Esra 8 BCN

Y Rhai a Ddychwelodd gydag Esra

1 Dyma restr, gyda'r achau, o'r pennau-teuluoedd a ddaeth gyda mi o Fabilon yn nheyrnasiad y Brenin Artaxerxes.

2 O deulu Phinees, Gersom; o deulu Ithamar, Daniel; o deulu Dafydd, Hattus fab Sechaneia;

3 o deulu Pharos, Sechareia, a chant a hanner o ddynion wedi eu rhestru gydag ef.

4 O deulu Pahath-moab, Elihoenai fab Seraheia, a dau gant o ddynion gydag ef.

5 O deulu Sattu, Sechaneia fab Jahasiel, a thri chant o ddynion gydag ef.

6 O deulu Adin, Ebed fab Jonathan, a hanner cant o ddynion gydag ef.

7 O deulu Elam, Eseia fab Athaleia, a saith deg o ddynion gydag ef.

8 O deulu Seffateia, Sebadeia fab Michael, ac wyth deg o ddynion gydag ef.

9 O deulu Joab, Obadeia fab Jehiel, a dau gant a deunaw o ddynion gydag ef.

10 O deulu Bani, Selomith fab Josiffeia, a chant chwe deg o ddynion gydag ef.

11 O deulu Bebai, Sechareia fab Bebai, a dau ddeg ac wyth o ddynion gydag ef.

12 O deulu Asgad, Johanan fab Haccatan, a chant a deg o ddynion gydag ef.

13 Ac yn olaf, o deulu Adonicam, y rhai canlynol: Eliffelet, Jehiel a Semeia, a chwe deg o ddynion gyda hwy;

14 ac o deulu Bigfai, Uthai a Sabbud, a saith deg o ddynion gyda hwy.

Esra'n Ceisio Lefiaid i'r Deml

15 Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon sy'n llifo i afon Ahafa a gwersyllu yno dridiau. Wedi bwrw golwg dros y bobl a'r offeiriaid, cefais nad oedd Lefiad yn eu plith.

16 Yna gelwais am y penaethiaid Elieser, Ariel, Semeia, Elnathan, Jarib, Elnathan, Nathan, Sechareia a Mesulam, ac am y doethion Joiarib ac Elnathan,

17 a'u hanfon at Ido, y pennaeth yng nghanolfan Chasiffeia; rhois iddynt neges i'w chyflwyno i Ido a'i frodyr, gweision y deml, oedd yn Chasiffeia, yn gofyn iddo anfon atom wasanaethyddion ar gyfer tŷ ein Duw.

18 Ac am ein bod yn derbyn ffafr ein Duw, anfonasant atom Serebeia, gŵr deallus o deulu Mahli, fab Lefi, fab Israel, gyda'i feibion a'i frodyr, deunaw ohonynt i gyd;

19 hefyd Hasabeia, a chydag ef Eseia o deulu Merari, gyda'i frodyr a'u meibion, ugain ohonynt;

20 a dau gant ac ugain o weision y deml, yn unol â threfn Dafydd a'i swyddogion, i gynorthwyo'r Lefiaid. Rhestrwyd hwy oll wrth eu henwau.

Ympryd a Gweddi cyn Cychwyn

21 Ac yno wrth afon Ahafa cyhoeddais ympryd i ymostwng o flaen ein Duw, i weddïo am siwrnai ddiogel i ni a'n plant a'n heiddo.

22 Yr oedd arnaf gywilydd gofyn i'r brenin am filwyr a marchogion i'n hamddiffyn yn erbyn gelynion ar y ffordd, am ein bod eisoes wedi dweud wrtho, “Y mae ein Duw yn rhoi cymorth i bawb sy'n ei geisio, ond daw grym ei lid yn erbyn pawb sy'n ei wadu.”

23 Felly gwnaethom ympryd ac ymbil ar ein Duw am hyn, a gwrandawodd yntau arnom.

Anrhegion ar gyfer y Deml

24 Yna neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, a hefyd Serebeia a Hasabeia, a deg o'u brodyr gyda hwy,

25 a throsglwyddo iddynt hwy yr arian a'r aur a'r llestri a roddwyd yn anrheg i dŷ ein Duw gan y brenin a'i gynghorwyr a'i dywysogion a'r holl Israeliaid oedd gyda hwy.

26 Rhoddais iddynt chwe chant a hanner o dalentau arian, llestri arian gwerth can talent, a chan talent o aur,

27 ac ugain o flychau aur gwerth mil o ddariciau, a dau lestr o bres melyn coeth, mor werthfawr ag aur.

28 A dywedais wrthynt, “Yr ydych chwi a'r llestri yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac offrwm gwirfoddol i ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid yw'r arian a'r aur.

29 Gwyliwch drostynt a'u cadw nes eu trosglwyddo i ystafelloedd tŷ'r ARGLWYDD yng ngŵydd penaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid a phennau-teuluoedd Israel sydd yn Jerwsalem.”

Dychwelyd i Jerwsalem

30 Yna cymerodd yr offeiriaid a'r Lefiaid y swm o arian ac aur a'r llestri i'w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw.

31 Ar y deuddegfed dydd o'r mis cyntaf cychwynasom o afon Ahafa i fynd i Jerwsalem, ac yr oedd ein Duw gyda ni, ac fe'n gwaredodd o law gelynion a lladron pen-ffordd.

32 Wedi cyrraedd Jerwsalem cawsom orffwys am dridiau.

33 Ac ar y pedwerydd dydd trosglwyddwyd yr arian a'r aur a'r llestri yn nhŷ ein Duw i ofal Meremoth fab Ureia, yr offeiriad, ac Eleasar fab Phinees, ac yr oedd Josabad fab Jesua a Noadeia fab Binnui, y Lefiaid, gyda hwy.

34 Gwnaed cyfrif o bopeth wrth ei drosglwyddo, a'r un pryd gwnaed rhestr o'r rhoddion.

35 Offrymodd y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud boethoffrymau i Dduw Israel: deuddeg bustach dros holl Israel, naw deg a chwech o hyrddod, saith deg a saith o ŵyn, a deuddeg bwch yn aberth dros bechod; yr oedd y cwbl yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.

36 Hefyd rhoesant orchymyn y brenin i'w swyddogion a'i dywysogion yn nhalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a chael eu cefnogaeth i'r bobl ac i dŷ Dduw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10