Joel 3 BCN

Barn Duw ar y Cenhedloedd

1 “Yn y dyddiau hynny ac ar yr amser hwnnw,pan adferaf lwyddiant Jwda a Jerwsalem,

2 fe gasglaf yr holl genhedloedda'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat,a mynd i farn â hwy ynoynglŷn â'm pobl a'm hetifeddiaeth, Israel,am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedda rhannu fy nhir,

3 a bwrw coelbren am fy mhobl,a chynnig bachgen am butain,a gwerthu geneth am win a'i yfed.

4 “Beth ydych chwi i mi, Tyrus a Sidon, a holl ranbarthau Philistia? Ai talu'n ôl i mi yr ydych? Os talu'n ôl i mi yr ydych, fe ddychwelaf y tâl ar eich pen chwi eich hunain yn chwim a buan.

5 Yr ydych wedi cymryd f'arian a'm haur, ac wedi dwyn fy nhrysorau gwerthfawr i'ch temlau.

6 Yr ydych wedi gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid er mwyn eu symud ymhell o'u goror.

7 Ond yn awr fe'u galwaf o'r mannau lle'u gwerthwyd, a dychwelaf eich tâl ar eich pen chwi eich hunain.

8 Gwerthaf eich bechgyn a'ch merched i bobl Jwda, a byddant hwythau'n eu gwerthu i'r Sabeaid, cenedl bell.” Yr ARGLWYDD a lefarodd.

9 “Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd:‘Ymgysegrwch i ryfel;galwch y gwŷr cryfion;doed y milwyr ynghyd i ymosod.

10 Curwch eich ceibiau'n gleddyfaua'ch crymanau'n waywffyn;dyweded y gwan, “Rwy'n rhyfelwr.”

11 “ ‘Dewch ar frys,chwi genhedloedd o amgylch,ymgynullwch yno.’ ”Anfon i lawr dy ryfelwyr, O ARGLWYDD.

12 “Bydded i'r cenhedloedd ymysgwyda dyfod i ddyffryn Jehosaffat;oherwydd yno'r eisteddaf mewn barnar yr holl genhedloedd o amgylch.

13 “Codwch y cryman,y mae'r cynhaeaf yn barod;dewch i sathru,y mae'r gwinwryf yn llawn;y mae'r cafnau'n gorlifo,oherwydd mawr yw eu drygioni.”

Bendith Duw ar ei Bobl

14 Tyrfa ar dyrfayn nyffryn y ddedfryd,oherwydd agos yw dydd yr ARGLWYDDyn nyffryn y ddedfryd.

15 Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu,a'r sêr yn atal eu goleuni.

16 Rhua'r ARGLWYDD o Seion,a chodi ei lef o Jerwsalem;cryna'r nefoedd a'r ddaear.Ond y mae'r ARGLWYDD yn gysgod i'w bobl,ac yn noddfa i blant Israel.

17 “Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw,yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd.A bydd Jerwsalem yn sanctaidd,ac nid â dieithriaid trwyddi eto.

18 “Yn y dydd hwnnw,difera'r mynyddoedd win newydd,a llifa'r bryniau o laeth,a bydd holl nentydd Jwda yn llifo o ddŵr.Tardd ffynnon o dŷ'r ARGLWYDDa dyfrhau dyffryn Sittim.

19 “Bydd yr Aifft yn anghyfanneddac Edom yn anialwch diffaith,oherwydd y gorthrwm ar bobl Jwdawrth dywallt gwaed y dieuog yn eu gwlad.

20 Ond erys Jwda dros bytha Jerwsalem dros genedlaethau.

21 Dialaf eu gwaed, ac ni ollyngaf yr euog,a phreswylia'r ARGLWYDD yn Seion.”

Penodau

1 2 3