Nehemeia 5 BCN

Gorthrymu'r Tlodion

1 Dechreuodd y bobl gyffredin a'u gwragedd gwyno'n enbyd yn erbyn eu cyd-Iddewon.

2 Yr oedd rhai yn dweud, “Yr ydym yn gorfod gwystlo ein meibion a'n merched i gael ŷd er mwyn bwyta a byw.”

3 Yr oedd eraill yn dweud, “Yr ydym yn gorfod gwystlo ein meysydd a'n gwinllannoedd a'n tai er mwyn prynu ŷd yn ystod y newyn.”

4 Dywedai eraill, “Yr ydym wedi benthyca arian ar ein meysydd a'n gwinllannoedd i dalu treth y brenin.

5 Yr ydym o'r un cnawd â'n tylwyth, ac y mae ein plant ni fel eu plant hwy; eto, yr ydym ni'n gorfod gwneud caethweision o'n meibion a'n merched. Y mae rhai o'n merched eisoes yn gaethion, ond ni allwn wneud dim, gan fod ein meysydd a'n gwinllannoedd ym meddiant eraill.”

6 Pan glywais eu cwyn a'r hyn yr oeddent yn ei ddweud, yr oeddwn yn ddig iawn.

7 Yna, ar ôl ystyried y peth yn ofalus, ceryddais y pendefigion a'r swyddogion a dweud wrthynt, “Yr ydych yn mynnu llog gan eich cymrodyr.” Ceryddais hwy'n llym,

8 a dweud, “Yr ydym ni, yn ôl ein gallu, wedi prynu ein cyd-Iddewon a werthwyd i'r cenhedloedd, ond yr ydych chwi'n gwerthu eich brodyr, a ninnau'n gorfod eu prynu'n ôl.” Yr oeddent yn ddistaw heb air i'w ddweud.

9 Ac meddwn wrthynt, “Nid ydych yn ymddwyn yn iawn. Oni ddylech ofni ein Duw yn hytrach na gwaradwydd y cenhedloedd, ein gelynion?

10 Yr wyf fi a'm brodyr a'm gweision yn rhoi arian ac ŷd ar fenthyg iddynt. Gadewch i ni roi terfyn ar y llogau hyn.

11 Rhowch yn ôl iddynt ar unwaith eu meysydd, eu gwinllannoedd, eu gerddi olewydd a'u tai; a hefyd y ganfed ran yr ydych wedi ei chymryd ganddynt yn llog mewn arian, ŷd, gwin ac olew.”

12 Dywedasant, “Fe'u rhoddwn yn ôl, ac ni ofynnwn iddynt am ragor; gwnawn fel yr wyt yn ei orchymyn.” Yna gelwais ar yr offeiriaid i wneud iddynt addunedu i gadw eu haddewid;

13 ysgydwais fy mantell a dweud, “Fel hyn bydded i Dduw ysgwyd o'i dŷ ac o'i eiddo bob un sy'n gwrthod cadw'r addewid hon; bydded wedi ei ysgwyd yn wag.” A dywedodd yr holl gynulleidfa, “Amen”, a moliannu'r ARGLWYDD. Ac fe gadwodd y bobl at yr addewid hon.

Anhunanoldeb Nehemeia

14 Ac yn wir, o'r dydd y penodwyd fi yn llywodraethwr yng ngwlad Jwda, o'r ugeinfed hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i'r Brenin Artaxerxes, sef cyfnod o ddeuddeng mlynedd, ni fwyteais i na'm brodyr ddogn bwyd y llywodraethwr.

15 Bu'r llywodraethwyr blaenorol oedd o'm blaen i yn llawdrwm ar y bobl, ac yn cymryd ganddynt bob dydd fara a gwin gwerth deugain sicl o arian. Yr oedd eu gweision hefyd yn arglwyddiaethu ar y bobl. Ond ni wneuthum i ymddwyn fel hyn am fy mod yn ofni Duw.

16 Atgyweiriais y mur hwn, er nad oeddwn berchen yr un cae, a daeth fy holl weision at ei gilydd yno ar gyfer y gwaith.

17 Yr oedd cant a hanner o'r Iddewon a'r llywodraethwyr, yn ogystal â'r rhai a ddaeth atom oddi wrth y cenhedloedd o'n cwmpas,

18 wrth fy mwrdd, fel bod ych, a chwech o'r defaid gorau, ac adar yn cael eu paratoi ar fy nghyfer bob dydd, a digon o win o bob math bob deg diwrnod; er hynny ni ofynnais am ddogn bwyd y llywodraethwr am ei bod yn galed ar y bobl.

19 Fy Nuw, cofia er daioni i mi y cwbl a wneuthum i'r bobl yma.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13