Sechareia 12 BCN

Gwaredigaeth Jerwsalem

1 Oracl. Gair yr ARGLWYDD am Israel. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD a daenodd y nefoedd a sylfaenu'r ddaear a llunio ysbryd mewn pobl:

2 “Wele fi'n gwneud Jerwsalem yn gwpan feddwol i'r holl bobloedd oddi amgylch; a bydd yn Jwda warchae yn erbyn Jerwsalem.

3 Yn y dydd hwnnw, pan fydd holl genhedloedd y ddaear wedi ymgasglu yn ei herbyn, gwnaf Jerwsalem yn garreg rhy drom i'r holl bobloedd, a bydd pwy bynnag a'i cwyd yn brifo'n arw.

4 Y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “trawaf bob ceffyl â syndod, a'i farchog â dryswch; cadwaf fy ngolwg ar dŷ Jwda, ond trawaf holl geffylau'r bobloedd yn ddall.

5 Yna dywed tylwythau Jwda wrthynt eu hunain, ‘Cafodd trigolion Jerwsalem nerth trwy ARGLWYDD y Lluoedd, eu Duw.’

6 “Y dydd hwnnw gwnaf dylwythau Jwda fel basged dân yng nghanol coed, fel ffagl dân mewn ysgub; byddant yn ysu'r holl bobloedd o'u cwmpas, ar y dde a'r chwith, ac eto bydd Jerwsalem ei hun yn aros yn ddiogel yn ei lle.

7 “Rhydd yr ARGLWYDD waredigaeth yn gyntaf i deuluoedd Jwda, rhag i ogoniant tŷ Dafydd a gogoniant trigolion Jerwsalem ddyrchafu'n uwch na Jwda.

8 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn amddiffyn trigolion Jerwsalem, a bydd y gwannaf ohonynt fel Dafydd, yn y dydd hwnnw, a llinach Dafydd fel Duw, fel angel yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau.

9 “Yn y dydd hwnnw af ati i ddinistrio'r holl genhedloedd sy'n dod yn erbyn Jerwsalem.

10 A thywalltaf ar linach Dafydd ac ar drigolion Jerwsalem ysbryd gras a gweddïau, ac edrychant ar yr un a drywanwyd ganddynt, a galaru amdano fel am uniganedig, ac wylo amdano fel am gyntafanedig.

11 Y dydd hwnnw bydd y galar yn Jerwsalem gymaint â'r galar am Hadad-rimmon yn nyffryn Megido.

12 Galara'r wlad, pob teulu wrtho'i hun—teulu llinach Dafydd wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain; teulu llinach Nathan wrtho'i hun a'i wragedd wrthynt eu hunain;

13 teulu llinach Lefi wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain; teulu Simei wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain;

14 a'r gweddill o'r holl deuluoedd wrthynt eu hunain, a'u gwragedd wrthynt eu hunain.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14