Esther 7 BCN

Crogi Haman

1 Felly aeth y brenin a Haman i wledda gyda'r Frenhines Esther.

2 Ac ar yr ail ddiwrnod, tra oeddent yn yfed gwin, dywedodd y brenin unwaith eto wrth Esther, “Frenhines Esther, beth yw dy ddymuniad? Fe'i cei. Beth bynnag a geisi, hyd hanner fy nheyrnas, fe'i cei.”

3 Atebodd y Frenhines Esther, “Os cefais ffafr yn dy olwg, ac os gwêl y brenin yn dda, fy nghais a'm dymuniad yw fy mod i a'm pobl yn cael ein harbed.

4 Oherwydd yr wyf fi a'm pobl wedi ein gwerthu i'n dinistrio a'n lladd a'n difa. Pe baem wedi ein gwerthu'n gaethweision ac yn gaethferched, ni ddywedwn i ddim; oherwydd ni fyddai ein trafferthion ni i'w cymharu â cholled y brenin.”

5 Dywedodd y Brenin Ahasferus wrth y Frenhines Esther, “Pwy yw'r un a feiddiodd wneud y fath beth, a pha le y mae?”

6 Meddai hithau, “Y gelyn a'r gwrthwynebwr yw'r Haman drwg hwn.” Brawychwyd Haman yng ngŵydd y brenin a'r frenhines.

7 Cododd y brenin yn ei lid, a mynd o'r wledd i ardd y palas; ond arhosodd Haman i ymbil â'r Frenhines Esther am ei einioes, oherwydd gwelodd fod y brenin wedi penderfynu dial arno.

8 Pan ddychwelodd y brenin o'r ardd i'r lle yr oeddent yn gwledda, yr oedd Haman yn plygu wrth y gwely lle'r oedd Esther. Meddai'r brenin, “A yw hefyd am dreisio'r frenhines, a minnau yn y tŷ?” Cyn gynted ag y dywedodd y brenin hyn, gorchuddiwyd wyneb Haman.

9 Yna dywedodd Harbona, un o'r eunuchiaid oedd yn gweini ar y brenin, “Y mae'r crocbren hanner can cufydd o uchder, a wnaeth Haman ar gyfer Mordecai, y gŵr a achubodd y brenin â'i neges, yn sefyll ger tŷ Haman.” Dywedodd y brenin, “Crogwch ef arno.”

10 Felly crogwyd Haman ar y crocbren a baratôdd ar gyfer Mordecai. Yna lliniarodd llid y brenin.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10