1 Cofia, O ARGLWYDD, beth ddigwyddodd inni;edrych a gwêl ein gwarth.
2 Rhoddwyd ein hetifeddiaeth i estroniaid,a'n tai i ddieithriaid.
3 Yr ydym fel rhai amddifad, heb dadau,a'n mamau fel gweddwon.
4 Y mae'n rhaid inni dalu am y dŵr a yfwn,a phrynu'r coed a gawn.
5 Y mae iau ar ein gwarrau, ac fe'n gorthrymir;yr ydym wedi blino, ac ni chawn orffwys.
6 Gwnaethom gytundeb â'r Aifft,ac yna ag Asyria, i gael digon o fwyd.
7 Pechodd ein tadau, ond nid ydynt mwyach;ni sy'n dwyn y baich am eu camweddau.
8 Caethweision sy'n llywodraethu arnom,ac nid oes neb i'n hachub o'u gafael.
9 Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd,oherwydd y cleddyf yn yr anialwch.
10 Y mae ein croen wedi duo fel ffwrnoherwydd y dwymyn a achosir gan newyn.
11 Treisir gwragedd yn Seion,a merched ifainc yn ninasoedd Jwda.
12 Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo,ac ni pherchir yr henuriaid.
13 Y mae'r dynion ifainc yn llafurio â'r maen melin,a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed.
14 Gadawodd yr henuriaid y porth,a'r gwŷr ifainc eu cerddoriaeth.
15 Diflannodd llawenydd o'n calonnau,a throdd ein dawnsio yn alar.
16 Syrthiodd y goron oddi ar ein pen;gwae ni, oherwydd pechasom.
17 Dyma pam y mae ein calon yn gystuddiol,ac oherwydd hyn y pylodd ein llygaid:
18 am fod Mynydd Seion wedi mynd yn ddiffeithwch,a'r siacaliaid yn prowla yno am ysglyfaeth.
19 Yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,ac y mae dy orsedd o genhedlaeth i genhedlaeth.
20 Pam yr wyt yn ein hanghofio o hyd,ac wedi'n gwrthod am amser mor faith?
21 ARGLWYDD, tyn ni'n ôl atat, ac fe ddychwelwn;adnewydda ein dyddiau fel yn yr amser a fu,
22 os nad wyt wedi'n gwrthod yn llwyr,ac yn ddig iawn wrthym.