1 Edrychais i fyny eto, a gweld sgrôl yn ehedeg.
2 A dywedodd wrthyf, “Beth a weli?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld sgrôl yn ehedeg, yn ugain cufydd ei hyd, a'i lled yn ddeg cufydd.”
3 Yna dywedodd wrthyf, “Dyma'r felltith sy'n mynd allan dros yr holl ddaear: yn ôl un ochr, torrir ymaith pwy bynnag sy'n lladrata; yn ôl yr ochr arall, torrir ymaith pwy bynnag sy'n tyngu anudon.
4 Fe'i hanfonaf allan,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ac fe â i mewn i dŷ'r lleidr ac i dŷ'r un sy'n tyngu'n gelwyddog yn fy enw; ac fe erys yng nghanol ei dŷ a'i ddifetha, yn goed a cherrig.”
5 Daeth yr angel oedd yn siarad â mi a dweud wrthyf, “Edrych i fyny i weld beth yw hyn sy'n dod i'r golwg.”
6 Pan ofynnais, “Beth ydyw?” atebodd, “Casgen sy'n dod.” A dywedodd, “Dyma'u drygioni trwy'r holl ddaear.”
7 Yna codwyd y caead plwm, ac yr oedd dynes yn eistedd yn y gasgen.
8 Dywedodd yr angel, “Drygioni yw hon,” a thaflodd hi i waelod y gasgen a chau'r caead plwm arni.
9 Edrychais i fyny, a gweld dwy wraig yn dod, a'r gwynt dan eu hadenydd (yr oedd ganddynt adenydd fel adenydd garan), ac yn codi'r gasgen rhwng nefoedd a daear.
10 Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “I ble maent yn mynd â'r gasgen?”
11 Dywedodd wrthyf, “I godi tŷ iddi yng ngwlad Sinar, a phan fydd yn barod fe'i gadewir yno yn ei lle priodol.”