Numeri 10 BCN

Yr Utgyrn Arian

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2 “Gwna ddau drwmped o arian gyr, a defnyddia hwy i alw'r cynulliad ynghyd, er mwyn i'r gwersyll gychwyn ar ei daith.

3 Os cenir y ddau drwmped, bydd yr holl gynulliad yn ymgasglu atat wrth ddrws pabell y cyfarfod;

4 ond os un ohonynt a genir, yna yr arweinwyr yn unig, sef penaethiaid llwythau Israel, fydd yn ymgasglu atat.

5 Pan roddir bloedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y dwyrain yn cychwyn ar eu taith,

6 a phan roddir yr ail floedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y de yn cychwyn.

7 Fe roddir bloedd pryd bynnag y byddant yn cychwyn ar eu taith.

8 Pan yw'r cynulliad i ymgasglu ynghyd, fe genir y trwmped, ond ni roddir bloedd. Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r trwmpedau, a bydd hyn yn ddeddf i'w chadw gennych am byth, dros y cenedlaethau.

9 Pan fyddwch yn mynd i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y rhai sy'n eich gorthrymu, rhowch floedd a chanu'r trwmpedau, er mwyn i'r ARGLWYDD eich Duw gofio amdanoch, a'ch achub rhag eich gelynion.

10 Hefyd, ar ddydd o lawenydd, ar eich gwyliau penodedig, ac ar ddechrau pob mis, canwch y trwmpedau uwchben eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau; byddant yn eich dwyn i gof gerbron eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”

Yr Israeliaid yn Ailgychwyn ar eu Taith

11 Ar yr ugeinfed dydd o'r ail fis o'r ail flwyddyn, cododd y cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth,

12 a chychwynnodd pobl Israel yn gwmnïau ar eu taith o anialwch Sinai; yna arhosodd y cwmwl yn anialwch Paran.

13 Felly cychwynasant allan am y tro cyntaf ar orchymyn yr ARGLWYDD trwy Moses.

14 Minteioedd gwersyll Jwda oedd y rhai cyntaf i gychwyn dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Nahson fab Amminadab.

15 Dros lu llwyth pobl Issachar yr oedd Nethanel fab Suar,

16 a thros lu llwyth pobl Sabulon yr oedd Eliab fab Helon.

17 Wedi tynnu'r tabernacl i lawr, fe gychwynnodd meibion Gerson a meibion Merari, gan mai hwy oedd yn cario'r tabernacl.

18 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll Reuben dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisur fab Sedeur.

19 Dros lu llwyth pobl Simeon yr oedd Selumiel fab Surisadai,

20 a thros lu llwyth pobl Gad yr oedd Eliasaff fab Reuel.

21 Yna cychwynnodd y Cohathiaid, gan gludo'r pethau cysegredig, a chodwyd y tabernacl cyn iddynt hwy gyrraedd.

22 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Effraim dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisama fab Ammihud.

23 Dros lu llwyth pobl Manasse yr oedd Gamaliel fab Pedasur,

24 a thros lu llwyth pobl Benjamin yr oedd Abidan fab Gideoni.

25 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Dan, y gwersyll olaf un, dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Ahieser fab Ammisadai.

26 Dros lu llwyth pobl Aser yr oedd Pagiel fab Ocran,

27 a thros lu llwyth pobl Nafftali yr oedd Ahira fab Enan.

28 Dyma drefn pobl Israel wrth iddynt gychwyn allan yn ôl eu lluoedd.

29 Dywedodd Moses wrth Hobab fab Reuel y Midianiad, tad-yng-nghyfraith Moses, “Yr ydym yn mynd i'r lle yr addawodd yr ARGLWYDD ei roi inni; tyrd gyda ni, a byddwn yn garedig wrthyt, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau da i Israel.”

30 Ond atebodd ef, “Nid wyf am ddod; af yn hytrach i'm gwlad fy hun ac at fy mhobl fy hun.”

31 Dywedodd Moses, “Paid â'n gadael, oherwydd fe wyddost ti lle cawn wersyllu yn yr anialwch, a gelli ein harwain.

32 Os doi gyda ni, fe gei ran yn y pethau da a wna'r ARGLWYDD drosom, a byddwn yn garedig wrthyt.”

Y Bobl yn Cychwyn Allan

33 Felly cychwynasant o fynydd yr ARGLWYDD ar daith dridiau, ac yr oedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen ar hyd y daith i geisio lle iddynt orffwys.

34 Yr oedd cwmwl yr ARGLWYDD uwchben yn ystod y dydd wrth iddynt gychwyn o'r gwersyll.

35 Pan gychwynnai'r arch allan, byddai Moses yn dweud, “Cod, ARGLWYDD, gwasgar d'elynion, a boed i'r rhai sy'n dy gasáu ffoi o'th flaen.”

36 A phan ddôi'r arch i orffwys, byddai'n dweud, “Dychwel, ARGLWYDD, at fyrddiynau Israel.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36