Nehemeia 8 BCN

Esra'n Darllen y Gyfraith i'r Bobl

1 Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu trefi, ymgasglodd yr holl bobl fel un yn y sgwâr sydd o flaen Porth y Dŵr. Yna dywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd am ddod â llyfr cyfraith Moses, sef yr un a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Israel.

2 Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis daeth Esra yr offeiriad â'r gyfraith o flaen y gynulleidfa, yn wŷr a gwragedd, pawb a fedrai ddeall yr hyn a glywai.

3 Darllenodd rannau ohoni, o doriad gwawr hyd hanner dydd, yng ngŵydd y gwŷr a'r gwragedd oedd yn medru deall, gan wynebu'r sgwâr o flaen Porth y Dŵr; a gwrandawodd pawb yn astud ar lyfr y gyfraith.

4 Safodd Esra yr ysgrifennydd ar bulpud pren oedd wedi ei wneud i'r diben. Ar yr ochr dde iddo safodd Matitheia, Sema, Anaia, Ureia, Hilceia a Maaseia, ac ar y chwith Pedaia, Misael, Malcheia, Hasum, Hasbadana, Sechareia a Mesulam.

5 Agorodd Esra y llyfr yng ngolwg yr holl bobl, oherwydd yr oedd ef yn uwch na hwy, a phan agorodd y llyfr, safodd pawb ar eu traed.

6 Bendithiodd Esra yr ARGLWYDD, y Duw mawr, ac atebodd yr holl bobl, “Amen, Amen”, gan godi eu dwylo ac ymgrymu ac addoli'r ARGLWYDD â'u hwynebau tua'r ddaear.

7 Yr oedd y Lefiaid, Jesua, Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia, yn egluro'r gyfraith i'r bobl, a hwythau'n aros yn eu lle.

8 Yr oeddent yn darllen o lyfr cyfraith Dduw, ac yn ei gyfieithu a'i esbonio fel bod pawb yn deall y darlleniad.

9 Yna dywedodd Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn hyfforddi'r bobl, wrth yr holl bobl, “Y mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw; peidiwch â galaru nac wylo.” Oherwydd yr oedd pawb yn wylo wrth wrando ar eiriau'r gyfraith.

10 Yna fe ddywedodd wrthynt, “Ewch, bwytewch ddanteithion ac yfwch win melys a rhannwch â'r sawl sydd heb ddim, oherwydd mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'n Harglwydd; felly, peidiwch â galaru, oherwydd llawenhau yn yr ARGLWYDD yw eich nerth.”

11 A thawelodd y Lefiaid yr holl bobl a dweud, “Byddwch ddistaw; peidiwch â galaru, oherwydd y mae heddiw yn ddydd sanctaidd.”

12 Yna aeth pawb i ffwrdd i fwyta ac yfed ac i rannu ag eraill ac i orfoleddu, oherwydd yr oeddent wedi deall yr hyn a ddywedwyd wrthynt.

Gŵyl y Pebyll

13 Ar yr ail ddiwrnod daeth pennau-teuluoedd yr holl bobl, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, at Esra yr ysgrifennydd er mwyn astudio geiriau'r gyfraith.

14 Yn y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD trwy Moses, fe gawsant yn ysgrifenedig y dylai'r Israeliaid fyw mewn pebyll yn ystod yr ŵyl yn y seithfed mis,

15 a'u bod i anfon gair a chyhoeddi ym mhob un o'u dinasoedd yn ogystal ag yn Jerwsalem, “Ewch allan i'r mynydd, a dygwch gangau olewydd ac olewydd gwyllt a myrtwydd a phalmwydd a choed deiliog i wneud pebyll, fel yr ysgrifennwyd.”

16 Aeth y bobl allan i'w cyrchu, a gwnaethant bebyll iddynt eu hunain, pob un ar do ei dŷ ac yn eu cynteddoedd ac yng nghynteddoedd tŷ Dduw ac yn y sgwâr o flaen Porth y Dŵr ac yn y sgwâr o flaen Porth Effraim.

17 Gwnaeth yr holl gynulleidfa a ddychwelodd o'r gaethglud bebyll, a byw ynddynt. Nid oedd yr Israeliaid wedi gwneud hyn o amser Josua fab Nun hyd y dydd hwnnw; a bu gorfoledd mawr iawn.

18 Darllenwyd o lyfr cyfraith Dduw yn feunyddiol o'r dydd cyntaf hyd yr olaf. Cadwasant yr ŵyl am saith diwrnod, ac ar yr wythfed dydd bu cynulliad yn ôl y ddefod.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13