Exodus 15 BCN

Cân Moses

1 Yna canodd Moses a'r Israeliaid y gân hon i'r ARGLWYDD:“Canaf i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus;bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.

2 Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,ac ef yw'r un a'm hachubodd;ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf,Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.

3 Y mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr;yr ARGLWYDD yw ei enw.

4 Taflodd gerbydau Pharo a'i fyddin i'r môr,a boddwyd ei gapteiniaid dethol yn y Môr Coch.

5 Daeth llifogydd i'w gorchuddio,a disgynasant i'r dyfnderoedd fel carreg.

6 Y mae nerth dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, yn ogoneddus;dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, a ddryllia'r gelyn.

7 Trwy dy fawrhydi aruchel darostyngaist dy wrthwynebwyr;gollyngaist dy ddigofaint, ac fe'u difaodd hwy fel sofl.

8 Trwy chwythiad dy ffroenau casglwyd y dyfroedd ynghyd;safodd y ffrydiau yn bentwr,a cheulodd y dyfnderoedd yng nghanol y môr.

9 Dywedodd y gelyn, ‘Byddaf yn erlid ac yn goddiweddyd;rhannaf yr ysbail, a chaf fy nigoni ganddo;tynnaf fy nghleddyf, a'u dinistrio â'm llaw.’

10 Ond pan chwythaist ti â'th anadl, gorchuddiodd y môr hwy,nes iddynt suddo fel plwm i'r dyfroedd mawrion.

11 Pwy ymhlith y duwiau sy'n debyg i ti, O ARGLWYDD?Pwy sydd fel tydi, yn ogoneddus ei sancteiddrwydd,yn teilyngu parch a mawl, ac yn gwneud rhyfeddodau?

12 Pan estynnaist dy ddeheulaw,llyncodd y ddaear hwy.

13 “Yn dy drugaredd, arweini'r bobl a waredaist,a thrwy dy nerth eu tywys i'th drigfan sanctaidd.

14 Fe glyw y bobloedd, a dychryn,a daw gwewyr ar drigolion Philistia.

15 Bydd penaethiaid Edom yn brawychu,ac arweinwyr Moab yn arswydo,a holl drigolion Canaan yn toddi.

16 Daw ofn a braw arnynt;oherwydd mawredd dy fraich byddant mor llonydd â charreg,nes i'th bobl di, O ARGLWYDD, fynd heibio,nes i'r bobl a brynaist ti fynd heibio.

17 Fe'u dygi i mewn a'u plannu ar y mynydd sy'n eiddo i ti,y man, O ARGLWYDD, a wnei yn drigfan i ti dy hun,y cysegr, O ARGLWYDD, a godi â'th ddwylo.

18 Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu byth bythoedd.”

Cân Miriam

19 Pan aeth meirch Pharo a'i gerbydau a'i farchogion i mewn i'r môr, gwnaeth yr ARGLWYDD i ddyfroedd y môr ddychwelyd drostynt; ond cerddodd yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych.

20 Yna cymerodd Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, dympan yn ei llaw, ac aeth yr holl wragedd allan ar ei hôl a dawnsio gyda thympanau.

21 Canodd Miriam gân iddynt:“Canwch i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus;bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.”

Iacháu'r Dŵr Chwerw

22 Yna arweiniodd Moses yr Israeliaid oddi wrth y Môr Coch, ac aethant ymaith i anialwch Sur; buont yn teithio'r anialwch am dridiau heb gael dŵr.

23 Pan ddaethant i Mara, ni allent yfed y dŵr yno am ei fod yn chwerw; dyna pam y galwyd y lle yn Mara.

24 Dechreuodd y bobl rwgnach yn erbyn Moses, a gofyn, “Beth ydym i'w yfed?”

25 Galwodd yntau ar yr ARGLWYDD, a dangosodd yr ARGLWYDD iddo bren; pan daflodd Moses y pren i'r dŵr, trodd y dŵr yn felys.Yno y sefydlodd yr ARGLWYDD ddeddf a chyfraith, ac yno hefyd y profodd hwy,

26 a dweud, “Os gwrandewi'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, a gwneud yr hyn sy'n iawn yn ei olwg, gan wrando ar ei orchmynion a chadw ei holl ddeddfau, ni rof arnat yr un o'r clefydau a rois ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n dy iacháu.”

27 Yna daethant i Elim, lle'r oedd deuddeg ffynnon ddŵr, a deg a thrigain o balmwydd; a buont yn gwersyllu yno wrth y dŵr.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40