Exodus 26 BCN

Y Tabernacl

1 “Gwna'r tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arnynt.

2 Bydd pob llen yn wyth cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.

3 Bydd pump o'r llenni wedi eu cydio wrth ei gilydd, a'r pump arall hefyd wedi eu cydio wrth ei gilydd.

4 Gwna ddolennau glas ar hyd ymyl y llen sydd ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.

5 Gwna hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, gyda'r dolennau gyferbyn â'i gilydd.

6 Gwna hefyd hanner cant o fachau aur, a chydia'r llenni wrth ei gilydd â'r bachau er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.

7 “Gwna un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.

8 Bydd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.

9 Cydia hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen, a gwna'r chweched yn ddwbl dros wyneb y babell.

10 Gwna hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.

11 “Gwna hanner cant o fachau pres a'u rhoi yn y dolennau i ddal y babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith.

12 Bydd yr hyn sydd dros ben o lenni'r babell, sef yr hanner llen, yn hongian y tu ôl i'r tabernacl.

13 Ar y ddwy ochr bydd y cufydd o lenni'r babell sydd dros ben yn hongian dros y tabernacl i'w orchuddio.

14 Gwna do i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod.

15 “Gwna hefyd ar gyfer y tabernacl fframiau syth o goed acasia,

16 pob un ohonynt yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led,

17 a dau denon ym mhob ffrâm i'w cysylltu â'i gilydd; gwna hyn i holl fframiau'r tabernacl.

18 Yr wyt i wneud y fframiau ar gyfer y tabernacl fel hyn: ugain ffrâm ar yr ochr ddeheuol,

19 a deugain troed arian oddi tanynt, dau i bob ffrâm ar gyfer ei dau denon;

20 ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, bydd ugain ffrâm

21 a deugain troed arian, dau dan bob ffrâm;

22 yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwna chwe ffrâm,

23 a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl,

24 wedi eu cysylltu yn y pen a'r gwaelod â bach; bydd y ddwy ffrâm yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl.

25 Felly bydd wyth ffrâm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrâm.

26 “Gwna hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,

27 pump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol.

28 Bydd y bar sydd ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall.

29 Yr wyt i oreuro'r fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt; yr wyt hefyd i oreuro'r barrau.

30 Yr wyt i adeiladu'r tabernacl yn ôl y cynllun a ddangoswyd iti ar y mynydd.

31 “Gwna orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arno.

32 Gosod ef â bachau aur ar bedair colofn o goed acasia, wedi eu goreuro ac yn sefyll ar bedwar troed arian.

33 Rho'r gorchudd ar y bachau, a chludo arch y dystiolaeth oddi tano; bydd y gorchudd yn gwahanu rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiaf.

34 Rho'r drugareddfa ar arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiaf.

35 Gosod y bwrdd y tu allan i'r gorchudd, ar ochr ogleddol y tabernacl, a'r canhwyllbren gyferbyn â'r bwrdd, ar yr ochr ddeheuol.

36 “Ar gyfer drws y babell gwna len o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio.

37 Ar gyfer y llen gwna bum colofn o goed acasia wedi eu goreuro, a bachau aur, a llunia o bres bum troed ar eu cyfer.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40