Josua 21 BCN

Dinasoedd y Lefiaid

1 Daeth pennau-teuluoedd y Lefiaid at yr offeiriad Eleasar, at Josua fab Nun, ac at bennau-teuluoedd llwythau'r Israeliaid,

2 a dweud wrthynt yn Seilo yng ngwlad Canaan, “Gorchmynnodd yr ARGLWYDD drwy Moses roi dinasoedd i ni i fyw ynddynt, a hefyd eu porfeydd ar gyfer ein hanifeiliaid.”

3 Yna, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoddodd yr Israeliaid o'u hetifeddiaeth hwy y dinasoedd a nodir isod a'u porfeydd i'r Lefiaid.

4 Pan ddisgynnodd y coelbren ar deuluoedd y Cohathiaid, cafodd y Lefiaid a hanoedd o Aaron yr offeiriad dair dinas ar ddeg trwy'r coelbren gan lwythau Jwda, Simeon a Benjamin.

5 Cafodd gweddill y Cohathiaid ddeg dinas trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Effraim, llwyth Dan, a hanner llwyth Manasse.

6 Cafodd y Gersoniaid dair dinas ar ddeg yn Basan trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Issachar, llwyth Aser, llwyth Nafftali a hanner llwyth Manasse.

7 Cafodd y Merariaid ddeuddeg dinas, yn ôl eu teuluoedd, gan lwythau Reuben, Gad a Sabulon.

8 Rhoddodd yr Israeliaid y dinasoedd hyn a'u porfeydd i'r Lefiaid trwy'r coelbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

9 Rhoesant y dinasoedd a enwir yma gan lwythau Jwda a Simeon

10 i'r Lefiaid o deuluoedd y Cohathiaid a hanoedd o Aaron, gan mai arnynt hwy y disgynnodd y coelbren cyntaf.

11 Rhoesant iddynt Ciriath-arba (Arba oedd tad Anac), sef Hebron ym mynydd-dir Jwda, a'r porfeydd o'i hamgylch.

12 Ond rhoesant dir y ddinas a'i phentrefi yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne.

13 I ddisgynyddion Aaron yr offeiriad rhoesant Hebron, dinas noddfa i leiddiaid, hefyd Libna,

14 Jattir, Estemoa,

15 Holon, Debir,

16 Ain, Jutta a Beth-semes, bob un â'i phorfeydd: naw dinas gan y ddau lwyth hynny.

17 Ac o lwyth Benjamin rhoesant Gibeon, Geba,

18 Anathoth, ac Almon, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

19 Cafodd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, dair dinas ar ddeg a'u porfeydd.

20 Gan lwyth Effraim y cafodd gweddill y Lefiaid o linach Cohath eu dinasoedd trwy goelbren, yn ôl teuluoedd y Cohathiaid.

21 Rhoesant Sichem, dinas noddfa i leiddiaid ym mynydd-dir Effraim, hefyd Geser,

22 Cibsaim a Beth-horon, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

23 O lwyth Dan yr oedd Eltece, Gibbethon,

24 Ajalon a Gath-rimmon, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

25 O hanner llwyth Manasse yr oedd Taanach a Gath-rimmon a'u porfeydd: dwy ddinas.

26 Cafodd gweddill teuluoedd y Cohathiaid ddeg dinas i gyd, a'u porfeydd.

27 Gan hanner llwyth Manasse cafodd y Gersoniaid o blith teuluoedd y Lefiaid Golan, dinas noddfa i leiddiaid yn Basan, a hefyd Beestera, bob un â'i phorfeydd: dwy ddinas.

28 O lwyth Issachar cafwyd Cison, Daberath,

29 Jarmuth ac En-gannim, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

30 O lwyth Aser cafwyd Misal, Abdon,

31 Helcath a Rehob, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

32 O lwyth Nafftali cafwyd Cedes, dinas noddfa i leiddiaid yn Galilea, a hefyd Hammoth-dor a Cartan, bob un â'i phorfeydd: tair dinas.

33 Yr oedd gan y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, dair dinas ar ddeg i gyd, a'u porfeydd.

34 Gan lwyth Sabulon cafodd gweddill y Lefiaid a hanoedd o Merari, yn ôl eu teuluoedd, Jocneam, Carta,

35 Dimna a Nahalal, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

36 O lwyth Reuben cafwyd Beser, Jahas,

37 Cedemoth a Meffaath, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas.

38 O lwyth Gad cafwyd Ramoth, dinas noddfa i leiddiaid, yn Gilead, hefyd Mahanaim,

39 Hesbon a Jaser, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas i gyd.

40 Nifer y dinasoedd a gafodd y Merariaid, sef gweddill teuluoedd y Lefiaid, oedd deuddeg dinas i gyd, trwy'r coelbren yn ôl eu teuluoedd.

41 Yr oedd nifer dinasoedd y Lefiaid oddi mewn i diriogaeth yr Israeliaid yn wyth a deugain o ddinasoedd a'u porfeydd.

42 Yr oedd gan bob un o'r dinasoedd hyn ei phorfeydd o'i hamgylch; dyna'r drefn gyda phob un o'r dinasoedd hyn.

Israel yn Meddiannu'r Wlad

43 Rhoddodd yr ARGLWYDD i Israel yr holl wlad a addawodd i'w hynafiaid. Wedi iddynt ei meddiannu ac ymsefydlu ynddi,

44 rhoddodd yr ARGLWYDD ddiogelwch iddynt ar bob tu, yn union fel yr addawodd i'w hynafiaid; ni allodd yr un o'u gelynion eu gwrthsefyll, oherwydd rhoddodd yr ARGLWYDD hwy oll yn eu dwylo.

45 Ni fethodd un o'r holl bethau da a addawodd yr ARGLWYDD i dŷ Israel; daeth y cwbl i ben.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24