Malachi 1 BCN

Oracl

1 Gair yr ARGLWYDD i Israel trwy Malachi.

Duw yn Caru Jacob

2 “Rwy'n eich caru,” medd yr ARGLWYDD, a dywedwch chwithau, “Ym mha ffordd yr wyt yn ein caru?” “Onid yw Esau'n frawd i Jacob?” medd yr ARGLWYDD.

3 “Yr wyf yn caru Jacob, ond yn casáu Esau; gwneuthum ei fynyddoedd yn ddiffeithwch a'i etifeddiaeth yn gartref i siacal yr anialwch.”

4 Os dywed Edom, “Maluriwyd ni, ond adeiladwn ein hadfeilion eto,” fe ddywed ARGLWYDD y Lluoedd fel hyn: “Os adeiladant, fe dynnaf i lawr, ac fe'u gelwir yn diriogaeth drygioni ac yn bobl y digiodd yr ARGLWYDD wrthynt am byth.”

5 Cewch weld hyn â'ch llygaid eich hunain a dweud, “Y mae'r ARGLWYDD yn fawr hyd yn oed y tu allan i Israel.”

Ceryddu'r Offeiriaid

6 “Y mae mab yn anrhydeddu ei dad, a gwas ei feistr. Os wyf fi'n dad, ple mae f'anrhydedd? Os wyf yn feistr, ple mae fy mharch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd wrthych chwi'r offeiriaid, sy'n dirmygu ei enw. A dywedwch, “Sut y bu inni ddirmygu dy enw?”

7 “Wrth offrymu bwyd halogedig ar fy allor.” A dywedwch, “Sut y bu inni ei halogi?” “Wrth feddwl y gellir dirmygu bwrdd yr ARGLWYDD,

8 a thybio, pan fyddwch yn offrymu anifeiliaid dall yn aberth, nad yw hynny'n ddrwg, a phan fyddwch yn offrymu rhai cloff neu glaf, nad yw hynny'n ddrwg. Pe dygech hyn i lywodraethwr y wlad, a fyddai ef yn fodlon ac yn dangos ffafr atoch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

9 “Yn awr, ceisiwch ffafr Duw, er mwyn iddo drugarhau wrthym; a'r fath rodd gennych, a ddengys ef ffafr atoch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

10 “O na fyddai rhywun o'ch plith yn cloi'r drysau, rhag i chwi aberthu'n ofer ar fy allor! Nid wyf yn fodlon o gwbl arnoch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ac ni dderbyniaf offrwm gennych.

11 Oherwydd y mae f'enw yn fawr ymysg y cenhedloedd o'r dwyrain i'r gorllewin, ac ym mhob man offrymir arogldarth ac offrwm pur i'm henw; oherwydd mawr yw f'enw ymysg y cenhedloedd,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

12 “Ond yr ydych chwi yn ei halogi wrth feddwl y gallwch ddifwyno bwrdd yr ARGLWYDD â bwyd gwrthodedig.

13 Wrth ei arogli, fe ddywedwch, ‘Mor atgas yw!’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Os dygwch anifeiliaid anafus, cloff neu glaf, a'u cyflwyno'n offrwm, a dderbyniaf hwy gennych?” medd yr ARGLWYDD.

14 “Melltith ar y twyllwr sy'n addunedu hwrdd o'i braidd, ond sy'n aberthu i'r Arglwydd un â nam arno; oherwydd brenin mawr wyf fi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “a'm henw'n ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.”

Penodau

1 2 3 4