Eseia 51 BCN

Gwaredigaeth i Seion

1 “Gwrandewch arnaf, chwi sy'n dilyn cyfiawnder,sy'n ceisio'r ARGLWYDD.Edrychwch ar y graig y'ch naddwyd ohoni,ac ar y chwarel lle'ch cloddiwyd;

2 edrychwch at Abraham eich tad,ac at Sara, a'ch dygodd i'r byd;un ydoedd pan elwais ef,ond fe'i bendithiais a'i amlhau.

3 Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion,yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd;bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden,a'i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD;ceir o'i mewn lawenydd a gorfoledd,emyn diolch a sain cân.

4 “Gwrandewch arnaf, fy mhobl;clywch fi, fy nghenedl;oherwydd daw cyfraith allan oddi wrthyf,a bydd fy marn yn goleuo pobloedd.

5 Y mae fy muddugoliaeth gerllaw,a'm hiachawdwriaeth ar ddod;bydd fy mraich yn rheoli'r bobloedd;bydd yr ynysoedd yn disgwyl wrthyf,ac yn ymddiried yn fy mraich.

6 Codwch eich golwg i'r nefoedd,edrychwch ar y ddaear islaw;y mae'r nefoedd yn diflannu fel mwg,a'r ddaear yn treulio fel dilledyn,a'i thrigolion yn marw fel gwybed;ond bydd fy iachawdwriaeth yn parhau byth,ac ni phalla fy muddugoliaeth.

7 “Gwrandewch arnaf, chwi sy'n adnabod cyfiawnder,rhai sydd â'm cyfraith yn eu calon:Peidiwch ag ofni gwaradwydd pobl,nac arswydo rhag eu gwatwar;

8 oherwydd bydd y pryf yn eu hysu fel dilledyn,a'r gwyfyn yn eu bwyta fel gwlân;ond bydd fy muddugoliaeth yn parhau byth,a'm hiachawdwriaeth i bob cenhedlaeth.”

9 Deffro, deffro, gwisg dy nerth,O fraich yr ARGLWYDD;deffro, fel yn y dyddiau gynt,a'r oesoedd o'r blaen.Onid ti a ddrylliodd Rahab,a thrywanu'r ddraig?

10 Onid ti a sychodd y môr,dyfroedd y dyfnder mawr?Onid ti a wnaeth ddyfnderau'r môr yn fforddi'r gwaredigion groesi?

11 Fe ddychwel gwaredigion yr ARGLWYDD;dônt i Seion dan ganu,a llawenydd tragwyddol ar bob un.Hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd,a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.

12 “Myfi, myfi sy'n eich diddanu;pam, ynteu, yr ofnwch neb meidrol,neu rywun sydd fel glaswelltyn?

13 Pam yr ydych yn anghofio'r ARGLWYDD, eich creawdwr,yr un a ledodd y nefoedd,ac a sylfaenodd y ddaear?Pam yr ofnwch o hyd, drwy'r dydd,rhag llid gorthrymwr sy'n barod i ddistrywio?Ond ple mae llid y gorthrymwr?

14 Caiff y caeth ei ryddhau yn y man;ni fydd yn marw yn y gell,ac ni fydd pall ar ei fara.

15 Myfi yw'r ARGLWYDD, dy Dduw,sy'n cynhyrfu'r môr nes i'r tonnau ruo; ARGLWYDD y Lluoedd yw fy enw.

16 Gosodais fy ngeiriau yn dy enau,cysgodais di yng nghledr fy llaw;taenais y nefoedd a sylfaenais y ddaear,a dweud wrth Seion, ‘Fy mhobl wyt ti.’ ”

Cwpan Digofaint Duw

17 Deffro, deffro, cod, Jerwsalem;yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lid,yfaist bob dafn o waddod y cwpan meddwol.

18 O blith yr holl blant yr esgorodd arnynt,nid oes un a all ei thywys;o'r holl rai a fagodd,nid oes un a afael yn ei llaw.

19 Daeth dau drychineb i'th gyfarfod—pwy a'th ddiddana?Dinistr a distryw, newyn a chleddyf—pwy a'th gysura?

20 Gorwedd dy blant yn llesg ym mhen pob heol,fel gafrewig mewn magl;y maent yn llawn o lid yr ARGLWYDD,a cherydd dy Dduw.

21 Am hynny, gwrando'n awr, y druan,sy'n feddw, er nad trwy win.

22 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Arglwydd a'th Dduw di,yr un sy'n dadlau achos ei bobl:“Cymerais o'th law y cwpan meddwol,ac nid yfi mwyach waddod cwpan fy llid;

23 ond rhof hi yn llaw dy ormeswyr,a ddywedodd wrthyt, ‘Plyga i lawri ni gerdded trosot.’Ac fe roist dy gefn fel llawr,ac fel heol iddynt gerdded trosti.”