Exodus 1 BCN

Gormesu'r Israeliaid yn yr Aifft

1 Dyma enwau meibion Israel a aeth i'r Aifft gyda Jacob, pob un gyda'i deulu:

2 Reuben, Simeon, Lefi a Jwda,

3 Issachar, Sabulon a Benjamin,

4 Dan a Nafftali, Gad ac Aser.

5 Yr oedd gan Jacob ddeg a thrigain o ddisgynyddion; yr oedd Joseff eisoes yn yr Aifft.

6 Yna bu farw Joseff a phob un o'i frodyr a'r holl genhedlaeth honno.

7 Ond yr oedd plant Israel yn ffrwythlon ac yn amlhau'n ddirfawr, ac aethant mor gryf a niferus nes bod y wlad yn llawn ohonynt.

8 Yna daeth brenin newydd i deyrnasu ar yr Aifft, un nad oedd yn gwybod am Joseff.

9 Dywedodd ef wrth ei bobl, “Edrychwch, y mae pobl Israel yn fwy niferus ac yn gryfach na ni.

10 Rhaid inni fod yn ddoeth wrth eu trin, rhag iddynt gynyddu, a phe deuai rhyfel, iddynt ymuno â'n gelynion i ymladd yn ein herbyn, a dianc o'r wlad.”

11 Felly, gosodwyd meistri gwaith i oruchwylio'r bobl ac i'w llethu â beichiau trymion. Hwy fu'n adeiladu Pithom a Rameses, dinasoedd ar gyfer ystordai Pharo.

12 Ond po fwyaf y caent eu gorthrymu, mwyaf yn y byd yr oeddent yn amlhau ac yn cynyddu; a daeth yr Eifftiaid i'w hofni.

13 Am hynny, gorfodwyd i'r Israeliaid weithio dan ormes,

14 a gwnaeth yr Eifftiaid eu bywyd yn chwerw trwy eu gosod i lafurio'n galed â chlai a phriddfeini, a gwneud pob math o waith yn y meysydd. Yr oedd y cwbl yn cael ei wneud dan ormes.

15 Yna dywedodd brenin yr Aifft wrth Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid,

16 “Pan fyddwch yn gweini ar wragedd yr Hebreaid, sylwch ar y plentyn a enir: os mab fydd, lladdwch ef; os merch, gadewch iddi fyw.”

17 Ond yr oedd y bydwragedd yn parchu Duw; ac ni wnaethant yr hyn a orchmynnodd brenin yr Aifft, ond gadawsant i'r bechgyn fyw.

18 Galwodd brenin yr Aifft y bydwragedd ato a gofyn, “Pam y gwnaethoch hyn, a gadael i'r bechgyn fyw?”

19 Dywedasant hwythau wrth Pharo, “Nid yw gwragedd yr Hebreaid yn debyg i wragedd yr Eifftiaid, oherwydd y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn i'r fydwraig gyrraedd.”

20 Am hynny bu Duw yn dda wrth y bydwragedd; a chynyddodd y bobl a dod yn rymus iawn.

21 Am fod y bydwragedd yn parchu Duw, cawsant hwy eu hunain deuluoedd.

22 Yna rhoddodd Pharo orchymyn i'r holl bobl a dweud, “Taflwch i'r Neil bob mab a enir i'r Hebreaid, ond gadewch i bob merch gael byw.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40