Jeremeia 13 BCN

Y Gwregys Lliain

1 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: “Dos a phryn wregys lliain, a'i roi am dy lwynau; paid â'i ddodi mewn dŵr.”

2 Prynais wregys ar air yr ARGLWYDD, a'i roi am fy llwynau.

3 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, a dweud,

4 “Cymer y gwregys a brynaist, ac sydd am dy lwynau, a dos i ymyl afon Ewffrates a'i guddio yno mewn hollt yn y graig.”

5 Felly euthum a'i guddio wrth ymyl afon Ewffrates, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i mi.

6 Ar ôl dyddiau lawer dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dos i ymyl afon Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys y gorchmynnais iti ei guddio yno.”

7 Euthum innau yno, a chloddio a chymryd y gwregys o'r lle y cuddiais ef; ac wele, yr oedd y gwregys wedi ei ddifetha, ac nid oedd yn dda i ddim.

8 Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

9 “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Felly y difethaf finnau falchder Jwda a balchder mawr Jerwsalem.

10 Fel y gwregys yma, nad yw'n dda i ddim, y bydd y bobl ddrygionus hyn, sy'n gwrthod gwrando ar fy ngeiriau, ond yn rhodio yn ystyfnigrwydd eu calon, ac yn dilyn duwiau eraill i'w gwasanaethu a'u haddoli.

11 Oherwydd fel y gafael gwregys am lwynau rhywun, felly y perais i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda afael ynof fi,” medd yr ARGLWYDD, “i fod yn bobl i mi, ac yn enw, ac yn foliant ac yn ogoniant; ond ni wrandawsant.

Y Gostrel Win

12 “Dywed wrthynt y gair yma: ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Llenwir pob costrel â gwin.’ A dywedant wrthyt, ‘Oni wyddom ni'n iawn y llenwir pob costrel â gwin?’

13 Yna dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n llenwi'n feddw holl drigolion y tir hwn, yn frenhinoedd sy'n eistedd ar orseddfainc Dafydd, yn offeiriaid ac yn broffwydi, a holl drigolion Jerwsalem.

14 Drylliaf hwy y naill yn erbyn y llall, rhieni a phlant ynghyd, medd yr ARGLWYDD; nid arbedaf ac ni thosturiaf ac ni thrugarhaf, eithr difethaf hwy.’ ”

Bygwth Caethglud

15 Clywch a gwrandewch; peidiwch ag ymfalchïo,canys llefarodd yr ARGLWYDD.

16 Rhowch ogoniant i'r ARGLWYDD eich Duwcyn iddo beri tywyllwch,a chyn i'ch traed faglu yn y gwyll ar y mynyddoedd;a thra byddwch yn disgwyl am olau,bydd yntau'n ei droi yn dywyllwch dudew,ac yn ei wneud yn nos ddu.

17 Ac os na wrandewch ar hyn,mi wylaf yn y dirgel am eich balchder;fe ffrydia fy llygaid ddagrau chwerw,oherwydd dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.

18 “Dywed wrth y brenin a'r fam frenhines,‘Eisteddwch yn ostyngedig,oherwydd syrthiodd eich coron anrhydeddus oddi ar eich pen.’

19 Caeir dinasoedd y Negef, heb neb i'w hagor;caethgludir Jwda gyfan, caethgludir hi yn llwyr.”

20 Dyrchafwch eich llygaid, a gwelwchy rhai a ddaw o'r gogledd.Ple mae'r praidd a roddwyd i ti, dy ddiadell braf?

21 Beth a ddywedi pan roddir y rhai a ddysgaist yn feistri arnat,a'r rhai a fegaist yn ben arnat?Oni chydia ynot ofidiau, fel gwraig wrth esgor?

22 A phan feddyli, “Pam y digwyddodd hyn i mi?”,yn ôl amlder dy gamwedd y codwyd godre dy wisg,ac y dinoethwyd dy gorff.

23 A newidia'r Ethiopiad ei groen,neu'r llewpard ei frychni?A allwch chwithau wneud daioni,chwi a fagwyd mewn drygioni?

24 “Fe'u chwalaf hwy fel usa chwythir gan wynt y diffeithwch.

25 Hyn fydd dy ran, yr hyn a fesurais i ti,” medd yr ARGLWYDD,“am i ti fy anghofio, ac ymddiried mewn celwydd.

26 Mi godaf odre dy wisg dros dy wyneb,ac amlygir dy warth.

27 Gwelais dy anlladrwydd, dy odineb, dy weryriad nwydus,a budreddi dy buteindra ar fryn a maes.Gwae di, Jerwsalem! Ni fyddi'n lân!Pa hyd, eto, y pery hyn?”