Jeremeia 37 BCN

Cais Sedeceia i Jeremeia

1 Gosodwyd Sedeceia fab Joseia yn frenin ar yr orsedd yng ngwlad Jwda gan Nebuchadnesar yn lle Coneia fab Jehoiacim;

2 ond ni wrandawodd ef, na'i weision na phobl y wlad, ar eiriau'r ARGLWYDD a lefarwyd trwy'r proffwyd Jeremeia.

3 Anfonodd y Brenin Sedeceia Jehucal fab Selemeia a Seffaneia fab Maaseia yr offeiriad at y proffwyd Jeremeia, a dweud, “Gweddïa yn awr drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw.”

4 Yr oedd Jeremeia'n rhodio'n rhydd ymhlith y bobl, oherwydd nid oedd eto wedi ei roi yng ngharchar.

5 Ac yr oedd llu Pharo wedi dod i fyny o'r Aifft, a phan glywodd y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem am hyn, ciliasant oddi wrth Jerwsalem.

6 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Jeremeia a dweud,

7 “Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Dywedwch fel hyn wrth frenin Jwda, sydd wedi eich anfon i ymofyn â mi: Bydd llu Pharo, a ddaeth atoch yn gymorth, yn dychwelyd i'w wlad ei hun, i'r Aifft.

8 Yna bydd y Caldeaid yn dychwelyd ac yn rhyfela yn erbyn y ddinas hon, yn ei hennill ac yn ei llosgi â thân.

9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch â'ch twyllo'ch hunain, gan ddweud, “Y mae'r Caldeaid yn siŵr o gilio oddi wrthym”, oherwydd ni chiliant.

10 Oherwydd pe baech yn trechu holl lu'r Caldeaid sydd yn rhyfela yn eich erbyn, heb adael neb ond y rhai archolledig, eto byddent yn codi bob un o'i babell ac yn llosgi'r ddinas hon â thân.’ ”

Dal Jeremeia a'i Garcharu

11 Pan giliodd llu'r Caldeaid oddi wrth Jerwsalem o achos llu Pharo,

12 yr oedd Jeremeia'n gadael Jerwsalem i fynd i dir Benjamin i gymryd meddiant o'i dreftadaeth yno ymysg y bobl;

13 a phan gyrhaeddodd borth Benjamin, yr oedd swyddog y gwarchodlu yno, dyn o'r enw Ireia fab Selemeia, fab Hananeia; daliodd ef y proffwyd Jeremeia a dweud, “Troi at y Caldeaid yr wyt ti.”

14 Atebodd Jeremeia ef, “Celwydd yw hynny; nid wyf yn troi at y Caldeaid.” Ond ni wrandawai Ireia arno, ond fe'i daliodd a mynd ag ef at y swyddogion.

15 Ffyrnigodd y swyddogion at Jeremeia, a'i guro a'i garcharu yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd, y tŷ a wnaethpwyd yn garchardy.

16 Felly yr aeth Jeremeia i'r ddaeargell ac aros yno dros amryw o ddyddiau.

17 Yna anfonodd y Brenin Sedeceia, a'i dderbyn i'w ŵydd a'i holi'n gyfrinachol yn ei dŷ, a dweud, “A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD?” Atebodd Jeremeia, “Oes; fe'th roddir yn llaw brenin Babilon.”

18 A dywedodd Jeremeia wrth y Brenin Sedeceia, “Pa ddrwg a wneuthum i ti neu i'th weision neu i'r bobl hyn, i beri i chwi fy rhoi yng ngharchar?

19 Ple mae eich proffwydi a broffwydodd i chwi a dweud na ddôi brenin Babilon yn eich erbyn, nac yn erbyn y wlad hon?

20 Yn awr, gwrando, f'arglwydd frenin, a doed fy nghais o'th flaen. Paid â'm hanfon yn ôl i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd, rhag i mi farw yno.”

21 Yna rhoes y Brenin Sedeceia orchymyn, a rhoddwyd Jeremeia yng ngofal llys y gwylwyr, a rhoddwyd iddo ddogn dyddiol o un dorth o fara o Stryd y Pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Ac arhosodd Jeremeia yng nghyntedd y gwylwyr.