Exodus 40 BCN

Agor a Chysegru'r Tabernacl

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2 “Yr wyt i godi'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.

3 Gosod arch y dystiolaeth ynddo, a'i gorchuddio â llen.

4 Cymer y bwrdd i mewn, a'i osod yn drefnus, a chymer y canhwyllbren, a goleua ei lampau.

5 Rho allor aur yr arogldarth o flaen arch y dystiolaeth, a gosod y llen ar ddrws y tabernacl.

6 Rho allor y poethoffrwm o flaen drws y tabernacl, pabell y cyfarfod,

7 a gosod y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi dŵr ynddi.

8 Gosod y cyntedd o'i amgylch, a llen ar gyfer porth y cyntedd.

9 Yna cymer olew'r ennaint, ac eneinio'r tabernacl a'r cyfan sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl ddodrefn; a bydd yn gysegredig.

10 Eneinia hefyd allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a chysegra'r allor; a bydd yr allor yn gysegredig iawn.

11 Yna eneinia'r noe a'i throed, a chysegra hi.

12 Tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi â dŵr,

13 a gwisg Aaron â'r gwisgoedd cysegredig; eneinia ef a'i gysegru i'm gwasanaethu fel offeiriad.

14 Tyrd â'i feibion hefyd, a'u gwisgo â'r siacedau;

15 eneinia hwy, fel yr eneiniaist eu tad, i'm gwasanaethu fel offeiriaid; trwy eu heneinio fe'u hurddir i offeiriadaeth dragwyddol, dros y cenedlaethau.”

16 Felly gwnaeth Moses y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo;

17 ac ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf o'r ail flwyddyn fe godwyd y tabernacl.

18 Moses a gododd y tabernacl; gosododd ef ar ei draed, adeiladodd ei fframiau, rhoddodd ei bolion yn eu lle a chododd ei golofnau.

19 Lledodd y babell dros y tabernacl, a gosod to'r babell drosto, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

20 Cymerodd y dystiolaeth a'i rhoi yn yr arch; cysylltodd y polion wrth yr arch, a rhoi'r drugareddfa arni.

21 Yna daeth â'r arch i mewn i'r tabernacl, a gosod y gorchudd yn ei le dros arch y dystiolaeth, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

22 Rhoddodd y bwrdd ym mhabell y cyfarfod, ar ochr ogleddol y tabernacl, y tu allan i'r gorchudd,

23 a threfnodd y bara arno gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

24 Rhoddodd y canhwyllbren ym mhabell y cyfarfod, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y tabernacl,

25 a goleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

26 Rhoddodd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod o flaen y gorchudd,

27 ac offrymodd arogldarth peraidd arni, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

28 Rhoddodd y llen ar ddrws y tabernacl,

29 a gosododd allor y poethoffrwm wrth ddrws y tabernacl, pabell y cyfarfod, ac offrymodd arni boethoffrwm a bwydoffrwm, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.

30 Gosododd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi ynddi ddŵr,

31 er mwyn i Moses, Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.

32 Ymolchent wrth fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth nesáu at yr allor, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

33 Cododd gyntedd o amgylch y tabernacl a'r allor, a rhoddodd y gorchudd dros borth y cyntedd. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.

Y Cwmwl dros Babell y Cyfarfod

34 Yna gorchuddiodd cwmwl babell y cyfarfod, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl.

35 Ni allai Moses fynd i mewn i babell y cyfarfod am fod y cwmwl yn ei gorchuddio, ac am fod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl.

36 Pan godai'r cwmwl oddi ar y tabernacl, fe gychwynnai pobl Israel ar eu taith;

37 ond os na chodai'r cwmwl ni chychwynnent.

38 Ar hyd y daith yr oedd holl dŷ Israel yn gallu gweld cwmwl yr ARGLWYDD uwchben y tabernacl yn ystod y dydd, a thân uwch ei ben yn ystod y nos.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40