1 Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
2 Addolwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd,dewch o'i flaen â chân.
3 Gwybyddwch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw;ef a'n gwnaeth, a'i eiddo ef ydym,ei bobl a defaid ei borfa.
4 Dewch i mewn i'w byrth â diolch,ac i'w gynteddau â mawl.Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.
5 Oherwydd da yw'r ARGLWYDD;y mae ei gariad hyd byth,a'i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.