Jeremeia 26 BCN

Gosod Jeremeia ar Brawf

1 Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, daeth y gair hwn oddi wrth yr ARGLWYDD:

2 “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Saf yng nghyntedd tŷ'r ARGLWYDD a phan ddaw holl ddinasoedd Jwda i addoli yn nhŷ'r ARGLWYDD, llefara wrthynt yr holl eiriau a orchmynnaf, heb atal gair.

3 Efallai y gwrandawant, a dychwelyd, pob un o'i ffordd ddrwg, a minnau'n newid fy meddwl am y drwg a fwriedais iddynt oherwydd eu gweithredoedd drygionus.

4 Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Os na wrandewch arnaf, a rhodio yn ôl fy nghyfraith a rois o'ch blaen,

5 a gwrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi a anfonaf atoch—fel y gwnaed yn gyson, a chwithau heb wrando—

6 yna gwnaf y tŷ hwn fel Seilo, a'r ddinas hon yn felltith i holl genhedloedd y ddaear.’ ”

7 Clywodd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r holl bobl Jeremeia yn llefaru'r geiriau hyn yn nhŷ'r ARGLWYDD.

8 Pan orffennodd fynegi'r cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth yr holl bobl, daliodd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r holl bobl ef, a dweud, “Rhaid iti farw;

9 pam y proffwydaist yn enw'r ARGLWYDD a dweud, ‘Bydd y tŷ hwn fel Seilo, a gwneir y ddinas hon yn anghyfannedd, heb breswylydd’?” Yna ymgasglodd yr holl bobl o gwmpas Jeremeia yn nhŷ'r ARGLWYDD.

10 Pan glywodd tywysogion Jwda am hyn, daethant i fyny o dŷ'r brenin i dŷ'r ARGLWYDD, ac eistedd yn nrws porth newydd tŷ'r ARGLWYDD.

11 Dywedodd yr offeiriaid a'r proffwydi wrth y tywysogion ac wrth yr holl bobl, “Y mae'r gŵr hwn yn haeddu cosb marwolaeth, oherwydd proffwydodd yn erbyn y ddinas hon, fel y clywsoch chwi eich hunain.”

12 Yna llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion a'r holl bobl, gan ddweud, “Yr ARGLWYDD a'm hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn a'r ddinas hon yr holl eiriau a glywsoch.

13 Yn awr, gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe newidia'r ARGLWYDD ei feddwl am y drwg a lefarodd yn eich erbyn.

14 Amdanaf fi, dyma fi yn eich dwylo; gwnewch i mi fel y gwelwch yn dda ac uniawn.

15 Ond gwybyddwch yn sicr, os lladdwch fi, y byddwch yn dwyn arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon a'i thrigolion, waed dyn dieuog. Yn wir, yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon atoch i lefaru'r holl eiriau hyn yn eich clyw.”

16 Dywedodd y tywysogion a'r holl bobl wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, “Nid yw'r gŵr hwn yn haeddu cosb marwolaeth, oherwydd yn enw'r ARGLWYDD ein Duw y llefarodd wrthym.”

17 Yna cododd rhai o blith henuriaid y wlad a dweud wrth holl gynulleidfa'r bobl,

18 “Bu Micha o Moreseth yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, a dywedodd wrth holl bobl Jwda, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:’ ”“Bydd Seion yn faes wedi ei aredig,a Jerwsalem yn garneddau,a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.”

19 A laddwyd ef gan Heseceia brenin Jwda a holl Jwda? Onid ofnodd ef yr ARGLWYDD a cheisio ffafr yr ARGLWYDD, ac oni newidiodd yr ARGLWYDD ei feddwl am y drwg a lefarodd yn eu herbyn? Ond dyma ni am wneud drwg mawr i ni ein hunain.”

20 A bu gŵr arall hefyd yn proffwydo yn enw'r ARGLWYDD, Ureia fab Semaia o Ciriath-jearim. Proffwydodd yn union yr un peth â Jeremeia yn erbyn y ddinas hon a'r wlad hon.

21 Clywodd y Brenin Jehoiacim a'i holl osgordd a'i dywysogion ei eiriau, a cheisiodd y brenin ei ladd. Pan glywodd Ureia, fe ofnodd a ffoi i'r Aifft.

22 Yna anfonodd Jehoiacim wŷr i'r Aifft, sef Elnathan fab Achbor a gwŷr eraill;

23 a daethant i'r Aifft, a chyrchu Ureia oddi yno a'i ddwyn at y Brenin Jehoiacim; lladdodd yntau ef â'r cleddyf, a thaflu ei gorff i fynwent y bobl gyffredin.

24 Yr oedd Ahicam fab Saffan o blaid Jeremeia, fel na roddwyd ef yng ngafael y bobl i'w ladd.