Genesis 23 BCN

Marw Sara

1 Bu Sara fyw am gant dau ddeg a saith o flynyddoedd; dyna hyd ei hoes.

2 Bu farw Sara yn Ciriath-arba, hynny yw Hebron, yng ngwlad Canaan; ac aeth Abraham i alaru am Sara, ac wylodd amdani.

3 Wedi hynny cododd Abraham o ŵydd y marw, a dywedodd wrth yr Hethiaid,

4 “Dieithryn ac ymdeithydd wyf yn eich mysg; rhowch i mi hawl ar fedd yn eich plith, er mwyn imi gael claddu fy marw.”

5 Atebodd yr Hethiaid Abraham, a dweud wrtho,

6 “Clyw ni, f'arglwydd; tywysog nerthol wyt ti yn ein plith. Cladda dy farw yn y gorau o'n beddau; ni wrthyd neb ohonom ei fedd iti i gladdu dy farw.”

7 Yna cododd Abraham ac ymgrymu i'r Hethiaid, pobl y wlad,

8 a dweud wrthynt, “Os ydych yn fodlon imi gladdu fy marw, gwrandewch arnaf, a deisyfwch trosof ar Effron fab Sohar

9 iddo roi imi ogof Machpela, sy'n eiddo iddo ac yng nghwr ei faes. Rhodded hi i mi am y pris llawn, imi gael hawl ar fedd yn eich plith.”

10 Yr oedd Effron yn eistedd gyda'r Hethiaid, a dywedodd wrth Abraham yng nghlyw'r Hethiaid a phawb oedd yn dod i mewn trwy borth ei ddinas,

11 “Na, f'arglwydd, gwrando arnaf; rhof y maes i ti yn ogystal â'r ogof sydd ynddo; yr wyf yn ei rhoi i ti yng ngŵydd fy mhobl; cladda dy farw.”

12 Yna ymgrymodd Abraham o flaen pobl y wlad,

13 a dywedodd wrth Effron yn eu clyw, “Os felly, gwrando arnaf; yr wyf am roi i ti bris y maes; cymer hyn gennyf, er mwyn imi gael claddu fy marw yno.”

14 Atebodd Effron Abraham a dweud wrtho,

15 “Gwrando arnaf, f'arglwydd; darn o dir gwerth pedwar can sicl o arian, beth yw hynny rhyngom ni? Cladda dy farw.”

16 Cytunodd Abraham ag Effron, a phwysodd iddo yr arian a grybwyllodd yng nghlyw'r Hethiaid, pedwar can sicl o arian, yn ôl pwysau'r marchnatwyr.

17-18 Felly y sicrhawyd i Abraham, yng ngŵydd yr Hethiaid a phawb oedd yn dod i mewn trwy borth y ddinas, feddiant ar faes Effron yn Machpela, i'r dwyrain o Mamre. Cafodd ef y maes a'r ogof ynddo a phob coeden o fewn holl derfynau'r maes.

19 Wedi hynny, claddodd Abraham ei wraig Sara yn yr ogof ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, hynny yw Hebron, yng ngwlad Canaan.

20 Sicrhawyd gan yr Hethiaid y maes a'r ogof oedd ynddo yn gladdfa i Abraham.