Eseia 14 BCN

Adfer Israel

1 Tosturia'r ARGLWYDD wrth Jacob, ac fe ddewis Israel drachefn iddo'i hun. Fe'u gesyd yn eu tir eu hunain, a daw estroniaid i ymgysylltu â hwy ac i lynu wrth deulu Jacob.

2 Bydd pobloedd yn eu hebrwng i'w lle, a defnyddia teulu Jacob hwy yn weision a morynion yn nhir yr ARGLWYDD; byddant yn caethiwo'r rhai a'u gwnaeth hwy'n gaeth, ac yn llywodraethu ar y rhai a'u gorthrymodd hwy.

Yn Erbyn Brenin Babilon

3 Yn y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi llonydd i ti oddi wrth dy boen a'th lafur a'r gaethwasiaeth greulon y buost ynddi,

4 fe gei ddatgan y dychan hwn yn erbyn brenin Babilon:O fel y darfu'r gorthrymwrac y peidiodd ei orffwylltra!

5 Drylliodd yr ARGLWYDD ffon yr annuwiola gwialen y llywiawdwyr,

6 a fu'n taro'r bobloedd mewn dig,heb atal eu hergyd,ac yn sathru'r bobloedd mewn llida'u herlid yn ddi-baid.

7 Daeth llonyddwch i'r holl ddaear, a thawelwch;ac y maent yn gorfoleddu ar gân.

8 Y mae hyd yn oed y ffynidwydd yn ymffrostio yn dy erbyn,a chedrwydd Lebanon hefyd, gan ddweud,“Er pan fwriwyd di ar dy orweddni chododd neb i'n torri ni i lawr.”

9 Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddii'th dderbyn pan gyrhaeddi;bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod,pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear;gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd,sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd.

10 Bydd pob un ohonynt yn ymateb,ac yn dy gyfarch fel hyn:“Aethost tithau'n wan fel ninnau;yr wyt yr un ffunud â ni.”

11 Dygwyd dy falchder i lawr yn Sheol,yn sŵn miwsig dy nablau;oddi tanat fe daenir y llyngyr,a throsot y mae'r pryfed yn gwrlid.

12 O fel y syrthiaist o'r nefoedd,ti, seren ddydd, fab y wawr!Fe'th dorrwyd i'r llawr,ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd.

13 Dywedaist ynot dy hun, “Dringaf fry i'r nefoedd,dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sêr uchaf;eisteddaf ar y mynydd cynnullym mhellterau'r Gogledd.

14 Dringaf yn uwch na'r cymylau;fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf.”

15 Ond i lawr i Sheol y'th ddygwyd,i lawr i ddyfnderau'r pwll.

16 Bydd y rhai a'th wêl yn synnua phendroni drosot, a dweud,“Ai dyma'r un a wnaeth i'r ddaear grynu,ac a ysgytiodd deyrnasoedd?

17 Ai hwn a droes y byd yn anialwch,a dinistrio'i ddinasoeddheb ryddhau ei garcharorion i fynd adref?”

18 Gorwedd holl frenhinoedd y cenhedloedd mewn anrhydedd,pob un yn ei le ei hun;

19 ond fe'th fwriwyd di allan heb fedd,fel erthyl a ffieiddir;fe'th orchuddiwyd â chelaneddwedi eu trywanu â chleddyf,ac yn disgyn i waelodion y pwll,fel cyrff wedi eu sathru dan draed.

20 Ni chei dy gladdu mewn bedd fel hwy,oherwydd difethaist dy dir a lleddaist dy bobl.Nac enwer byth mwy hil yr annuwiol;

21 darparwch laddfa i'w blant,oherwydd drygioni eu hynafiaid,rhag iddynt godi ac etifeddu'r tira gorchuddio'r byd â dinasoedd.

Dinistrio Babilon

22 “Codaf yn eu herbyn,”medd ARGLWYDD y Lluoedd,“a dinistrio enw Babilon a'r gweddill sydd ynddi,yn blant a phlant i blant,”medd yr ARGLWYDD.

23 “A gwnaf hi'n gynefin i aderyn y bwn,yn gors ddiffaith,ac ysgubaf hi ag ysgubell distryw,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.

Dinistrio Asyria

24 Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd,“Fel y cynlluniais y bydd,ac fel y bwriedais y digwydd;

25 drylliaf Asyria yn fy nhir,mathraf hi ar fy mynyddoedd;symudir ei hiau oddi arnata'i phwn oddi ar dy gefn.

26 Hwn yw'r cynllun a drefnwyd i'r holl ddaear,a hon yw'r llaw a estynnwyd dros yr holl genhedloedd.

27 Oherwydd ARGLWYDD y Lluoedd a gynlluniodd;pwy a'i diddyma?Ei law ef a estynnwyd;pwy a'i try'n ôl?”

Yn Erbyn Philistia

28 Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Ahas daeth yr oracl hwn:

29 Paid â llawenychu, Philistia gyfan,am dorri'r wialen a'th drawodd;oherwydd o wreiddyn y sarff fe gyfyd gwiber,a bydd ei hepil yn sarff wenwynig wibiog.

30 Caiff y tlawd bori yn fy nolydda'r anghenus orwedd yn dawel;ond lladdaf dy wreiddyn â newyn,a dinistriaf y rhai sy'n weddill ohonot.

31 Uda, borth! Gwaedda, ddinas!Y mae Philistia gyfan mewn gwewyr.Y mae mwg yn dod o'r gogledd,ac nid oes neb yn ei rengoedd yn llusgo.

32 Beth yw'r ateb i gennad y bobl?“Gwnaeth yr ARGLWYDD Seion yn ddiogel,ac ynddi y caiff trueiniaid ei bobl loches.”