ei yfed yr un amser bob dydd.

12 Byddi'n ei fwyta yn deisen haidd wedi ei chrasu yng ngŵydd y bobl ar gynnud o garthion dynol.”

13 A dywedodd yr ARGLWYDD, “Fel hyn y bydd plant Israel yn bwyta bara halogedig ymysg y cenhedloedd y gyrraf hwy atynt.”

14 Atebais, “O Arglwydd DDUW, nid wyf erioed wedi fy halogi fy hun; o'm hieuenctid hyd yn awr nid wyf wedi bwyta dim a fu farw nac a ysglyfaethwyd, ac ni ddaeth cig aflan i'm genau.”

15 Yna dywedodd wrthyf, “Edrych, fe ganiatâf iti ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dynol i grasu dy fara.”

16 Dywedodd hefyd, “Fab dyn, yr wyf yn torri ymaith y gynhaliaeth o fara o Jerwsalem; mewn pryder y byddant yn bwyta bara wrth bwysau, ac mewn braw yn yfed dŵr wrth fesur.

17 Bydd y fath brinder o fara a dŵr fel y byddant yn brawychu o weld ei gilydd; byddant yn darfod oherwydd eu drygioni.