Eseia 46 BCN

Duwiau Babilon

1 Crymodd Bel, plygodd Nebo;ar gefn anifail ac ych y mae eu delwau,ac aeth y rhain, a fu'n ddyrchafedig,yn faich ar anifeiliaid blinedig.

2 Plygant a chrymant gyda'i gilydd,ni allant arbed y llwyth,ond ânt eu hunain i gaethglud.

3 “Gwrandewch arnaf fi, dŷ Jacob,a phawb sy'n weddill o dŷ Israel;buoch yn faich i mi o'r groth,ac yn llwyth i mi o'r bru;

4 hyd eich henaint, myfi yw Duw,hyd eich penwynni, mi a'ch cariaf.Myfi sy'n gwneud, myfi sy'n cludo,myfi sy'n cario, a myfi sy'n arbed.

5 I bwy y'm cyffelybwch? Â phwy y gwnewch fi'n gyfartal?I bwy y'm cymharwch? Pwy sy'n debyg i mi?

6 Y mae'r rhai sy'n gwastraffu aur o'r pwrs,ac yn arllwys eu harian i glorian,yn llogi eurych ac yn gwneud duwi'w addoli ac ymgrymu iddo.

7 Codant ef ar eu hysgwydd a'i gario,gosodant ef yn ei le, ac yno y saif heb symud;os llefa neb arno, nid yw'n ei ateb,nac yn ei achub o'i gyfyngder.

8 “Cofiwch hyn, ac ystyriwch;galwch i gof, chwi wrthryfelwyr.

9 Cofiwch y pethau gynt, ymhell yn ôl;oherwydd myfi sydd Dduw, ac nid arall,yn Dduw heb neb yn debyg i mi.

10 Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd,ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud.Dywedaf, ‘Fe saif fy nghyngor,a chyflawnaf fy holl fwriad.’

11 Galwaf ar aderyn ysglyfaethus o'r dwyrain,a gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell.Yn wir, lleferais ac fe'i dygaf i ben,fe'i lluniais ac fe'i gwnaf.

12 Gwrandewch arnaf fi, chwi bobl ystyfnig,chwi sy'n bell oddi wrth gyfiawnder.

13 Paraf i'm cyfiawnder nesáu;nid yw'n bell, ac nid oeda fy iachawdwriaeth.Rhof iachawdwriaeth yn Seion,a'm gogoniant i Israel.”