Jeremeia 11 BCN

Jeremeia a'r Cyfamod

1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:

2 “Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a llefarwch wrth bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,

3 a dweud wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Melltith ar y sawl na wrendy ar eiriau'r cyfamod hwn,

4 a orchmynnais i'ch hynafiaid y dydd y dygais hwy allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, a dweud, “Gwrandewch arnaf, a gwnewch yn unol â'r hyn a orchmynnaf i chwi; a byddwch yn bobl i mi, a byddaf finnau'n Dduw i chwi.”

5 Fel hyn y gwireddir y llw a dyngais i'ch hynafiaid, i roi iddynt wlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel y mae heddiw.’ ” Atebais innau, “Amen, ARGLWYDD.”

6 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cyhoedda'r holl eiriau hyn yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a dywed, ‘Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a'u gwneud.

7 Oherwydd rhybuddiais eich hynafiaid o'r dydd y dygais hwy o'r Aifft hyd y dydd hwn; rhybuddiais hwy yn ddifrifol, a dweud, “Gwrandewch arnaf.”

8 Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i glywed, ond rhodiodd pob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus. Felly dygais arnynt holl eiriau'r cyfamod hwn y gorchmynnais iddynt ei wneud ond na wnaethant.’ ”

9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cafwyd cynllwyn ymhlith pobl Jwda a thrigolion Jerwsalem.

10 Troesant yn ôl at ddrygioni eu hynafiaid gynt pan wrthodent wrando fy ngeiriau. Aethant ar ôl duwiau eraill i'w gwasanaethu, a thorrodd tŷ Israel a thŷ Jwda fy nghyfamod, a wneuthum â'u hynafiaid.

11 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwyf am ddwyn drwg arnynt na allant ei osgoi; a gwaeddant arnaf, ond ni wrandawaf.

12 Yna fe â dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem i weiddi ar y duwiau yr arferent arogldarthu iddynt, ond yn sicr ni allant hwy eu gwaredu yn amser eu drygfyd.

13 Yn wir, y mae dy dduwiau mor aml â'th ddinasoedd, O Jwda, ac wrth nifer heolydd Jerwsalem codasoch allorau er cywilydd, allorau i arogldarthu i Baal.”

14 “Ond amdanat ti, paid â gweddïo dros y bobl hyn, na chodi cri na gweddi, oherwydd ni fynnaf wrando pan alwant arnaf yn ystod eu drygfyd.”

15 “Beth sydd a wnelo f'anwylyd â'm tŷ,a hithau'n cyflawni gweithredoedd ysgeler?A all llwon, neu gig sanctaidd, droi dy ddinistr heibio,fel y gelli lawenychu?

16 Olewydden ddeiliog deg a ffrwythlon y galwodd yr ARGLWYDD di;ond â thrwst cynnwrf mawr fe gyneua dân ynddi,ac ysir ei changau.”

17 “ARGLWYDD y Lluoedd, yr un a'th blannodd, a draetha ddrwg yn dy erbyn, oherwydd y drygioni a wnaeth tŷ Israel a thŷ Jwda, gan fy nigio ac arogldarthu i Baal.”

18 Yr ARGLWYDD a'm hysbysodd, a mi a'i gwn; dangosodd i mi eu gweithredoedd.

19 Yr oeddwn innau fel oen tyner yn cael ei arwain i'w ladd, ac ni wyddwn mai ar fy nghyfer i y gosodent gynllwynion, gan ddweud, “Distrywiwn y pren a'i ffrwyth; torrwn ef ymaith o dir y rhai byw, fel na chofir ei enw mwy.”

20 O ARGLWYDD y Lluoedd, barnwr cyfiawn,chwiliwr y galon a'r deall,rho i mi weld dy ddialedd arnynt,canys i ti y datguddiaf fy nghwyn.

21 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am bobl Anathoth, sydd yn ceisio fy einioes ac yn dweud, “Paid â phroffwydo mwyach yn enw yr ARGLWYDD, ac ni fyddi farw trwy ein dwylo ni.”

22 Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Rwyf am ddial arnynt; bydd eu gwŷr ifainc farw trwy'r cleddyf, a'u meibion a'u merched o newyn;

23 ac ni bydd gweddill ohonynt. Dygaf ddrygfyd ar bobl Anathoth ym mlwyddyn eu cosbi.”