1 Pan edrychais i fyny, gwelais ŵr â llinyn mesur yn ei law,
2 a dywedais, “Ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd, “I fesur Jerwsalem, i weld beth yw ei lled a beth yw ei hyd.”
3 Wrth i'r angel oedd yn siarad â mi ddod allan, daeth angel arall i'w gyfarfod,
4 a dweud wrtho, “Rhed i ddweud wrth y llanc acw, ‘Bydd Jerwsalem yn faestrefi heb furiau, gan mor niferus fydd pobl ac anifeiliaid ynddi.
5 A byddaf fi,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yn fur o dân o'i hamgylch, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.’ ”
6 “Gwyliwch, gwyliwch! Ffowch o dir y gogledd,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd taenaf chwi ar led fel pedwar gwynt y nefoedd,” medd yr ARGLWYDD.
7 “Gwyliwch! Ffowch i Seion, chwi sy'n trigo ym Mabilon.”
8 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, wedi i'w ogoniant fy anfon at y cenhedloedd sy'n eich ysbeilio, am fod pob un sy'n cyffwrdd â chwi yn cyffwrdd â channwyll ei lygad:
9 “Wele fi'n ysgwyd fy nwrn yn eu herbyn, a byddant yn ysbail i'w gweision eu hunain.” Yna cewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd.
10 “Gwaedda a gorfoledda, ferch Seion; oherwydd yr wyf yn dod i drigo yn dy ganol,” medd yr ARGLWYDD.
11 “A bydd cenhedloedd lawer yn glynu wrth yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn dod yn bobl i mi, a byddaf yn trigo yn dy ganol, a chei wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd atat.
12 Bydd yr ARGLWYDD yn etifeddu Jwda yn gyfran iddo yn y tir sanctaidd, a bydd eto yn dewis Jerwsalem.
13 Distawed pawb gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd y mae wedi codi o'i drigfa sanctaidd.”