1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Job:
2 “A ddylai un sy'n dadlau â'r Hollalluog fod yn ystyfnig?Caiff yr un sy'n ymryson â Duw ateb am hynny.”
3 Yna atebodd Job:
4 “Un dibwys wyf fi; beth allaf ei ddweud?Rhof fy llaw ar fy ngheg.
5 Yr wyf wedi llefaru unwaith, ac nid atebaf eto;do ddwywaith, ac ni chwanegaf.”
6 Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:
7 “Gwna dy hun yn barod i'r ornest;fe holaf fi di, a chei dithau ateb.
8 A wyt ti'n gwadu fy mod yn iawn,ac yn fy nghondemnio, i'th gyfiawnhau dy hun?
9 A oes gennyt nerth fel sydd gan Dduw?A fedri daranu â'th lais fel y gwna ef?
10 “Addurna dy hun â balchder ac urddas,a gwisga ogoniant a harddwch.
11 Gollwng yn rhydd angerdd dy ddig;edrych ar bob balch, i'w daflu i'r llawr.
12 Sylwa ar bob balchder, i'w ddiraddio;sathra'r rhai drygionus yn eu lle.
13 Cuddia hwy i gyd yn y llwch;cuddia'u hwynebau o'r golwg.
14 Yna fe'th ganmolafam fod dy law dde'n dy waredu.
15 “Edrych ar Behemoth, a greais yr un adeg â thi;y mae'n bwyta glaswellt fel yr ych.
16 Y mae ei nerth yn ei lwynau,a'i gryfder yng nghyhyrau ei fol.
17 Y mae ei gynffon yn syth fel cedrwydden,a gewynnau ei gluniau wedi eu clymu i'w gilydd.
18 Y mae ei esgyrn fel pibellau pres,a'i goesau fel barrau haearn.
19 “Ef yw'r cyntaf o'r pethau a wnaeth Duw;gwnaed ef yn deyrn dros ei gymrodyr.
20 Y mae'r mynyddoedd yn darparu ysglyfaeth iddo;yr holl anifeiliaid sy'n chwarae yno.
21 Fe orwedd dan y lotus,a chuddio yn y brwyn a'r corsydd.
22 Y mae'r lotus yn gysgod drosto,a helyg yn y nant yn ei guddio.
23 Os cyfyd yr afon drosto, ni chynhyrfa;byddai'n ddi-fraw pe bai'r Iorddonen yn llifo i'w geg.
24 A ellir ei fachu yn ei lygaid,a gwthio tryfer i'w drwyn?”