Genesis 38 BCN

Jwda a Tamar

1 Yr adeg honno gadawodd Jwda ei frodyr a throi at ŵr o Adulam o'r enw Hira.

2 Ac yno gwelodd Jwda ferch rhyw Ganaanead o'r enw Sua, a chymerodd hi'n wraig iddo a chafodd gyfathrach â hi;

3 beichiogodd hithau ac esgor ar fab, ac enwodd yntau ef yn Er.

4 Beichiogodd eilwaith ac esgor ar fab, ac enwodd ef Onan.

5 Esgorodd eto ar fab, ac enwodd ef Sela; yn Chesib yr oedd pan esgorodd arno.

6 Cymerodd Jwda wraig o'r enw Tamar i Er ei fab hynaf.

7 Ond dyn drygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD oedd Er, mab hynaf Jwda; a pharodd yr ARGLWYDD iddo farw.

8 Yna dywedodd Jwda wrth Onan, “Dos at wraig dy frawd, ac fel brawd ei gŵr cod deulu i'th frawd.”

9 Ond gwyddai Onan nad ei eiddo ef fyddai'r teulu; ac felly, pan âi at wraig ei frawd, collai ei had ar lawr, rhag rhoi plant i'w frawd.

10 Yr oedd yr hyn a wnaeth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a pharodd iddo yntau farw.

11 Yna dywedodd Jwda wrth ei ferch-yng-nghyfraith Tamar, “Aros yn weddw yn nhŷ dy dad nes i'm mab Sela dyfu”; oherwydd yr oedd arno ofn iddo yntau hefyd farw fel ei frodyr. Felly aeth Tamar i fyw yn nhŷ ei thad.

12 Ymhen amser, bu farw gwraig Jwda, merch Sua; ac wedi ei dymor galar aeth Jwda a'i gyfaill Hira yr Adulamiad i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid.

13 Pan fynegwyd i Tamar fod ei thad-yng-nghyfraith wedi mynd i Timnath i gneifio,

14 tynnodd wisg ei gweddwdod oddi amdani, a gwisgo gorchudd a'i lapio amdani. Yna aeth i eistedd wrth borth Enaim ar y ffordd i Timnath; oherwydd yr oedd yn gweld bod Sela wedi dod i oed ac nad oedd hi wedi ei rhoi'n wraig iddo.

15 Gwelodd Jwda hi a thybiodd mai putain ydoedd, gan ei bod wedi cuddio'i hwyneb.

16 Trodd ati ar y ffordd a dweud, “Tyrd, gad i mi gael cyfathrach â thi.” Ond ni wyddai mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi. Atebodd hithau, “Beth a roi di imi, os cei gyfathrach â mi?”

17 Dywedodd, “Anfonaf i ti fyn gafr o'r praidd.” Atebodd hithau, “A roi di wystl imi nes iti ei anfon?”

18 Gofynnodd yntau, “Beth a rof iti'n wystl?” Atebodd hithau, “Dy sêl a'r llinyn, a'th ffon sydd yn dy law.” Wedi iddo eu rhoi iddi, cafodd gyfathrach â hi, a beichiogodd hithau.

19 Yna, wedi iddi godi a mynd ymaith, tynnodd ei gorchudd a rhoi amdani wisg ei gweddwdod.

20 Anfonodd Jwda y myn gafr yng ngofal ei gyfaill yr Adulamiad, er mwyn cael y gwystl yn ôl gan y wraig, ond ni allai ddod o hyd iddi.

21 Holodd ddynion y lle a dweud, “Ble mae'r butain y cysegr oedd ar y ffordd yn Enaim?” Ac atebasant, “Nid oes putain y cysegr yma.”

22 Felly dychwelodd at Jwda a dweud, “Ni chefais hyd iddi; a dywedodd dynion y lle nad oedd putain y cysegr yno.”

23 Yna dywedodd Jwda, “Bydded iddi eu cadw, neu byddwn yn destun cywilydd; anfonais i y myn hwn, ond methaist gael hyd iddi.”

24 Ymhen tri mis dywedwyd wrth Jwda, “Bu Tamar dy ferch-yng-nghyfraith yn puteinio, ac y mae wedi beichiogi hefyd mewn godineb.” Dywedodd Jwda, “Dewch â hi allan, a llosger hi.”

25 A phan ddaethant â hi allan, anfonodd at ei thad-yng-nghyfraith i ddweud, “Yr wyf yn feichiog o'r gŵr biau'r rhain.” A dywedodd hefyd, “Edrych, yn awr, eiddo pwy yw'r rhain, y sêl a'r llinyn a'r ffon.”

26 Adnabu Jwda hwy a dywedodd, “Y mae hi'n fwy cyfiawn na mi, oherwydd na rois hi i'm mab Sela.” Ni orweddodd gyda hi ar ôl hynny.

27 Pan ddaeth yr amser iddi esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth,

28 ac wrth iddi esgor rhoes un ei law allan; a chymerodd y fydwraig edau goch a'i rhwymo am ei law, a dweud, “Hwn a ddaeth allan yn gyntaf.”

29 Ond tynnodd ei law yn ôl, a daeth ei frawd allan; a dywedodd hi, “Dyma doriad yr wyt wedi ei wneud i ti dy hun!” Ac enwyd ef Peres.

30 Daeth ei frawd allan wedyn â'r edau goch am ei law, ac enwyd ef Sera.