Galarnad 3 BCN

Edifeirwch a Gobaith

1 Myfi yw'r gŵr a welodd ofiddan wialen ei ddicter.

2 Gyrrodd fi allan a gwneud imi gerddedtrwy dywyllwch lle nad oedd goleuni.

3 Daliodd i droi ei law yn f'erbyn,a hynny ddydd ar ôl dydd.

4 Parodd i'm cnawd a'm croen ddihoeni,a maluriodd f'esgyrn.

5 Gwnaeth warchae o'm cwmpas,a'm hamgylchynu â chwerwder a blinder.

6 Gwnaeth i mi aros mewn tywyllwch,fel rhai wedi hen farw.

7 Caeodd arnaf fel na allwn ddianc,a gosododd rwymau trwm amdanaf.

8 Pan elwais, a gweiddi am gymorth,fe wrthododd fy ngweddi.

9 Caeodd fy ffyrdd â meini mawrion,a gwneud fy llwybrau'n gam.

10 Y mae'n gwylio amdanaf fel arth,fel llew yn ei guddfa.

11 Tynnodd fi oddi ar y ffordd a'm dryllio,ac yna fy ngadael yn ddiymgeledd.

12 Paratôdd ei fwa, a'm gosodyn nod i'w saeth.

13 Anelodd saethau ei gawella'u trywanu i'm perfeddion.

14 Yr oeddwn yn gyff gwawd i'r holl bobloedd,yn destun caneuon gwatwarus drwy'r dydd.

15 Llanwodd fi â chwerwder,a'm meddwi â'r wermod.

16 Torrodd fy nannedd â cherrig,a gwneud imi grymu yn y lludw.

17 Yr wyf wedi f'amddifadu o heddwch;anghofiais beth yw daioni.

18 Yna dywedais, “Diflannodd fy nerth,a hefyd fy ngobaith oddi wrth yr ARGLWYDD.”

19 Cofia fy nhrallod a'm crwydro,y wermod a'r bustl.

20 Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad,ac wedi fy narostwng.

21 Meddyliaf yn wastad am hyn,ac felly disgwyliaf yn eiddgar.

22 Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD,ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.

23 Y maent yn newydd bob bore,a mawr yw dy ffyddlondeb.

24 Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan,am hynny disgwyliaf wrtho.”

25 Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo,i'r rhai sy'n ei geisio.

26 Y mae'n dda disgwyl yn dawelam iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.

27 Da yw bod un yn cymryd yr iau arnoyng nghyfnod ei ieuenctid.

28 Boed iddo eistedd ar ei ben ei hun,a bod yn dawel pan roddir hi arno;

29 boed iddo osod ei enau yn y llwch;hwyrach fod gobaith iddo.

30 Boed iddo droi ei rudd i'r un sy'n ei daro,a bod yn fodlon i dderbyn dirmyg.

31 Oherwydd nid yw'r Arglwyddyn gwrthod am byth;

32 er iddo gystuddio,bydd yn trugarhau yn ôl ei dosturi mawr,

33 gan nad o'i fodd y mae'n dwyn gofidac yn cystuddio pobl.

34 Sathru dan draedholl garcharorion y ddaear,

35 a thaflu o'r neilltu hawl rhywungerbron y Goruchaf,

36 a gwyrdroi achos—Onid yw'r Arglwydd yn sylwi ar hyn?

37 Pwy a all orchymyn i unrhyw beth ddigwyddheb i'r Arglwydd ei drefnu?

38 Onid o enau'r Goruchafy daw drwg a da?

39 Sut y gall unrhyw un byw rwgnach,ie, unrhyw feidrolyn, yn erbyn ei gosb?

40 Bydded inni chwilio a phrofi ein ffyrdd,a dychwelyd at yr ARGLWYDD,

41 a dyrchafu'n calonnau a'n dwyloat Dduw yn y nefoedd.

42 Yr ydym ni wedi troseddu a gwrthryfela,ac nid wyt ti wedi maddau.

43 Yr wyt yn llawn dig ac yn ein herlid,yn lladd yn ddiarbed.

44 Ymguddiaist mewn cwmwlrhag i'n gweddi ddod atat.

45 Gwnaethost ni'n ysbwriel ac yn garthionymysg y bobloedd.

46 Y mae'n holl elynionyn gweiddi'n groch yn ein herbyn.

47 Fe'n cawsom ein hunain mewn dychryn a magl,hefyd mewn difrod a dinistr.

48 Y mae fy llygad yn ffrydiau o ddŵro achos dinistr merch fy mhobl;

49 y mae'n diferu'n ddi-baid,heb gael gorffwys,

50 hyd onid edrycha'r ARGLWYDDa gweld o'r nefoedd.

51 Y mae fy llygad yn flinder imio achos dinistr holl ferched fy ninas.

52 Y mae'r rhai sy'n elynion imi heb achosyn fy erlid yn wastad fel aderyn.

53 Y maent yn fy mwrw'n fyw i'r pydew,ac yn taflu cerrig arnaf.

54 Llifodd y dyfroedd trosof,a dywedais, “Y mae ar ben arnaf.”

55 Gelwais ar d'enw, O ARGLWYDD,o waelod y pydew.

56 Clywaist fy llef: “Paid â throi'n glustfyddari'm cri am gymorth.”

57 Daethost yn agos ataf y dydd y gelwais arnat;dywedaist, “Paid ag ofni.”

58 Yr oeddit ti, O Arglwydd, yn dadlau f'achos,ac yn gwaredu fy mywyd.

59 Gwelaist, O ARGLWYDD, y cam a wnaethpwyd â mi,a dyfernaist o'm plaid.

60 Gwelaist eu holl ddial,a'u holl gynllwynio yn f'erbyn.

61 Clywaist, O ARGLWYDD, eu dirmyg,a'u holl gynllwynio yn f'erbyn—

62 geiriau a sibrydion fy ngwrthwynebwyryn f'erbyn bob dydd.

63 Edrych arnynt—yn eistedd neu'n sefyll,fi yw testun eu gwawd.

64 O ARGLWYDD, tâl iddyntyn ôl gweithredoedd eu dwylo.

65 Rho iddynt ofid calon,a bydded dy felltith arnynt.

66 O ARGLWYDD, erlid hwy yn dy lid,a dinistria hwy oddi tan y nefoedd.

Penodau

1 2 3 4 5