1 Ym mhedwaredd flwyddyn y Brenin Dareius, ar y pedwerydd dydd o'r nawfed mis, Cislef, daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia.
2 Yr oedd pobl Bethel wedi anfon Sareser a Regem-melech a'u gwŷr i geisio ffafr yr ARGLWYDD,
3 ac i ofyn i'r offeiriaid oedd yn nhŷ ARGLWYDD y Lluoedd ac i'r proffwydi, “A ddylid galaru ac ymprydio yn y pumed mis fel y gwneir ers blynyddoedd bellach?”
4 Yna daeth gair ARGLWYDD y Lluoedd ataf a dweud,
5 “Dywed wrth holl bobl y tir ac wrth yr offeiriaid, ‘Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed mis ac yn y seithfed mis y deng mlynedd a thrigain hyn, ai er fy mwyn i yr oeddech yn ymprydio?
6 A phan oeddech yn bwyta ac yn yfed, onid er eich mwyn eich hunain yr oeddech yn bwyta ac yn yfed?
7 Onid hyn a gyhoeddodd yr ARGLWYDD trwy'r proffwydi gynt pan oedd Jerwsalem yn boblog a llewyrchus, gyda'i threfi o'i hamgylch, a'r Negef a'r Seffela hefyd yn boblog?’ ”
8 Daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia:
9 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Barnwch yn deg, a dangoswch drugaredd a thosturi tuag at eich gilydd;
10 peidiwch â gorthrymu'r weddw, yr amddifad, yr estron a'r tlawd, na dyfeisio yn eich meddyliau ddrwg i'ch gilydd.’
11 Ond gwrthodasant wrando, a throi cefn yn ystyfnig arnaf, a chau eu clustiau rhag iddynt glywed.
12 Gwnaethant eu calonnau fel carreg rhag clywed y gyfraith a'r geiriau a anfonodd ARGLWYDD y Lluoedd â'i ysbryd trwy'r proffwydi gynt; a daeth digofaint mawr oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd.
13 ‘Nid oeddent hwy'n gwrando pan oeddwn i'n galw; yn yr un modd nid oeddwn innau'n gwrando pan oeddent hwy'n galw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd,
14 ‘a gwasgerais hwy ymhlith yr holl genhedloedd nad oeddent yn eu hadnabod, a gadael eu tir yn ddiffaith ar eu hôl, heb neb yn mynd a dod yno. Felly y gwnaethant eu tir dymunol yn ddiffeithwch.’ ”