Galarnad 2 BCN

Cosb Jerwsalem

1 O'r fath dywyllwch a ddygodd yr Arglwyddar ferch Seion yn ei ddig!Bwriodd ogoniant Israelo'r nefoedd i'r llawr,ac ni chofiodd am ei droedfaincyn nydd ei ddicter.

2 Difethodd yr Arglwydd yn ddiarbedholl drigfannau Jacob;yn ei ddigofaint dinistrioddamddiffynfeydd merch Jwda;taflodd i lawr a difwynoddy deyrnas a'i phenaethiaid.

3 Yn angerdd ei ddig torroddgyrn Israel i gyd;tynnodd yn ôl ei ddeheulawwrth i'r gelyn ymosod;llosgodd yn Jacob fel fflam dânyn difa popeth o'i hamgylch.

4 Fel gelyn paratôdd ei fwa,safodd â'i ddeheulaw'n barod,ac fel gwrthwynebwr fe laddoddy cyfan oedd yn ddymunol i'r llygad;tywalltodd ei lid fel tânar babell merch Seion.

5 Y mae'r Arglwydd wedi troi'n elynac wedi difetha Israel;difethodd ei holl balasau,a dinistrio'i hamddiffynfeydd;gwnaeth i alar a gofidgynyddu i ferch Jwda.

6 Chwalodd ei babell fel chwalu gardd,a dinistrio'r man cyfarfod;gwnaeth yr ARGLWYDD i Seion anghofioei gŵyl a'i Saboth;yn angerdd ei lid dirmygoddfrenin ac offeiriad.

7 Gwrthododd yr Arglwydd ei allor,a ffieiddio'i gysegr;rhoddodd furiau ei phalasauyn llaw'r gelyn;gwaeddasant hwythau yn nhŷ'r ARGLWYDDfel ar ddydd gŵyl.

8 Yr oedd yr ARGLWYDD yn benderfynolo ddinistrio mur merch Seion;gosododd linyn mesur arni,ac ni thynnodd yn ôl ei law rhag difetha.Gwnaeth i wrthglawdd a mur alaru;aethant i gyd yn wan.

9 Suddodd ei phyrth i'r ddaear;torrodd a maluriodd ef ei barrau.Y mae ei brenin a'i phenaethiaid ymysg y cenhedloedd,ac nid oes cyfraith mwyach;ni chaiff ei phroffwydiweledigaeth gan yr ARGLWYDD.

10 Y mae henuriaid merch Seionyn eistedd yn fud ar y ddaear,wedi taflu llwch ar eu pennaua gwisgo sachliain;y mae merched ifainc Jerwsalemwedi crymu eu pennau i'r llawr.

11 Dallwyd fy llygaid gan ddagrau;y mae f'ymysgaroedd mewn poen.Yr wyf yn tywallt fy nghalon allano achos dinistr merch fy mhobl,ac am fod plant a babanod yn llewyguyn strydoedd y ddinas.

12 Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau,“Ple cawn ni rawn a gwin?”—wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedigyn strydoedd y ddinas,ac wrth iddynt ymladd am eu bywydym mynwes eu mamau.

13 Beth allaf ei ddweud o'th blaid,a beth a ddychmygaf amdanat, ferch Jerwsalem?I bwy y gallaf dy gyffelybu er mwyn dy gysur,y forwyn, ferch Seion?Y mae dy ddolur mor ddwfn â'r môr,pwy a all dy iacháu?

14 Yr oedd gweledigaethau dy broffwydiyn gelwyddog a thwyllodrus;ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedder mwyn adfer dy lwyddiant;yr oedd yr oraclau a roddasant itiyn gelwyddog a chamarweiniol.

15 Y mae pob un sy'n mynd heibioyn curo'i ddwylo o'th achos;y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennauar ferch Jerwsalem:“Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch,ac yn llawenydd yr holl ddaear?”

16 Y mae dy holl elynionyn gweiddi'n groch yn dy erbyn,yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd;dywedant, “Yr ydym wedi ei difetha;dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano;yr ydym wedi cael ei weld!”

17 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a gynlluniodd;cyflawnodd ei fwriad,a drefnodd ers amser maith,a dinistriodd yn ddiarbed;gwnaeth i'r gelyn lawenhau o'th achos,a dyrchafu corn dy wrthwynebwyr.

18 Gwaedda ar yr Arglwydd,O fur merch Seion;tywallt ddagrau'n genllif ddydd a nos;paid ag ymatal na rhoi gorffwys i'th lygaid.

19 Cod, a gwaedda liw nos,ar gychwyn pob gwyliadwriaeth;tywallt dy galon fel dŵro flaen yr Arglwydd;estyn dy ddwylo tuag atoam fywyd dy blant,sy'n llewygu gan newynym mhen pob stryd.

20 Edrych, ARGLWYDD, a gwêl.I bwy y gwnaethost hyn?A yw'r gwragedd i fwyta'u hepil,y plant y maent yn eu hanwesu?A leddir offeiriad a phroffwydyng nghysegr yr Arglwydd?

21 Gorwedd yr ifanc a'r henyn y llwch ar y strydoedd;y mae fy merched a'm dynion ifaincwedi syrthio trwy'r cleddyf;lleddaist hwy yn nydd dy ddicter,a'u difa'n ddiarbed.

22 Gelwaist ar fy ymosodwyr o bob cyfeiriad,fel ar ddydd gŵyl;nid oedd un yn dianc nac yn cael ei arbedyn nydd dicter yr ARGLWYDD;lladdodd fy ngelynbob un a anwesais ac a fegais.

Penodau

1 2 3 4 5